Galwad Agored am Artist Syrcas wedi’i leoli ger Abertawe/ Llanelli, De Cymru.

Dyddiad Cychwyn: Chwefror 29ain

Dyddiad cau am geisiadau: Chwefror 16eg

 

Anghenfil y Môr

Ffi: £1500 am 48 awr o waith (6 diwrnod) ar draws ychydig o fisoedd.

(Mae hwn yn torri lawr i £250 y dydd neu £31.25 yr awr.)

Byddai hwn yn addas ar gyfer rywun lleol gan mae’r ymarferion yn wythnosol ac yn para dim mwy na 4 awr o hyd. Nid oes unrhyw lwfansau am lety.

Manyleb Bersonol:

Prif Sgiliau

Rhaff Awyrol

Acrobateg

Gwaith Partner

Theatr Gorfforol

Sgiliau / profiad ychwanegol

Gwaith Dyfeisio

Gweithio fel ‘ensemble’

Mwynhau’r broses greadigol

Dyddiadau:

Gwnewch gais dim ond os ydych ar gael ar gyfer y dyddiadau canlynol. Bydd ymarferion yn para 2-4 awr, naill ai yn Y Ffwrnes, Llanelli neu mewn lleoliad yn Abertawe, ar y dyddiadau canlynol:

Chwefror Dydd Iau 29ain 

Mawrth: 1af, 7fed, 8fed, 14eg, 15fed, 21ain, 22ain

Ebrill: 4ydd, 11eg, 12fed, 19eg, 26ain, 

Mai: 2ail, 3ydd

 

Y Sioe

Mae Anghenfil y Môr yn cynnwys “‘Adrodd stori weledol ryfeddol i wneud i chi ystyried yr hyn rydych wedi’i greu allan ac o ble rydych chi’n dod.” Hen chwedl gwerin yw Anghenfil y Môr sy’n seiliedig ar iachau ac ar y cylchoedd o fywyd a marwolaeth. Trwy cyfuniad o adrodd straeon, syrcas awyrol, acrobateg a dawns, adroddir hanes dramatig am anghenfil llusgwyd allan o’r môr. Wedi’i glymu yn rhwyd morwr lleol, mae’r anghenfil yn ymlid ar y dyn yr holl ffordd adref. Gan ymgrymu, mae’r morwr yn rhyddhau'r anghenfil o’r rhwyd. Dyma chwedl am iachâd a dathlu’r heriau rydym yn eu hwynebu er mwyn profi bywyd yn llawn. Addas ar gyfer oedolion a phlant, awgrymir 6+. 

Mi fydd y sioe yn mynd allan am dendr ar gyfer yr haf. Rydw i’n edrych i ddod o hyd i artist sydd ar gael i berfformio dros yr haf. 

Bydd perfformiadau yn cael eu talu ar gyfradd o £300 y dydd gyda theithio, per diems a llety ar ben.

Mae croeso i chi anfon e-bost am ragor o wybodaeth neu gwestiynau. Gallwch ddarganfod mwy am fy ngwaith yma: www.lephysical.co.uk

I wneud cais: Anfonwch e-bost i Natalie-  info@lephysical.co.uk gyda

1) Ffilm fideo ohonoch chi'ch hun

2) Sut rydych chi'n ffitio'r fanyleb bersonol

3) Eich argaeledd ar gyfer y dyddiadau ymarfer

4) Eich argaeledd ar gyfer perfformio dros yr haf