Wedi’i gomisiynu gan Ganolfan Gelfyddydau Dyer, Efrog Newydd a’i gefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae Anadlu ar Amser Benthyg yn archwilio creadigrwydd a chwaeroliaeth fyddar trwy stori bywyd ac ymarfer artistig; wedi’i gyflwyno fel cydweithrediad fideo rhwng Cheryl Beer a Ruth Fabby MBE. Bydd y ffilm derfynol yn cael ei ddangos yn Efrog Newydd yn 2024.
Dywed Cheryl am y prosiect:
“Y llawenydd twymgalon i ni oedd cael y cyfle i gwrdd ag i weithio wyneb yn wyneb am y tro cyntaf, ar ôl datblygu ein cyfeillgarwch creadigol ar-lein yn ystod argyfwng byd-eang y pandemig. Mae archwilio ein hymarfer creadigol o fewn breuder natur a’r hyn y mae’n ei olygu i’n chwaeroliaeth fyddar ni, wedi ein galluogi i gysylltu’n ddyfnach â ni ein hunain fel artistiaid. Fodd bynnag, yn ehangach na hyn, mae cyfraniad artistiaid byddar i ddiwylliant yn flaenorol wedi bod yn anhysbys neu wedi’i ymylu ac amen ein gwaith yn rhoi cipolwg pwysig ar yr yn a fu’n straeon bywyd rhyfeddol.
Diolch I Ganolfan Gelfyddydau Dyer yn Efrog Newydd a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae hanesion ein bywyd bellach yn cynnig gobaith ac esiampl ar draws y byd, tra’n chwalu stereoteipiau am y cyfraniadau a wneir gan artistiaid benywaidd byddar, yn unigol a gyda’n gilydd.”
Barddoniaeth wedi’i hysgrifennu a’i hadrodd gan Ruth gyda seinwedd a ffilm gan Cheryl.