Gwyliwch y ffilm fer ‘All of Wales is a Stage’, wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan y bardd disglair Connor Allen.

Comisiynwyd gan Caerdydd Creadigol fel rhan o’n prosiect peilot Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol.

Mae Caerdydd Creadigol wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chasnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf i gyflwyno Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol, prosiect peilot a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Mae’r tri hwb peilot yn gweithio i ysgogi buddsoddiad ac yn ehangu manteision diwydiannau creadigol ffyniannus Caerdydd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), gan ddathlu a thynnu sylw at greadigrwydd lleol ac adeiladu dyfodol mwy democrataidd a chynhwysol ar gyfer y sector yn y rhanbarth.

Fel rhan o'r gwaith hwn, fe wnaethom gomisiynu'r awdur a'r perfformiwr o Gasnewydd Connor Allen i ysgrifennu 'All of Wales is a Stage'. Ers hynny mae'r darn hwn wedi'i wneud yn y ffilm fer isod, diolch i Red Brck.

https://youtu.be/ssa3jaZ_IYA?si=s53ey0AE88HRDZ2W