Manylion y Rôl:

Mae'r cynhyrchiad hwn yn ymarfer ac yn agor yn Theatr Clwyd; bydd adran Goleuo Theatr Clwyd yn gofalu am drydan y cynhyrchiad i ddechrau, cyn trosglwyddo'r sioe i ofal yr Ailoleuydd ar gyfer y daith.

Bydd yr Ailoleuydd yn gyfrifol am ffitio a gosod yr holl offer goleuo a logir ac offer goleuo'r lleoliad. Bydd y cynlluniau goleuo’n cael eu llunio gan y Cynllunwyr Goleuo a bydd y gwaith papur ar gyfer y daith yn cael ei greu gan yr Ailoleuydd. Bydd yr Ailoleuydd yn ffocysu’r rig goleuo ac yn sicrhau bod y sioe yn cael ei hailoleuo yn unol â chynllun gwreiddiol y darn. Mae'r Ailoleuydd yn gyfrifol hefyd am oleuo cefn y llwyfan yn ôl yr angen.

Rhaid bod â phrofiad gyda rigiau goleuo deallus a rhaglennu goleuadau symudol ar gyfer y rôl hon.

Mae Under Milk Wood yn defnyddio Goleuadau, Fideo a Chapsiynau Creadigol ac felly bydd angen i'r Ailoleuydd weithio ar y cyd â'r Peiriannydd Fideo i sicrhau bod estheteg yr holl gynlluniau’n gytbwys ac yn briodol.

Bydd yr Ailoleuydd yn trosglwyddo’r awenau i'r Rheolwr Technegol Teithiol ar gyfer y rhediad ym mhob lleoliad.

Bydd yr Ailoleuydd yn cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).

Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer unrhyw un o'r swyddi, anfonwch eich CV ar e-bost a nodi pa swyddi yr hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer at Jenny Pearce, Cynhyrchydd ar jenny.pearce@theatrclwyd.com, gan gynnwys unrhyw ofynion mynediad yr hoffech eu rhannu hefyd.

Y dyddiad cau i anfon eich CV yw dydd Iau 16eg Hydref am 5pm, a chewch wybod os hoffem gyfarfod â chi i drafod y swyddi erbyn diwedd y dydd ar ddydd Llun 20fed Hydref.

Bydd y cyfarfodydd ar-lein gyda'r Rheolwr Cynhyrchu, Suzy Sommerville, a’r Pennaeth Cynhyrchu, Hannah Lobb, naill ai ar ddydd Mercher 22ain neu ddydd Iau 23ain Hydref.

Os oes arnoch chi angen y wybodaeth yma mewn unrhyw fformat arall, anfonwch e-bost at jenny.pearce@theatrclwyd.com
 

Dyddiad cau: 16/10/2025