Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi prosiect ymchwil rhyngwladol newydd, Grymuso athrawon cyn gwasanaethu drwy addysgeg greadigol ar y cyd dan arweiniad Dr Lisa Stephenson, Ysgol Addysg Carnegie, Prifysgol Leeds Beckett gyda phartneriaid ar draws 8 prifysgol ledled y byd gan gynnwys Prifysgol Abertawe.
Mae partneriaid y prosiect yn cydweithio i ddylunio a phrofi ffyrdd creadigol o addysgu sy'n helpu athrawon newydd i ddatblygu eu dealltwriaeth gymdeithasol-emosiynol, eu hymwybyddiaeth foesegol a hyder yn eu hymarfer.
I Gyngor Celfyddydau Cymru, mae'r gwaith yn adeiladu'n uniongyrchol ar ei raglen Dysgu Creadigol Cymru - llwybrau cenedlaethol arloesol sy'n defnyddio'r celfyddydau i gefnogi addysgu ar draws pob pwnc, o fathemateg a gwyddoniaeth i rifedd a dinasyddiaeth. Ers 2015, mae Dysgu Creadigol Cymru yn cydweithio â thros 90% o ysgolion Cymru, ymgysylltu â bron i 400,000 o ddisgyblion a hyfforddi dros 7,600 o weithwyr addysgu a bron i 4,000 o weithwyr creadigol.
Mae ymchwil ryngwladol gan gonsortiwm y prosiect yn dangos bod athrawon dan hyfforddiant yn aml â diffyg hyder yn eu creadigrwydd sy’n adlewyrchu colli eu hunaniaeth yn y proffesiwn addysgu. Mae'r prosiect wedi'i gynllunio i’w ddatrys.
Drwy ymgorffori creadigrwydd ar y cyd mewn addysg i athrawon, nod y prosiect yw datblygu galluogedd, gwytnwch a hunaniaeth broffesiynol athrawon y dyfodol.
Mae'r rhaglen yn pwysleisio nad ychwanegiad yw creadigrwydd - mae'n feddylfryd sy'n helpu athrawon i ymgysylltu â disgyblion mewn ffyrdd ystyrlon a dilys, gan roi hwb i ymgysylltiad a chanlyniadau. Mae'r dull yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi uchelgais polisi cenedlaethol ym maes addysg.
Bydd y rhaglen ymchwil weithredol am dair blynedd yn archwilio a phrofi sut y gallai dulliau addysgu creadigol gryfhau’n gymdeithasol ac emosiynol athrawon dan hyfforddiant a gwella eu haddysgeg greadigol gan greu addysgwyr hyderus, moesegol ac ymatebol.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Mae'r rhaglen yn rhoi creadigrwydd wrth wraidd addysg athrawon. Mae'n sicrhau bod athrawon y dyfodol ledled Cymru a’r tu hwnt yn meddu ar y sgiliau, yr hyder a'r galluogedd i ysbrydoli disgyblion wrth gryfhau rhan y celfyddydau mewn addysg ar bob cam."
Mae'r prosiect yn ymateb i broblemau brys: iechyd meddwl pobl ifanc, recriwtio a chadw athrawon a'r angen am sgiliau bywyd cryfach.
Dywedodd Dr Lisa Stephenson, Prif Ymchwilydd Prifysgol Leeds Beckett:
"Mae taer angen yr ymchwil i rymuso ein hathrawon cyn gwasanaethu gydag ymarferion addysgol ymatebol. Mae’n wych gallu cynnwys arbenigedd rhyngwladol yn y consortiwm. Bydd y prosiect yn lansio’r cam cyntaf o ymchwil, gyda'r nod o osod llwybr i newid addysg ystyrlon ym maes addysg athrawon."
Bydd yn treialu dulliau newydd yn 2025/26 gyda Phrifysgol Abertawe a phartneriaid rhyngwladol eraill, cyn ehangu i holl ddarparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru erbyn blwyddyn 3.
Y partneriaid sy'n rhan o'r prosiect pwysig yw:
• Dr Helen Lewis (Prifysgol Abertawe)
• Dr Lisa Stephenson (Prifysgol Leeds Beckett)
• Dr Lesley Emerson (Prifysgol y Frenhines, Belffast)
• Dr Sonja Kuzich, Dr Paul Gardner, Dr Carol Carter (Prifysgol Curtin, Awstralia)
• Yr Athro Rannveig Björk Þorkelsdóttir a Jóna Guðrún Jónsdóttir (Prifysgol Gwlad yr Iâ)
• Dr Deirdre McGillicuddy (Prifysgol Dulyn)
• Dr Navan Govander (Prifysgol Strathclyde)
• Naomi Lord (Cyfarwyddwr, Creatives Now)
Dywedodd Siân James, Rheolwr Rhaglen, Dysgu Creadigol Cymru:
"Rydym wrth ein bodd i gydariannu'r flwyddyn beilot o ymchwil weithredol ryngwladol. Mae angen creu newid ar lefel polisi cenedlaethol i sicrhau bod creadigrwydd yn cael ei feithrin ar draws y cwricwlwm, o addysg athrawon gychwynnol i ddysgu proffesiynol a datblygu arweinyddiaeth."
I Gymru, mae'r manteision yn glir:
• gosod Dysgu Creadigol Cymru ar flaen y gad ym maes ymchwil addysg fyd-eang
• creu cyfleoedd i weithwyr celfyddydol Cymru gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno modiwlau Addysg Gychwynnol Athrawon gan gryfhau'r sectorau'r celfyddydau ac addysg
• sicrhau gwaddol hirdymor gydag ymarferwyr creadigol wedi'i hymgorffori mewn hyfforddiant athrawon ledled Cymru
• llywio cam nesaf Dysgu Creadigol y tu hwnt i 2028 gan gefnogi cynaliadwyedd ac effaith
Bydd adborth gan athrawon cyn gwasanaethu, pobl ifanc ac ymarferwyr creadigol yn cyd-ddylunio cynnwys y cwricwlwm, ar y cychwyn yn y Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Lles cyn cael ei ymestyn ar draws pob Maes Dysgu.
