Rydyn ni’n falch iawn o'ch gwahodd i'n harddangosfa ddiweddaraf gan Aïda Muluneh: Nationhood – Memory and Hope

Dyddiad: Dydd Sadwrn, 26 Gorffennaf 2025

Amser: 2pm–4pm

Lleoliad: Y Brif Oriel – Yr Hen Ysgol Sul, Stryd Fanny, Caerdydd CF24 4EH

 

Mae Nationhood: Memory and Hope yn arddangosfa newydd o ffotograffiaeth bwerus a theimladwy sy'n dathlu amrywiaeth y DU heddiw. Mae'n llythyr caru i bopeth sy’n dda yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Cymru, a'r Alban, ac mae'n cynnig cyfoeth o safbwyntiau ar sut mae pob un ohonon ni yn ceisio siapio ein hunaniaethau a'n cymunedau i wneud y byd yn lle gwell.

Y gonglfaen yw The Necessity of Seeing, casgliad newydd mawr o ddelweddau wedi'u creu gan y ffotograffydd enwog o Ethiopia, Aïda Muluneh. Mae’r delweddau haenog a chymhleth hyn, a saethwyd trwy lens swrealaidd yr artist mewn lleoliadau eiconig yn ninasoedd Bradford, Belfast, Caerdydd a Glasgow, yn datgelu'r straeon sydd wedi'u hanwybyddu, yr hanesion anghofiedig, a'r eiliadau tawel sy'n siapio pwy ydyn ni.

Ar ôl ymddangos gyntaf ar hysbysfyrddau o amgylch Bradford yn ystod hydref 2024, mae'r arddangosfa hefyd yn cyflwyno A Portrait of Us, ffotograffau du a gwyn cryf Muluneh o arwyr cymunedol di-glod o'r un pedair dinas.

 

Mae’r portreadau ffotograffig newydd hyn, neu sydd erioed wedi’u gweld o'r blaen, gan saith seren newydd ym myd ffotograffiaeth yn y DU, yn archwilio hanes, hunaniaeth, hil, rhywedd a chrefydd.

Mae Shaun Connell yn talu teyrnged i'w fam o Jamaica a dilynwyr y ffydd Gristnogol yn ninas Bradford, tra bod ei gyd-ffotograffydd o’r un ddinas, Roz Doherty, yn dal egni ac ansicrwydd ieuenctid mewn set newydd o bortreadau stiwdio. Mae Chad Alexander yn archwilio trawsnewidiad y Tropicana yn nhref Dungannon, o glwb yr Irish National Foresters i ganolfan gymunedol amlddiwylliannol fywiog. Fe drefnodd Robin Chaddah-Duke aduniad o hoelion wyth yr 1970au o Ganolfan Addysg Gymunedol y Parêd yng Nghaerdydd i ail-greu portread grŵp, ac mae Grace Springer yn arddangos bywiogrwydd unigolion blaenllaw o gymunedau Affricanaidd a Charibïaidd y ddinas. Mae Miriam Ali yn tynnu sylw at ymgyrchwyr llawr gwlad o sefydliadau cymunedol yn ninas Glasgow, tra bod ffotograffau Haneen Hadiy yn gweld harddwch tirweddau'r Alban trwy lens symbolaeth Islamaidd.

Mae Nationhood: Memory and Hope, a guradwyd gan Anne McNeill, yn gomisiwn gan Bradford – Dinas Diwylliant y DU 2025 a’r Impressions Gallery, mewn partneriaeth â Belfast Exposed, Ffotogallery yng Nghaerdydd, a Street Level Photoworks yn ninas Glasgow. 

 

Mae’r arddangosfa yn teithio drwy gydol 2025 i Belfast Exposed, Ffotogallery yng Nghaerdydd, a Street Level Photoworks yn ninas Glasgow – gan wneud hwn y prosiect Dinas Diwylliant cyntaf erioed yn y DU i gael ei gynnal ym mhob un o'r pedair gwlad yn y DU.

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at eich gweld!