Mae hwb celfyddydol, diwylliannol a chymunedol newydd i bobl ifanc ym Mangor wedi ei agor yn swyddogol.
Mae cwmni theatr Frân Wen wedi trawsnewid yr hen Eglwys Santes Fair, sy’n adeilad rhestredig gradd II, ar Ffordd Garth fel rhan o brosiect gwerth £4.5m.
Mae'r datblygiad yn trawnewid yr adeilad yn hwb cwbl hygyrch i bawb fydd yn cynnwys gofod i greu, ymarfer a pherfformio ar raddfa fechan, stiwdio tanddaearol a nifer o ofodau creadigol llai ar gyfer cynnal preswyliadau i artistiaid.
Meddai Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae NYTH yn ganlyniad o bartneriaeth ariannu bwerus sy’n gweld un o’n cwmnïau theatr pwysicaf yn cymryd lle amlwg wrth galon eu cymuned.
Mae’n anhygoel gweld bywyd newydd cyffrous i’r hen adeilad hwn, ac mae’n wych gwybod bod Fran Wen, un o gonglfeini’r theatr Gymraeg ers bron i bedwar degawd, yn parhau i ddatblygu ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn theatr. Heb os, bydd Nyth yn gaffaeliad i economi greadigol y gogledd-orllewin wrth iddo ddarparu cyfleoedd newydd i’r rhai sy’n dymuno gweithio ym myd theatr.”