Wrth i bawb geisio ymdopi â chanlyniadau'r pandemig, mae'n bwysicach byth ein bod yn cysylltu ar draws y sectorau celfyddydol a diwylliannol, a'n bod yn darparu cymorth a rhannu gwybodaeth.

Rydym ni am weld mentrau sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo a chryfhau amrywiaeth a chynhwysiant ledled y sector ac ehangu ymgysylltiad â chymunedau amrywiol. Dymunwn ariannu syniadau sy'n annog creu rhwydweithiau newydd a chryfhau'r cyfleoedd rhai presennol.

Rydym ni’n agored i wahanol syniadau gan gynnwys:

  • ymgysylltu a datblygu cynulleidfaoedd amrywiol
  • hwyluso clywed lleisiau amrywiol ar draws y sector. Rydym ni am gefnogi rhwydweithiau o gymunedau pobl Fyddar, anabl, niwroamrywiol a chymunedau sy’n amrywiol yn ethnig a diwylliannol
  • cynyddu cyfranogi o’r celfyddydau, yn enwedig gan y rhai sydd wedi'u gwahanu neu eu datgysylltu am wahanol resymau economaidd, cymdeithasol a daearyddol ac ati
  • datblygu modelau ariannu cynaliadwy i’r gwaith

Mae rhwydweithiau o bob lliw a llun, yn ffurfiol ac anffurfiol, yn fach ac yn fawr. Mae manylion pellach am y gronfa i’w cael yma, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 9 Mehefin 2022.