Mae'n bleser gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyhoeddi bod tri uwch aelod o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn y Band Pres Ieuenctid Ewropeaidd (EYBB) blynyddol eleni.  

Bydd Alice Tracey, Erin Maloney, a Patrick Miller (sydd wedi bod yn aelodau o'r CCIC ers 2019) yn teithio i Palanga, Lithwania ddiwedd mis Ebrill. Yn ogystal â chynrychioli BPCIC, bydd Alice a Patrick hefyd yn cynrychioli Band Pres Llwyncoed ac Erin yn cynrychioli Band Flowers.  

Yn ystod y cyfnod preswyl rhyngwladol, bydd Alice, Erin a Patrick yn cydweithio â rhai o'r cerddorion band pres ifanc gorau o bob rhan o Ewrop o dan arweinyddiaeth Philip Harper (cyn arweinydd BPCIC a Chyfarwyddwr Cerdd y Band Cory byd-enwog).  

Bydd eu hamser gyda Band Pres Ieuenctid Ewrop yn dod i ben gyda chyfres o gyngherddau'n cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Mai. Bydd cystadleuaeth Band Pres Ewrop hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos honno, gan roi cyfle i fandiau o bob rhan o'r cyfandir gystadlu am un o'r gwobrau mwyaf mawreddog yng nghalendr y Band Pres.  

Wrth sôn am eu llwyddiant, dywedodd Uwch Gynhyrchydd CCIC, Matthew Jones: "Mae Erin, Alice a Patrick yn aelodau hŷn hirsefydlog o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac maen nhw i gyd yn gerddorion rhagorol.  Mae'n gyfle gwych iddyn nhw weithio gyda cherddorion bandiau pres gorau o bob rhan o Ewrop, ac rwy’n siŵr y byddan nhw'n cael amser gwych tra'n gwneud Cymru'n falch". 

Dywedodd Alice Tracey, un o'r tri aelod a ddewiswyd: "Rydw i mor ddiolchgar am gyfle mor wych ac rwy'n gyffrous iawn i gwrdd a chwarae ochr yn ochr â cherddorion o bob rhan o Ewrop".  

Mae'r EYBB wedi bod yn gweithredu ers dechrau'r 2000au. Mae'n gyfle gwych i chwaraewyr pres ifanc talentog ledled Ewrop chwarae a datblygu gyda'i gilydd ar lefel gyfandirol am wythnos. Byddant yn perfformio fel band pres llawn ar wahanol achlysuron yn ystod Pencampwriaethau Band Pres Ewrop 2024, gan gynnwys cyngerdd Cystadleuaeth Cyfansoddwr Ewrop, Seremoni Agoriadol, a Chyngerdd y Grand Gala. 

Bydd rhaglen Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru eleni yn dechrau gydag ymarferion byw yng nghanol mis Mawrth cyn cwrs preswyl a thaith perfformio 11 diwrnod gyda lleoliadau ar draws Bangor, Caerfyrddin ac Abertawe. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan CCIC.