Mae adroddiad newydd comisiynwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru yn dangos bod yr arian y mae'n ei ddosbarthu ar ran Llywodraeth Cymru yn dod â budd economaidd sylweddol i Gymru benbaladr.

Heddiw mae cyhoeddi’r Adroddiad am Effaith Economaidd Cyngor Celfyddydau Cymru. Cwmni Deyton Bell, arbenigwyr ymchwil annibynnol, sydd wedi’i lunio. Mae’n manylu ar yr effaith economaidd sylweddol y mae'r celfyddydau yn ei chael ar economi a swyddi Cymru. Mae naw deg dau y cant o'r cyllid y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei dderbyn yn cael ei ddosbarthu sefydliadau ac unigolion creadigol ledled Cymru.

Mae’n ymchwil Deyton Bell yn dangos:

  • Yn 2023/24, am bob punt gyhoeddus a gawsom, aeth £2.51 yn ôl i'r economi
  • Bod 92% o’r arian yr ydym yn ei dderbyn yn cael ei ddosbarthu ledled y wlad gan ddod â buddion i bob cymuned
  • Bod gan ddiwydiant celfyddydau a diwylliant Cymru drosiant o £1.64 biliwn yn 2023/24
  • Bod cyflogaeth yng nghelfyddydau, diwylliant a diwydiannau creadigol Cymru dros y degawd diwethaf wedi cynyddu gan 28%, o 28,900 yn 2014 i'r lefel a adroddwyd ar hyn o bryd sef 36,960 o swyddi
  • Bod ein dull o ariannu dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar ôl y pandemig wedi gwella’n sylweddol ein heffaith economaidd, o £1.01 am bob punt yn 2021/22 (wrth i'r sector adfer o ddinistr y pandemig) i £2.51 am bob punt yn 2023/24

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: 

"Ar adeg o gystadleuaeth galed am arian cyhoeddus, a’n harian wedi gostwng mewn gwirionedd gan 40% o gymharu â 2010, rydym yn gwybod ei bod yn hanfodol cyflwyno'r achos dros ariannu'r celfyddydau hyd eithaf ein gallu. Mae’r celfyddydau’n dod â llawenydd, yn gwella lles ac addysg ac, fel sy’n amlwg yn yr  adroddiad, yn dod â buddion ariannol ac economaidd. 

"Mae ymchwil annibynnol Deyton Bell yn dangos sector gwydn sy’n gallu ymaddasu. Mae’n cynnig tystiolaeth gryf o'i effaith economaidd fawr. Mae ein gwaith yn y Cyngor yn cyfrannu'n sylweddol at greu Cymru fwy ffyniannus, gwytnach, iachach, mwy cyfartal, mwy cyfrifol yn fyd-eang gyda chymunedau cydlynol sudd â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu."

Yn 2022/23 roedd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi mabwysiadu strategaeth fuddsoddi newydd gan ddysgu o wersi’r pandemig. Roedd yn pwysleisio cynllunio tymor hir ac ymaddasu. Mae'r strategaeth yn sicrhau bod y prosiectau rydym yn eu hariannu’n cyflawni amcanion ein Siarter Frenhinol a chynnig hyblygrwydd i dderbynwyr grant i allu ymateb i amgylchiadau cyfnewidiol.

Mae'r meddwl tymor hir i'w weld amlycaf yn y nifer gynyddol o sefydliadau sy'n cael arian amlflwyddyn. Maent wedi codi o 67 (yn 2022/23) i 81 (yn 2023/24) gan gynnwys 23 sefydliad sy'n cael arian amlflwyddyn am y tro cyntaf. Mae hyn yn ymestyn ein cyrhaeddiad a chefnogi mentrau creadigol mwy amrywiol.

Ychwanegodd Dafydd Rhys: 

"Mae arian amlflwyddyn yn galluogi sefydliadau celfyddydol i arbrofi â phrosiectau newydd a ffyrdd newydd o greu incwm, arallgyfeirio, gwella eu cynaliadwyedd a thyfu a chyfrannu rhagor at eu heconomi leol ac un Cymru."

Yn ôl Neil Darwin o Deyton Bell, mae eu dadansoddiad yn dangos y gallai cynyddu’r arian i’r celfyddydau ddarparu enillion hyd yn oed fwy. 

"Rydym yn gwybod bod buddsoddi rhagor yn y celfyddydau yn esgor ar ragor o enillion fesul punt. Gallai cynnydd cymedrol o 10% yn arian y Cyngor - ar ben lefel 2023/24 - arwain at dwf enillion o £2.51 (heddiw) i £3.29 (erbyn 2035). Mae'r dadansoddiad yn dangos y gallai hyn arwain at greu 1,375 swydd ychwanegol yn y celfyddydau ym meysydd digwyddiadau mawr, gwaith cymunedol ac ar lawr gwlad.”