Yr Adolygiad Buddsoddi oedd y broses a benderfynodd sut y caiff arian Cyngor y Celfyddydau ei rannu rhwng sefydliadau celfyddydol amrywiol dros y blynyddoedd nesaf.
Fel rhan o’r Ymyriadau Strategol, mae Cyngor Celfyddydau Cymru bellach yn cynnal adolygiadau i Theatr Saesneg yng Nghymru ac adolygiad i Gerddoriaeth Draddodiadol. Rydym nawr yn gwahodd cynigion ar gyfer cyflawni'r meysydd gwaith hyn.
Ar hyn o bryd rydym yn hysbysebu 3 swydd ar GwerthwchiGymru, gwefan caffael Llywodraeth Cymru:
- Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer adolygiad Cyngor Celfyddydau Cymru o gefnogaeth i Theatr Saesneg yng Nghymru
- Comisiynydd ar gyfer adolygiad Cyngor Celfyddydau Cymru o gefnogaeth i gerddoriaeth draddodiadol
- Rheolwr Prosiect ar gyfer adolygiad Cyngor Celfyddydau Cymru o gefnogaeth i gerddoriaeth draddodiadol
Y dyddiad cau ar gyfer y tri thendr yw: 12:00, dydd Llun, 24 Mehefin, 2024.