Sesiynau Ymgynghori Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol
Yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd byddwn yn cynnal sesiynau ymgynghori mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru. Dyma gyfle i gerddorion traddodiadol lleol, ceidwaid y traddodiadau, trefnwyr sesiynau a digwyddiadau, hyrwyddwyr, rheolwyr, cerddorion ac ati, ddod at ei gilydd i gynnig syniadau am yr heriau a’r cyfleoedd allweddol o fewn y sector cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru ac i drafod sut y gellid mynd i'r afael â nhw drwy'r broses adolygu hon.
Yn ogystal â’n traddodiadau cerddoriaeth frodorol, mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan reini sy’n ymwneud â’r llu o fathau traddodiadol o gerddoriaeth sy’n cael eu hymarfer a’u perfformio yng Nghymru, ar draws diwylliannau ac ieithoedd. Felly, ymunwch â ni am sgwrs a phaned, dewch â'ch pryderon a'ch syniadau gyda chi.
Archebwch eich lle am ddim ar un o'r digwyddiadau a restrir isod:
- Llun 14.10.24, 18:00-19:00
Y Neuadd Les, Ystradgynlais
(ar y cyd â Cynefin, home, place, language and race o 16:00) - Merch 16.10.24, 10:30-12.30
Theatr Soar, Merthyr Tydful - Gwe 18.10.24, 15:00-17:00
Grange Pavilion, Caerdydd - Llun 04.11.24, 14:30-16:30
Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron - Merch 06.11.24, 14:30-16:30
Tŷ Pawb, Wrecsam - Iau 07.11.24, 10:30-12:30
Neuadd Ogwen, Bethesda - Llun 11.11.24, 10.30–12.30
sesiwn ar lein