Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhyddhau dau fideo ynghylch yr Adolygiad Buddsoddiad  i nodi diwedd proses o ymgynghori ar-lein dros Zoom.

Mae'r ffilmiau –  un yn Saesneg gan Brif Weithredwr dros dro y Cyngor, Michael Elliott, a'r llall yn Gymraeg gan Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau - yn trafod rhai o’r prif bwyntiau a wnaed yn yr ymgynghoriad, yn cyfeirio at yr adran Cwestiynau Cyffredin,  ac yn cadarnhau’r camau nesaf yn y broses.

Mae’n nhw hefyd yn pwysleisio nad yw'r ymgynghoriad ar ben, a bod amser o hyd i gyfrannu yn ysgrifenedig cyn y 10fed o Hydref, drwy e-bost, neu ymateb i holiadur.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Adolygiad Buddsoddi ar gael yma Er mwyn gweld y fideo Saesneg, cliciwch ar y botwm 'English' uchod er mwyn cyrraedd fersiwn Saesneg y stori hon.

DIWEDD                     23 Medi 2022