Mae 'Adlais o'r Gorffennol' yn ddatganiad ynglŷn â lleoliad rhywbeth neu rywun na ellir ei gadarnhau. Nid yw'r anallu hwn i oirhain gwrthrych neu unigolyn yn golygu nad ydynt yn bodoli ond yn hytrach eu bod rhywle y tu hwnt i gyrraedd. Gallai'r datganiad hwn fod yn berthnasol hefyd i'r pwnc hanes lle gall naratif fod yn niwlog, gwyrdroedig, anghyflawn neu nid yw ar gael.

Yma, mae Adlais o'r Gorffennol yn archwilio'r adeilad penodol hwn a'i darddiad – cymni gweithgynhyrchu a oedd yn cynhyrchu cerbydau a choetsis a oedd yn cael eu tynnu gan geffylau er mwyn teithio a chludo nwyddau, tua diwedd y 19eg ganrif. Estynnwyd gwahoddiad i dri artist yn gynharach eleni, sef Penny Hallas, Louise Short, a Zoe Preece, i ymateb i'r syniad o hanes anweladwy a threigl amswer. Mae'r prosiect yn ein cysylltu a'r gorffennol er mwyn i ni ystyried sut y gallem ail-fframio'r dyfodol, gyda phwyslais penodol ar deithio a symudiad pobl.

Mae eu hymatebion creadigol yn archwylio diben gwreiddiol yr adeilad a'i gyd-destun ehangach yn Oes Fictoria: y bobl a gyflogwyd, effaith llafur a rolau unigol; y deunyddiau a ddefnyddiwyd a'r sgiliau crefft angenrheidiol; yr anifail mud sy'n ganolog i'r cynhyrchiant; ad-leoliad a symudiad pobl; a'r goblygiadau cymdeithasol sy'n parhau i fod yn berthnasol hyd heddiw.

Mae Adlais o'r Goffennol wedi'i guradu gan Alex Boyd Jones.

 

Oriau Agor: Dydd Iau i dydd Sadwrn, 11am - 4pm, 6 mis Mai 2023 - 25 mis Mehefin 2023

studioMADE, The Carriageworks, 6 Love Lane, Dinbych, LL16 3LU