Hoffech chi wybod fyddai cyllid ad-daladwy yn bwrpasol i’ch mentrau neu gynlluniau strategol chi yn y dyfodol? Oes gennych chi gwestiynau am gyllid benthyg, neu sut i ddatblygu eich adroddiadau effeithiolrwydd, neu sut i baratoi cynllun busnes am y gorau?
Pwy ydyn ni?
Yr 'Arts & Culture Impact Fund' - cronfa fuddsoddi effaith gymdeithasol. Mae’r gronfa hon werth £20 miliwn ac yn gweithredu ar gyfer sefydliadau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth ledled y DU. Nodau’r gronfa yw cefnogi sefydliadau fel y gallant ddatblygu gwydnwch ariannol, ac asesu a chyfleu eu heffaith gymdeithasol yn well.
Beth ydyn ni'n ei gynnig?
- Benthyciadau (gwarantedig a heb eu gwarantu) rhwng £150,000 ac £1 miliwn
- Ad-daliadau hyd at 8 mlynedd
- Telerau hyblyg, gan gynnwys gwyliau ad-dalu
- Cyfradd llog rhwng 3% ac 8.5%
- Tâl cwblhau 1%; ni chodir tâl i ad-dalu’n gynnar
- Cyllid i hwyluso sawl diben e.e. creu ffrydiau incwm newydd, prynu neu adnewyddu eiddo, meithrin gallu, benthyciadau pontio a.y.y.b.
- Cefnogaeth i lywio effaith gymdeithasol eich sefydliad
- Ffurflen ymholiad ar-lein syml
- Agor ar gyfer ymholiadau tan haf 2025
Dewch i gyfarfod y tîm!
Ydych chi'n gweithio yng Nghaerdydd? Bydd y tîm yno Dydd Llun, 22ain Ebrill, ac yn hapus i gyfarfod cwmniau celfyddydol sydd eisiau mwy o wybodaeth.
Os nad yw hynny’n gyfleus, neu os nad ydych chi yng Nghaerdydd, gallwn hefyd gyfarfod ar-lein pryd bynnag sydd fwyaf cyfleus i chi.
E-bostiwch ellen.hunter@artsculturefinance.org a katie.pattinson@artsculturefinance.org i drefnu cyfarfod.
Darganfod mwy: