Pontio rhwng y byd academaidd a diwydiant i feithrin arweinwyr yfory ym maes Realiti Ymestynnol (XR) a phrofiadau diwylliannol trochol
Mae'n bleser gan 4Pi Productions, stiwdio greadigol flaengar ym maes technoleg drochol ac adrodd straeon digidol, gyhoeddi lansio rhaglen 'Datgloi Realiti Ymestynnol'. Mae hon yn fenter addysgol arloesol ar y cyd â thri o brifysgolion mawr Caerdydd, coleg mwyaf Cymru a sefydliad elusennol cenedlaethol. Nod y bartneriaeth unigryw yma yw cyflwyno potensial creadigol Realiti Ymestynnol (XR) a phrofiadau trochol a rennir i gyfranogwyr y rhaglen. Bydd 'Datgloi Realiti Ymestynnol' yn pontio'r bwlch rhwng y byd academaidd a diwydiant, gan gynnig rhaglen gynhwysfawr o weithdai, dosbarthiadau meistr, mentora, cyfleoedd cysgodi ac internaethau - y cyfan wedi'i anelu at gynyddu dealltwriaeth y cyfranogwyr o dechnolegau trochol a phrofiadau trochol a rennir.
Gyda Chefnogaeth Cymru Greadigol drwy'r Gronfa Sgiliau Creadigol, bydd rhaglen 'Datgloi Realiti Ymestynnol' yn cael ei chyflawni gan Labordy CULTVR - canolfan arloesol ym maes celfyddydau trochol ac addysg. Ers dros bum mlynedd bellach mae Labordy CULTVR wedi ennill enw am redeg rhaglenni addysgol a diwylliannol effeithiol ym maes Realiti Ymestynnol (XR). Mae Labordy CULTVR yn cynnig amgylchedd delfrydol i'r holl gyfranogwyr gael profiadau uniongyrchol o'r dechnoleg drochol ddiweddaraf a meithrin sgiliau ymarferol mewn maes sy'n tyfu'n gyflym - sgiliau y gellir eu defnyddio mewn amryw o sectorau. Dros y 10 mis nesaf, bydd 4Pi Productions yn gweithio gyda sefydliadau addysg blaenllaw gan gynnwys Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth y Tywysog. Drwy'r partneriaethau hyn, mae'r rhaglen yn anelu i rymuso gweithwyr creadigol traws-ddisgyblaeth a rhoi'r sgiliau hanfodol iddyn nhw archwilio technoleg Realiti Ymestynnol a'i ddefnyddio ym meysydd adloniant, digwyddiadau byw, cerddoriaeth, animeiddio, ffilm, Effeithiau Gweledol (VFX) a chynhyrchu rhithwir.
Dywedodd Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:
"Mae 'Datgloi Realiti Ymestynnol (XR)' yn fenter arloesol a fydd yn arfogi myfyrwyr â'r sgiliau, cysylltiadau ac arbenigedd sydd angen arnynt i lwyddo yn y diwydiant realiti ymestynnol sy'n tyfu drwy'r amser. Mae gweld y gefnogaeth y bydd ein Cronfa Sgiliau Creadigol yn ei roi i gymaint o bobl ifanc i fentro i fyd Realiti Ymestynnol yn ysbrydoliaeth gan y bydd yn cynnig adnoddau a chysylltiadau hanfodol ar gyfer gyrfa bosib yn y dyfodol. Pob lwc i bawb!"
Mae rhaglen 'Datgloi Realiti Ymestynnol' yn neilltuol am ei bod mor hyblyg ac addasadwy. Mae'n cynnig amrywiaeth o fformatau, hyd cyrsiau a dulliau cyflawni i greu amgylchedd ddysgu gynhwysol sy'n agored i fyfyrwyr MA, BA, BTEC, myfyrwyr hyfforddiant galwedigaethol a mwy. Drwy feithrin hyder a llythrennedd mewn technolegau trochol, mae'r rhaglen yn cyfrannu i'r broses o ddemocrateiddio adnoddau ac addysgu a dysgu digidol, gan roi cyfle i gyfranogwyr o bob cefndir ennill sgiliau allweddol ar gyfer arloesi ym maes Realiti Ymestynnol.
"Mae rhaglen 'Datgloi Realiti Ymestynnol' yn gyfle anhygoel i gyflwyno dulliau amgen o wneud ffilmiau i fyfyrwyr. Bydd yn gyfle iddynt archwilio byd Realiti Ymestynnol sy'n datblygu'n gyflym, yn ogystal ag ystyried rhagolygon technegol a chreadigol celfyddydau sgrin yn y dyfodol. Mae'r myfyrwyr wedi ymateb yn frwd i ddosbarthiadau meistr sydd wedi eu gwthio i feysydd newydd o ran ymarfer greadigol ac maent wedi manteisio ar yr adnoddau trochol unigryw hyn yng Nghaerdydd." Joe Sudlow, Arweinydd Cwrs Ffilm BA (Anrh.)
Yn ogystal â'r mentrau addysgol, bydd rhaglen 'Datgloi Realiti Ymestynnol' hefyd yn cynnwys pedwar lleoliad gwaith â chyflog yn Labordy CULTVR; sef y ganolfan gelfyddydau trochol gyntaf o'i math yn Ewrop sy'n defnyddio'r adnoddau a'r dechnoleg Realiti Ymestynnol ddiweddaraf a mwyaf blaengar ac yn arbenigo mewn cyflwyno perfformiadau byw a sinema cryndo amgylchynol (fulldome). Am dri mis, bydd y pedwar a ddewisir yn cael profiad uniongyrchol o gynhyrchu digwyddiadau trochol, gan arbrofi â'r caledwedd a meddalwedd diweddaraf.
"Rydyn ni wrth ein bodd i lansio Datgloi Realiti Ymestynnol a chynnig llwybr i ddarpar weithwyr creadigol i mewn i dechnoleg drochol a Realiti Ymestynnol. Drwy weithio'n agos â phrifysgolion a cholegau ac Ymddiriedolaeth y Tywysog, bydd y rhaglen hon yn gyfle nid yn unig i fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau, ond hefyd i gynnig cyfleoedd datblygu gyrfa i fyfyrwyr o ledled Cymru" meddai Matt Wright, Cyfarwyddwr 4Pi Productions. "Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i feithrin gweithlu sgilgar a fydd yn barod i arwain yn y maes cyffrous a deinamig yma."
Gyda degawd o brofiad o gynhyrchu gosodweithiau rhyngweithiol a phrofiadau trochol, mae 4Pi Productions mewn sefyllfa unigryw i fentora'r genhedlaeth nesaf o dalent. Bydd y rheini sy'n cymryd rhan yn rhaglen 'Datgloi Realiti Ymestynnol' yn cael cyfle i brofi technolegau Realiti Ymestynnol a meithrin sgiliau creadigol, technegol a chynhyrchu a fydd yn hwb iddynt ar eu llwybrau gyrfa amrywiol mewn sectorau lle gellir defnyddio creadigrwydd a thechnoleg trochol.
Am fwy o wybodaeth am raglen 'Datgloi Realiti Ymestynnol' neu i gymryd rhan, cysylltwch â: Ebost: hello@4piproductions.com