Mae adroddiad effaith newydd ei gyhoeddi ar Hynt, y cynllun hygyrchedd cenedlaethol ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru, yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynychu theatrau a gwell ansawdd bywyd i aelodau anabl o’r gynulleidfa yng Nghymru. 

Mae Hynt yn gynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a reolir gan Creu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru. Ym mis Mawrth 2014, cafodd Creu Cymru ei benodi gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) i weithio mewn partneriaeth â Diverse Cymru i ddarparu un cynllun hygyrchedd cenedlaethol ar gyfer cwsmeriaid ag anableddau a’u cyfeillion hanfodol. Datblygwyd Hynt gan a chyda phobl anabl, y trydydd sector, theatrau a chanolfannau celfyddydau. 

Mae’r adroddiad, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol ar gyfer y cynllun a Chyngor Celfyddydau Cymru, fel gwella’r gwaith o gasglu a marchnata data, ond y brif neges yw adeiladu ar lwyddiant bron i ddegawd o Hynt. 

Ym mis Hydref 2023, mae Hynt wedi cyhoeddi 29,866 o gardiau i aelodau er mwyn iddynt allu defnyddio eu cardiau Hynt mewn dros 41 o theatrau, canolfannau celfyddydau a lleoliadau cyswllt ledled Cymru. Mae’r sefydliadau hyn yn talu i fod yn rhan o Hynt ac fel rhwydwaith maent yn derbyn hyfforddiant staff, symposiwm blynyddol a chyfle i rannu arferion gorau a dysgu. 

Dyma rai o uchafbwyntiau anhygoel yr adroddiad:

  • Dywedodd 76% o aelodau fod bod yn rhan o Hynt wedi gwella eu mynediad at ddiwylliant. 
  • Byddai 89% yn mynd i’r theatr yn llai aml os na fyddai ganddyn nhw gerdyn Hynt, a fyddai 14% ddim yn mynd o gwbl. 
  • Mae 82% yn dweud bod mynd i’r theatr yn rhywbeth mwy fforddiadwy yn sgil Hynt. 
  • Mae 68% o aelodau'n dweud bod Hynt yn gwella eu mynediad ffisegol i leoliadau.
  • Mae 52% yn dweud eu bod yn gallu cael gafael ar gynnwys yn well. 
  • Mae 81% o aelodau'n dweud bod Hynt yn cynyddu lefel y rhyngweithio cymdeithasol yn eu bywyd. 

O ganlyniad i fod yn rhan o gynllun Hynt, roedd nifer yr ymweliadau â'r theatr wedi cynyddu 75% ymysg unigolion sy’n aelodau o Hynt. Roedd hyn wedi arwain at 144,000 yn fwy o ymweliadau â’r theatr ledled Cymru, gyda hanner ohonyn nhw'n docynnau pris llawn. Dywedodd 58% o aelodau eu bod wedi ymweld â lleoliad newydd oherwydd Hynt. Am bob tocyn am ddim roedd lleoliadau’n ei roi i aelodau Hynt, roedden nhw’n gwneud £23.53 o refeniw ychwanegol ar gyfartaledd. Hefyd, mae'r economïau lleol o amgylch lleoliadau Hynt yn gweld budd o £3,261,200 y flwyddyn. 

Am bob £1 sy’n cael ei gwario ar Hynt, mae £6.05 o werth cymdeithasol yn cael ei greu. 

Mae canolfannau Hynt yn cynhyrchu £42.33 mewn gwerth ychwanegol am bob tocyn am ddim maent yn ei roi. 

Mae llwyddiant Hynt yng Nghymru wedi ysbrydoli asiantaethau datblygu’r celfyddydau yng ngwledydd eraill y DU i ddatblygu fersiwn ledled y DU o’r cynllun, a bydd Cyngor Celfyddydau Lloegr yn cyhoeddi rhagor o fanylion am hyn cyn bo hir.

Rheolir y cynllun gan Creu Cymru, sefydliad aelodaeth ar gyfer theatrau, cwmnïau cynhyrchu a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru. Mae eu haelodaeth yn ffurfio rhwydwaith cydweithredol; gyda llais cryfach ac unedig y maent yn ei gyflwyno ac yn ei eiriol i gyrff llywodraethu cyhoeddus, gan sicrhau cynrychiolaeth hanfodol i’r diwydiant a dylanwadu ar newid cadarnhaol.

Dywedodd Megan Merrett, Rheolwr Prosiect Hynt:

“Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchiad pwerus o effaith Hynt ar brofiadau cynulleidfaoedd Byddar, anabl a niwrowahanol. Bydd yr argymhellion yn ein helpu i ddatblygu Hynt gyda’n grŵp ymgynghorol prosiect, lleoliadau aelodau a chysylltiadau. Diolch o galon i Abi a Mark am gynhyrchu’r adroddiad ac i’r holl bobl wych a gyfrannodd eu profiadau, eu meddyliau a’u syniadau. Rwy’n edrych ymlaen at weld Hynt yn tyfu ac rwy’n falch o fod wedi bod yn rhan o’r gwaith o greu cynnig mwy cyson i ddeiliaid ein cardiau a’u cyfeillion hanfodol.”

Dywedodd Andrew Miller MBE, Hyrwyddwr hygyrchedd i’r Celfyddydau yn y DU:

“Roedd Hynt yn gynllun arloesol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2014 ac fel aelod o’r Cyngor a’i cymeradwyodd, rwy’n falch iawn o’r holl gyflawniadau a restrir yn yr adroddiad hwn. Cefais fy nghyffwrdd gan dystiolaeth Peter ynghylch sut mae aelodaeth o Hynt wedi adfer ei annibyniaeth a’i ymdeimlad o urddas. Roeddwn yr un mor falch o weld sut y mae Hynt wedi hybu busnes yn Theatr Clwyd a lleoliadau eraill.

Mae’r gwerthusiad hwn hefyd yn darparu data hanfodol a fydd yn siapio fersiwn y DU o Hynt rwy’n ei hyrwyddo, gyda gwersi pwysig ar bob tudalen, fel sut mae pob tocyn cyfaill am ddim a gyhoeddir yn cynhyrchu incwm eilaidd sylweddol ar gyfer lleoliadau.

Mae Hynt wedi creu gwerth economaidd a chymdeithasol gwirioneddol. Mae wedi annog lleoliadau yng Nghymru i wella eu hygyrchedd, ond gorau oll, mae wedi rhoi gwell mynediad at ddiwylliant i bron i 30,000 o bobl anabl. Mae Hynt yn llwyddiant ysgubol i Gymru”.

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

 Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn hynod falch o Hynt, rhaglen a ddatblygwyd yn dilyn sgwrs gydag aelod o’r cyhoedd a oedd yn gofyn, tybed pam na allai ei fab anabl – sy’n hoff iawn o’r theatr – gael yr un lefel o wasanaeth ar draws pob lleoliad yng Nghymru. Felly y dechreuodd menter arloesol a ddatblygwyd ar ein rhan gan Creu Cymru, sydd, fel y dengys yr ymchwil hwn bellach, wedi newid bywydau llawer o ymwelwyr anabl a’u cynorthwywyr personol/gofalwyr ledled Cymru. Mae’r ystadegau’n drawiadol ac yn cynrychioli effaith wirioneddol a chadarnhaol ar leoliadau a chwmnïau; ond efallai mai’r stori lwyddiant fwyaf, yw i fynychwyr anabl. Byddwn yn dathlu’r llwyddiant hwn yma yng Nghymru wrth i ni barhau i arwain y ffordd gyda Hynt, a byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr yng ngwledydd eraill y DU i lunio rhaglen sy’n gwneud yn siŵr bod y buddion hyn yn cael eu lledaenu ymhellach, ac yn hyrwyddo hygyrchedd i gelfyddydau o ansawdd uchel.” 


Dywedodd Abid Hussain, Cyfarwyddwr Amrywiaeth, Cyngor Celfyddydau Lloegr:

‘Mae llwyddiant Hynt wedi ysbrydoli’r asiantaethau datblygu diwylliant ar draws gwledydd y DU i ddod at ei gilydd i ddatblygu cynllun hygyrchedd yn y DU sy’n ceisio gwella profiad pobl B/byddar, anabl a niwroamrywiol wrth fynychu digwyddiadau creadigol a diwylliannol. Rydyn ni'n cydnabod gwaith pwysig Hynt hyd yma, a bydd y gwerthusiad hwn yn hanfodol i lywio datblygiad parhaus cynllun hygyrchedd ledled y DU.”