Beannachtaí na Féile Pádraig Féile oraibh! Dydd San Padrig Hapus.

Roedd San Padrig, yn debyg wedi'i enu'n Maewyn Succat yng Nghymruyn rhan o'r croesfannau cyson rhwng glannau Iwerddon a Chymru.

Mae'r fideo hwn yn dangos dawnsio o'r draethlin. Roedd Féile Fáilte / Gŵyl Groeso yn ddiwrnod o ddawns wedi'i gynnal gan Fearghus Ó Conchúir a thîm The Casement Project yn 2016. Mi oedd yn ddiwrnod er mwyn dathlu amrywiaeth o gyrff yn Iwerddon, i groesawu'r dieithryn tu fewn, a'r dieithryn o rywle arall.

 

Mae’n cynnwys cyfraniadau gan, Siamsa Tíre, Adrienne Heaslip, Croí Glan, Fearghus Ó Conchúir, Catherine Young Company, Rusangano Family, Paddy Hanafin, IMDT John Scott, Mangina Jones, DJ Proud Mary a phawb a ymunodd o flaen a thu ôl i’r llenni.

Curadur gwadd #PethauBychain ym misoedd Chwefror a Mawrth yw Fearghus Ó Conchúir, sydd wedi rhannu casgliad eclectig o gynnwys sy'n cynrychioli cysylltiadau, cydweithrediadau a chreadigrwydd cyffredin Cymru ac Iwerddon trwy'r celfyddydau.