Classical: NEXT yw’r cynulliad byd-eang mwyaf o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym myd cerddoriaeth glasurol a genres cysylltiedig. Cynhelir y digwyddiad eleni yn Hannover, yr Almaen rhwng 17 a 20 Mai.

Gyda rhai o’r garfan yn derbyn cymorth bwrsariaeth gan Tŷ Cerdd, wedi'i gefnogi gan Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn falch o rannu’r ddirprwyaeth lawn o Gymru sy’n mynd i’r Almaen ar gyfer y digwyddiad:
Derbynwyr bwrsariaethau
Jefferson Lobo
Katherine Rees
Siwan Rhys
David Roche
Beth House (Operasonic)
Gerard Cousins

Cynrychiolwyr Tŷ Cerdd
Shakira Mahabir
Deborah Keyser
Jodi Voyle

Dirprwyon eraill o Gymru
Sarah Lianne Lewis
Penny King (Royal Welsh College of Music and Drama)

Bydd Tŷ Cerdd hefyd yn rheoli presenoldeb Cymru yn y digwyddiad, gan gynnwys stondin Cymru/Wales yn yr expo.

Yn Classical:NEXT mae dros 1,000 o weithwyr proffesiynol o bob rhan o’r diwydiant rhyngwladol – cyfansoddwyr/crewyr cerddoriaeth, perfformwyr, ensembles, rheolwyr, cyflwynwyr, cwmnïau recordiau, cyhoeddwyr, y cyfryngau, addysgwyr a mwy – yn ymgasglu ar gyfer:

  • cynhadledd ryngweithiol 

  • cyngherddau arddangos

  • expo

  • rhwydweithio


Dilynwch y daith i Classical: NEXT gyda Tŷ Cerdd ar Twitter a Facebook.