Cefndir

Nod y gronfa yw annog grwpiau gwirfoddol a chymunedol, sy’n rhan o’u cymunedau ledled Cymru, i gynnal gweithgarwch artistig, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â llai o gyfleoedd creadigol neu ardaloedd sy’n cael eu tangynrychioli yn ein cyllid.

Byddwn yn cynnig grantiau o hyd at £1,500 am brosiectau celfyddydol untro i sefydliadau gynnal gweithgarwch sy'n canolbwyntio ar gyfranogi.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Sefydliadau. Darllenwch y meini prawf isod i weld a ydych yn gymwys i gael grant.

Darllenwch ein meini prawf i sefydliadau

Ond nid oes modd i’r canlynol ymgeisio:

  • cwmnïau cyfyngedig drwy gyfranddaliadau
  • sefydliadau y tu allan i Gymru

Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i grwpiau gwirfoddol a chymunedol nid-er-elw nad ydynt wedi cael arian gennym o’r blaen.

Am beth mae modd ymgeisio?

Rydym am roi grantiau i brosiectau yn y celfyddydau rydym yn eu hariannu. Byddwn yn rhoi cyfle i bobl o gymunedau ledled y wlad gymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol.

Ein nod yw eich galluogi i gyflwyno prosiectau celfyddydol ar raddfa fach sy'n cyfrannu at dwf cymunedol y celfyddydau i gynulleidfaoedd hen a newydd sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein cymdeithas, ein hieithoedd a’n diwylliant. Y broses o ymgysylltu yw ein blaenoriaeth yn hytrach na'r cynnyrch ei hun.

Rhagor o wybodaeth ddefnyddiol - Cymryd rhan ac ymgysylltiad cymunedol

Os mai Cerddoriaeth yw ffocws eich prosiect, efallai y byddai rhaglenni ariannu Tŷ Cerdd yn fwy addas i chi.

Os mai Llenyddiaeth yw ffocws eich prosiect, efallai y byddai rhaglenni ariannu Llenyddiaeth Cymru  yn fwy addas i chi. 

Beth rydym yn ei ddisgwyl o'ch prosiect?

Rhaid i'ch prosiect ddigwydd yn eich cymuned yng Nghymru.

  • Rydym eisiau ariannu prosiectau a gweithgarwch sy'n cynnwys cymunedau yn eu datblygiad.

Rhaid i'ch prosiect ategu a gwella eich rhaglen o weithgarwch arferol

  • Ni ddylai fod yn rhan o'ch gweithgarwch craidd na chynnwys costau craidd.

Rhaid i'ch prosiect gynnwys cydweithiwr artistig i gyflwyno'r gweithgarwch. Mae’n gallu bod yn artist unigol, cydweithfa neu sefydliad celfyddydol. 

  • Rhaid i'r partner fod â hanes hysbys o gyflwyno gweithgarwch artistig. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o'i waith blaenorol (dolenni gwe, erthyglau, CV, ac ati).

Rhaid i'ch prosiect fod yn gyfyngedig o ran amser

  • Rhaid iddo ddechrau a gorffen ar ddyddiad pendant. Bydd digon o amser yn ystod eich prosiect i gyflawni'r gwaith yn effeithiol. Mae hyn o bwys wrth drafod unrhyw waith hyrwyddo, datblygu cynulleidfa neu allgymorth. 

Rhaid ichi ganiatáu digon o amser sy’n arwain at y prosiect

  • Rhaid cael o leiaf 8 wythnos waith rhwng dyddiad cyflwyno eich cais a dyddiad dechrau eich prosiect. Mae hi hefyd werth cynnwys amser ychwanegol rhag ofn bod angen ichi anfon rhagor o wybodaeth atom ar ôl derbyn y grant. 

Rhaid ystyried yr amser mae’n ei gymryd i chi ddatblygu eich cais a'r amser y mae'n ei gymryd i ni ei brosesu a phenderfynu arno. 

Ein blaenoriaethau ni a'ch cynnig chi

Bydd eich cynnig yn dangos yn glir sut y bydd yn cefnogi un neu ragor o'r egwyddorion yn ein cynllun corfforaethol

Creadigrwydd - mae ym mhopeth a phawb rydym yn ei gefnogi. Rydym am weld datblygu amrywiaeth o gelfyddydau ac arferion creadigol gyda golwg ar y gynulleidfa a’r gymuned gan annog arloesedd artistig o safon. 

Cydraddoldeb ac ymgysylltu - cyrraedd cymunedau sydd wedi'u tangynrychioli, yn ddiwylliannol, daearyddol, cymdeithasol ac economaidd. Cael gwared ar y rhwystrau a'r anawsterau wrth brofi'r celfyddydau a sicrhau bod pobl o gymunedau amrywiol yn cael eu cynrychioli'n llawn yn y gweithlu, yn arweinwyr, penderfynwyr, crewyr, ymwelwyr, cyfranogwyr ac aelodau o'r gynulleidfa. 

Y Gymraeg – datblygu cyfleoedd creadigol sy'n cyfrannu at dwf yn y defnydd o’r Gymraeg a'r berchnogaeth arni a chefnogi sector y celfyddydau i roi'r Gymraeg wrth wraidd creadigrwydd a chymunedau. 

Cyfiawnder hinsawdd - cefnogi sector y celfyddydau i ddatblygu creadigrwydd sy'n ysbrydoli pobl i weithredu dros gyfiawnder hinsawdd gan weithio tuag at sector celfyddydol sy’n amgylcheddol-gynaliadwy ac sy'n gyfrifol yn fyd-eang. 

Datblygu talent - sicrhau llwybrau sy'n caniatáu i bobl o bob cefndir ddatblygu gyrfa, sgiliau a medrau arwain creadigol a chynaliadwy. Cydweithio i sicrhau bod gwaith a chyfleoedd teg i artistiaid a gwell canlyniadau i’n pobl. 

Trawsnewid - cryfhau gallu'r celfyddydau i fod yn fwy deinamig a chynaliadwy. Bod yn ddigon ystwyth a hyderus i fentro, creu gwytnwch ac ymateb i newid wrth barhau i fod yn berthnasol i’n pobl a’n cymunedau. 

Byddwn yn disgwyl i bopeth sy’n cael arian o’r gronfa ddangos ymrwymiad i egwyddorion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 - FGC - CYM gan Lywodraeth Cymru. 

Am faint mae modd ymgeisio?
  • £500 hyd £1,500

Bydd modd ichi ofyn am hyd at 100% o gostau eich prosiect. I gael gwybod mwy am eich costau gan gynnwys pa gostau sy’n gymwys a ffioedd artistiaid, cliciwch yma.

Dyddiadau cau 

Nid oes dyddiadau cau i Gymunedau Creadigol ond rhaid gadael o leiaf 8 wythnos waith rhwng dyddiad cyflwyno eich cais a dyddiad dechrau eich prosiect.

Nid oes modd inni ariannu prosiectau sydd eisoes wedi cychwyn. Ni fyddwn yn derbyn eich cais os yw dyddiad dechrau’r prosiect wedi bod cyn inni gael y cyfle i asesu eich cais. 

Rhaid i bob cais fod yn gyflawn. I gael gwybod rhagor am ein proses asesu, cliciwch yma: proses ymgeisio

Beth yw'r meini prawf?

Yn anffodus, nid oes modd ariannu pob cais sy'n cael ei gyflwyno.. Rydym yn derbyn mwy o geisiadau nag y gallwn eu hariannu, ac mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ynghylch pa geisiadau i'w blaenoriaethu.

Byddwn yn asesu ceisiadau'n ôl y meini prawf canlynol: 

  • Ansawdd, cryfder ac arloesedd artistig a chyfansoddiad y tîm creadigol. Rydym yn disgwyl gweld cyfleoedd â thâl priodol i bobl greadigol, gwneuthurwyr ac artistiaid llawrydd: ffïoedd artistiaid
  • Cryfder y cais i gyflawni ein blaenoriaethau corfforaethol
  • Effaith bosibl y prosiect nawr ac yn y dyfodol a’i fudd i eraill o ran y rhai sydd wedi'u tangynrychioli yn ein gwaith a'n hariannu
  • Ansawdd y cysylltiadau a'r partneriaethau sydd ar waith neu sy'n cael eu datblygu i gefnogi gwireddu’r prosiect.
  • Cryfder rheoli prosiect a'r cynlluniau ariannol sydd ar waith i gyflawni'r prosiect a sicrhau defnydd priodol o arian cyhoeddus

Byddwn hefyd yn ystyried gwasgariad daearyddol gweithgarwch yn ein penderfyniadau. 

Yn anffodus, oherwydd y galw mawr rydym yn ei ddisgwyl, ni fydd modd inni gynnig adborth manwl am ein penderfyniad.

Pa gwestiynau sydd angen i’w hateb?

Mae templed o'r ffurflen gais i’w weld yn yr adran cymorth isod. Rydym yn gofyn am eich costau yn y ffurflen gais ei hun (felly nid oes angen llenwi cyllideb ar wahân).

Byddwn hefyd yn gofyn am gopi o’r ohebiaeth (e-byst/llythyrau) gan y partner cyflenwi sy'n cadarnhau ei fod yn rhan o'r prosiect, dolen i'w waith a'i ffi. 

Gofynion yr adroddiad diweddu

Os yw'ch prosiect yn llwyddo, rhaid cyflwyno’r adroddiad diweddu ar ôl i’r prosiect ddod i ben, sydd ymhlith y Dogfennau Allweddol isod. Bydd yn fodd inni ddeall sut aeth y prosiect a sut roedd y grant wedi’i defnyddio. Bydd hefyd yn gyfle ichi feddwl am yr hyn a aeth yn dda a’r hyn nad aeth cystal i’w wella yn y dyfodol.

Rydym am ddathlu llwyddiant y prosiectau rydym yn eu hariannu. Felly rydym yn disgwyl ichi gyflwyno enghreifftiau, lluniau ac unrhyw fideos o’r gwaith.

Mae arnaf angen cymorth hygyrchedd

Rydym yn darparu gwybodaeth mewn print bras, Braille, sain, Hawdd ei Ddarllen ac Arwyddeg. Byddwn hefyd yn ceisio darparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw am y Gymraeg a’r Saesneg ar gais.

Os oes arnoch angen cymorth hygyrchedd, mae rhagor amdano yma

Dolenni cyflym

Cymhwysedd - Sefydliadau

Nodiadau cymorth cyllideb

Cymorth Hygyrchedd

Diffiniadau o gelfyddydau

Y Broses Ymgeisio

Mae gennyf gwestiwn

Os ydych wedi darllen y wybodaeth ond mae gennych gwestiwn o hyd, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin yn gyntaf. Efallai fod yr ateb yno. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: grantiau@celf.cymru neu ffoniwch: 03301 242733

 

Cymorth
Dogfen03.09.2025

Dogfennau Hanfodol - Cymunedau Creadigol

Dogfen04.09.2025

Print Bras a Hawdd ei Ddeall - Cymunedau Creadigol

Cwestiynau mynych

Na fydd. Nod y gronfa yw cynnal gweithgarwch, fel gweithdai. I gynnal perfformiad, ystyriwch ein cynllun, Noson Allan.

Na fydd. Bwriad y grant yw cefnogi gweithgarwch celfyddydol newydd neu ychwanegol yn eich cymuned. Er enghraifft, dod ag artist proffesiynol nad ydych wedi gweithio gydag ef o'r blaen i gynnal gweithdai.

Oes. Mae modd enwi partneriaid cyflenwi ar fwy nag un cais. Ein gobaith yw gweld cyfleoedd i ystod o artistiaid/sefydliadau celfyddydol weithio gyda chymunedau ledled Cymru. Ond hoffwn weld y cymunedau yn gyrru’r prosiect. Dylai cynigion ddangos sut mae eu partner cyflawni’n berthnasol a sut byddant yn cyd-fynd â'r prosiect ac anghenion y gymuned.

Nac oes. Inni allu asesu’r cais, rhaid enwi’r partner cyflenwi. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau heb fanylion y partner cyflenwi.

Oes, rhaid i'r gweithgarwch neu'r gweithdai gael eu cyflwyno gan sefydliad celfyddydol neu ymarferydd creadigol/artist sydd yng Nghymru.

Oes. Mae modd ichi ymgeisio fwy nag unwaith cyn belled â bod eich grant blaenorol wedi dod i ben, a'ch bod wedi cyflwyno eich adroddiad diweddu.

Ond ein gobaith yw cyrraedd llawer o gymunedau ledled y wlad. Felly rhoddir blaenoriaeth i grwpiau yng Nghymru nad ydynt wedi derbyn ein cyllid o'r blaen.

Nac oes. Mae'r gronfa yn agored i sefydliadau sy'n gallu dangos eu bod yn gymwys yn ôl ein canllawiau: Cymhwysedd - Sefydliadau

Ond nid oes modd i’r canlynol ymgeisio:

  • Cwmnïau cyfyngedig drwy gyfranddaliadau
  • Sefydliadau y tu allan i Gymru

Oes. Ond rhaid inni wybod bod gennych ganiatâd i greu'r gwaith yno a chadarnhad o bwy fydd yn gwneud y gwaith cynnal a chadw wedyn. Ein blaenoriaeth yw'r broses a'r ymgysylltiad yn hytrach na'r canlyniad.

Dechrau