Mae’r Gronfa’n cefnogi prif flaenoriaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef ‘meithrin potensial artistig, creadigol a diwylliannol rhyngwladol Cymru mewn ffordd sy’n deg i bobl ac i’r blaned’.
Drwy weithgaredd wyneb yn wyneb sy’n digwydd y tu allan i Gymru a’r DU, mae’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol yn ceisio cynnal a chyfoethogi ymarfer artistig yng Nghymru er mwyn:
- galluogi datblygiad cynaliadwy perthnasoedd, cydweithio a rhwydweithiau rhwng artistiaid a sefydliadau celfyddydol Cymru a’u partneriaid rhyngwladol
- cefnogi cyfleoedd i rannu profiadau a sgiliau drwy’r celfyddydau mewn cyd-destun rhyngwladol ac mewn ffordd deg a chynaliadwy
- meithrin cydweithio rhyngwladol ystyrlon, sydd o fudd i’r ddwy ochr, sy’n archwilio ffyrdd newydd o gydweithio, ac sy’n ymateb yn fwyaf arbennig i faterion cynwysoldeb, cydweithio teg a chyfiawnder hinsawdd.
Bydd y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol yn ein helpu i gyflawni’r amcanion a’r canlyniadau llesiant a nodir yn Strategaeth Ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, ac sy’n gydnaws â saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae rhyngwladol hefyd yn faes gwaith strategol trawsbynciol, ac yn cyfrannu tuag at bob un o chwe egwyddor gorfforaethol Cyngor y Celfyddydau fel y maent wedi’u nodi yn y Cynllun Corfforaethol.
Gallwn dderbyn cais unrhyw bryd tra mae’r gronfa ar agor i’r ceisiadau sy’n ymwneud â’r gweithgaredd a ganlyn:
- Cydweithredu rhyngwladol a datblygu partneriaeth
- Rhwydweithiau a digwyddiadau rhyngwladol
- Cyflwyno gwaith yn rhyngwladol
Ar gyfer ceisiadau yn ymwneud â chymryd rhan mewn preswyliad rhyngwladol, bydd angen i chi gyflwyno eich cais cyn y dyddiadau cau a ganlyn:
- 30 Medi 2024
- 10 Chwefror 2025
- Am beth alla i ymgeisio?
-
Gall unigolion a sefydliadau wneud cais am gymorth ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â’r celfyddydau sy’n digwydd wyneb yn wyneb y tu allan i Gymru a’r DU, sy’n cynnwys o leiaf un partner rhyngwladol, ac sydd yn y meysydd a ganlyn:
Cydweithio rhyngwladol a datblygu partneriaeth:
-
Cydweithio creadigol a chyfnewid lle mae cyfle sylweddol sydd wedi’i nodi’n glir i ddatblygu ymarfer artistig mewn ffordd gynaliadwy
-
Datblygu a phrofi syniadau a ffyrdd newydd o weithio ar y cyd â phartner(iaid) rhyngwladol, ac yn fwyaf arbennig ymateb i faterion cynhwysiant, cydweithio teg a chyfiawnder hinsawdd sy’n amlwg yn gysylltiedig â gwaith artistig cyfredol
-
Meithrin cysylltiadau rhyngwladol, gyda’r bwriad o sefydlu partneriaethau rhyngwladol mwy hirdymor sy’n dangos yn glir sut y maent yn deg ac o fudd i’r ddwy ochr
-
Dysgu, cysylltiadau a phrofiad a rennir drwy gyfnewid rhyngwladol teg y bydd y ddwy ochr yn elwa ohono, â budd wedi’i ddiffinio’n glir i ymarfer artistig
Cymryd rhan mewn rhwydweithiau a digwyddiadau rhyngwladol sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau:
-
Cyfranogi’n weithredol mewn rhwydweithiau rhyngwladol, ffurfiol ac anffurfiol, lle mae cysylltiad â Chymru yn barod
-
Mynd i ddigwyddiadau rhyngwladol lle mae cyfle sylweddol wedi’i ddiffinio’n glir a buddion ar gyfer dysgu a rennir, cysylltiadau a phrofiad, ac ar gyfer gwaddol sy’n ymestyn y tu hwnt i’r digwyddiad ei hun.
Cyflwyno gwaith:
- Cyflwyno gwaith yn dilyn gwahoddiad gan bartner rhyngwladol, lle mae cyfle sylweddol i godi proffil, datblygu rhwydweithiau rhyngwladol a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol, a lle mae’r partner rhyngwladol, o leiaf, yn cynnig ffi briodol
Preswyliadau Rhyngwladol
Sylwer, o fis Medi 2024 ymlaen, mae dau ddyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gymorth ar gyfer Preswyliadau Rhyngwladol:
- Preswyliadau yn ymwneud â’r celfyddydau gyda phartner rhyngwladol lle mae cyfle sylweddol i ddatblygu ymarfer artistig
Gall y gronfa gefnogi gweithgaredd wyneb yn wyneb sy’n digwydd yn unrhyw ran o’r byd, oni bai fod canllawiau cyfredol y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) yn nodi nad yw’n argymell teithio yno.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o fuddsoddiad yn y Gronfa ar gyfer gweithgaredd sy’n digwydd yn y gwledydd a’r rhanbarthau a ganlyn:
Canada
Yr Almaen
India
Iwerddon
Japan
Ffrainc
Gwlad y Basg
Llydaw
Catalonia
Fflandrys
-
- Pwy all wneud cais?
-
Unigolion a sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac sy’n gweithio yn y ffurfiau ar gelfyddyd a gefnogir gennym
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos:
-
Eu bod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru neu bod eu hymarfer wedi’i leoli yng Nghymru
-
Bod ganddynt bartner rhyngwladol
-
Bod y gweithgaredd yn digwydd y tu allan i’r DU ac wyneb yn wyneb
Croesewir ceisiadau gan gydweithfeydd artistiaid anffurfiol neu ffurfiol, a chan sefydliadau celfyddydol sy’n cefnogi nifer o artistiaid unigol o Gymru fel rhan o’r prosiect. Bydd angen i un partner sydd wedi’i leoli yng Nghymru fod yn ymgeisydd enwebedig a fydd yn gyfrifol am faterion ariannol ac am adrodd pe bai dyfarniad yn cael ei wneud.
Gweler y nodiadau cymorth am wybodaeth fanwl ynghylch gwybodaeth ofynnol am fanylion banc.
-
- Am faint o arian y galla i ymgeisio?
-
Cyfanswm y gyllideb sydd ar gael ar gyfer 2024-25 yw £210,000.
Rydym yn rhagweld y byddwn yn gwneud tua 45 - 50 o ddyfarniadau drwy gydol y flwyddyn.
Gallwch ymgeisio am:
Hyd at £7,500 ar gyfer:
-
Cydweithio Rhyngwladol a Datblygu Partneriaeth Ryngwladol
-
Cyflwyno Gwaith yn Rhyngwladol
-
Rhwydweithiau a Digwyddiadau Rhyngwladol
Hyd at £5,000 ar gyfer:
- Preswyliadau Rhyngwladol
Sylwer mai’r ganran fwyaf o gyfanswm costau cymwys y prosiect y gallwn ei hariannu yw hyd at 90%.
Os ydych yn gymwys, gallwch ymgeisio am gostau hygyrchedd personol hefyd.
-
- Beth yw’r meini prawf sy’n gymwys i’r gronfa hon?
-
Caiff ceisiadau eu hasesu ar sail y meini prawf a ganlyn:
Amdanoch chi neu eich sefydliad:
-
Hanes artistig sy’n dangos ymarfer o safon ac ymrwymiad i weithio yng Nghymru, a pherthnasedd y cynnig i ymarfer artistig cyfredol
-
Ymrwymiad proffesiynol i gyfnewid rhyngwladol, cydweithio a rhwydweithio sy’n deg i bobl ac i’r blaned, ac sy’n gyfiawn ac yn fuddiol i’r ddwy ochr
Eich gweithgaredd:
-
Ansawdd, cryfder ac arloesedd y cynnig i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol cynaliadwy hirdymor ac i gael effaith gadarnhaol ar ymarfer artistig yng Nghymru
-
Perthnasedd y canlyniadau rydych yn eu disgwyl mewn cysylltiad â’r gweithgaredd a gynigir
-
Hyfywedd ariannol a gwerth am arian y cynnig. Mae hyn yn cynnwys cydbwysedd costau, gan gynnwys ffioedd, mewn cysylltiad â lleoliad, hyd a chwmpas y cyfle
-
Cryfder cynllun a ffrâm amser y prosiect o ran dangos y gellir ei gyflawni a’i fod yn briodol i’r gweithgaredd a gynigir
-
Sut y rhoddwyd ystyriaeth i’r canlynol:
-
chwarae teg i bawb sy’n cymryd rhan yn y prosiect
-
dulliau gweithio teg, sydd o fudd i’r ddwy ochr, ar draws y prosiect
-
effaith amgylcheddol eich gweithgaredd a’ch teithio
-
y broses ddethol os yw’r prosiect yn cefnogi grŵp o ymarferwyr creadigol unigol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru
-
Eich partner:
-
Ymrwymiad y partner rhyngwladol i weithio gyda chi
-
Ansawdd y berthynas, rhwydwaith, preswyliad neu ddigwyddiad rhyngwladol mewn cysylltiad â nodau’r cynnig
Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried y canlynol hefyd:
-
Ymgeiswyr sydd wedi eu tangyrychioli yn yr hyn rydym wedi ei ariannu hyd yma
-
Dosbarthiad daearyddol ymgeiswyr ledled Cymru
-
Dosbarthiad y ffurf ar gelfyddyd
-
Dosbarthiad dyfarniadau ar draws gwahanol lefelau o brofiad rhyngwladol
-
Cyllid blaenorol drwy’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol
-
Gweithgaredd rhyngwladol sy’n digwydd ym meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru
-
- Gweithgaredd na allwch wneud cais ar ei gyfer
-
- Gweithgaredd a gynhelir yng Nghymru neu yn rhywle arall yn y DU
- Prosiectau nad ydynt yn gysylltiedig â’r celfyddydau
- Prosiectau nad oes ganddynt bartner rhyngwladol sydd wedi’i leoli y tu allan i Gymru a’r DU ac a all ddarparu llythyr gwahoddiad
- Prosiectau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gydweithio creadigol sy’n digwydd yn ddigidol oni bai fod gofynion penodol o ran mynediad neu fisa
- Gweithgaredd sydd wedi digwydd yn barod neu a fydd wedi digwydd cyn i chi gael penderfyniad
- Prosiectau sydd angen cyllid 100% o’r Gronfa
- Gweithgaredd y mae ffynonellau cyllid neu incwm eraill ar ei gyfer
- Parhad o brosiect sy’n bodoli’n barod heb unrhyw elfennau newydd clir
- Gweithgaredd sy’n ymwneud â chaffael gwasanaeth cwmni neu artist rhyngwladol, yn hytrach na gweithgaredd sy’n datblygu perthynas gydweithredol sydd o fudd i’r ddwy ochr gyda chwmni celfyddydol neu artist rhyngwladol
- Ymweliadau i fynd i weld / archwilio lle nad oes llawer o gydweithio yn digwydd, os o gwbl. Os yw ymweliad rhyngwladol arfaethedig yn canolbwyntio ar waith ymchwil a datblygu fel sail i greu gwaith yng Nghymru, dylech edrych ar y Gronfa Creu.
- Teithiau ac arddangosfeydd teithiol, oni bai fod tystiolaeth amlwg y bydd y gweithgaredd yn datblygu rhwydweithiau newydd neu ei fod yn rhan o gydweithio rhyngwladol
- Arddangos cerddoriaeth: rydym yn buddsoddi yng Nghronfa Arddangos Ryngwladol (ISF) y Sefydliad PRS er mwyn cefnogi arddangos cerddoriaeth yn rhyngwladol
- Cynhyrchiad ffilm neu fideo ac arddangosfa sinema, oni bai ei fod yn cefnogi gwaith artistiaid mewn delweddau symudol (gan gynnwys ffilm a fideo)
- Cyhoeddi a chynhyrchu, os dyma brif pwrpas y prosiect
- Prosiectau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygiad cymdeithasol (ni fyddwn yn ystyried bod y cynnig yn gymwys oni bai fod ffocws y prosiect yn amlwg ac yn bennaf yn artistig neu greadigol)
- Hyfforddiant ac astudiaeth, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi, dosbarthiadau meistr, astudiaeth amser llawn neu ran-amser, hyfforddiant unigol, gwersi a chwrs astudio hyfforddiant galwedigaethol neu ffioedd dysgu mewn ysgol, coleg neu brifysgol a chymwysterau achrededig. Gallai rhai mathau o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol fod yn gymwys i gael cymorth drwy’r Gronfa Creu.
- Cynadleddau academaidd neu ymchwil academaidd
- Ysgoloriaethau gweithio neu interniaethau
- Cyfranogi neu fod yn bresennol mewn digwyddiad cystadleuol
- Digwyddiadau codi arian
- Costau na allwch wneud cais amdanynt
-
- Costau ar gyfer gweithgaredd yng Nghymru nad ydynt yn gysylltiedig â’ch teithio rhyngwladol
- Costau artist rhyngwladol: rydym yn disgwyl y bydd partner rhyngwladol wedi sicrhau cyllid i dalu costau artist(iaid) rhyngwladol. Gallai eithriadau fod yn bosibl os ydynt yn gweithio gydag artistiaid/sefydliadau sydd wedi’u lleoli mewn gwledydd cymorth datblygu swyddogol (ODA)
- Eitemau cyfalaf: mae’r gronfa’n canolbwyntio ar symudedd artist felly nid ydym yn disgwyl gweld costau cyfalaf (e.e cyfarpar, meddalwedd ac offerynnau) wedi’u cynnwys mewn cyllidebau
- Costau rhedeg cyffredinol eich sefydliad a gorbenion cyfredol (neu ganran o’r costau hyn), er enghraifft cyflogau staff, rhent, cyfleustodau ac yswiriant indemniad cyfarwyddwyr.
- Ffioedd a godir arnoch am gyngor a chymorth i gwblhau eich cais. Os oes arnoch angen cymorth i lenwi ffurflen gais a pharatoi cyllideb, mae cymorth ar gael cyn cyflwyno cais
- Cystadlaethau a gwobrau
- Gweithgareddau codi arian
- Costau lansio
- Nwyddau hyrwyddo
- Anrhegion
- Tân gwyllt ac eitemau pyrotechnegol eraill
- Costau cyhoeddi oni bai fod hyn yn agwedd greiddiol ar y cydweithio artistig
Os nad ydych yn siŵr a ellir cynnwys cost yn y gyllideb, cysylltwch â ni.
- Beth rydym yn ei ddisgwyl gan eich prosiect?
-
Rhaid i’ch prosiect ddigwydd y tu allan i’r DU
Ni allwn ariannu gweithgaredd oni bai ei fod yn digwydd y tu allan i Gymru a’r DU
Bydd gennych bartner rhyngwladol yn barod
Mae angen i bartner rhyngwladol fod wedi’i leoli ac yn gweithio y tu allan i Gymru a’r DU a gall fod:
-
Yn gydweithiwr yn y broses greadigol
-
Yn drefnydd rhwydwaith, preswyliad neu ddigwyddiad (os mynd i rwydwaith neu ddigwyddiad celfyddydol a diwylliannol neu gymryd rhan mewn preswyliad yw’r gweithgaredd arfaethedig)
Bydd gan eich prosiect gyfyngiadau amser
Mae hyn yn golygu bod ganddo ddyddiad pendant ar gyfer dechrau a gorffen. Mae’n syniad da i ganiatáu ychydig o amser ychwanegol rhag ofn y bydd angen i chi anfon rhagor o wybodaeth atom ar ôl i ddyfarniad gael ei wneud.
Rhaid i chi gael cyllid neu incwm arall i gyfrannu at gostau cyffredinol eich prosiect
Ni allwn gefnogi costau llawn prosiect. Fel arfer rydym yn disgwyl y bydd o leiaf 10% o incwm eich prosiect yn dod o ffynhonnell ar wahân i Gyngor y Celfyddydau neu’r Loteri Genedlaethol.
Rydych wedi caniatáu digon o amser i baratoi
Byddwn yn disgwyl gweld digon o amser wedi’i gynnwys yn eich prosiect er mwyn cyflawni’r gwaith yn effeithiol – gweler yn benodol y pwynt nesaf ynghylch gofynion fisa a chyngor am deithio.
Bydd angen i chi ystyried faint o amser y bydd arnoch ei angen i ddatblygu eich cais yn ogystal â’r amser y mae’n ei gymryd i ni brosesu’r cais a gwneud penderfyniad.
Rhaid i chi ganiatáu o leiaf 8 wythnos waith rhwng dyddiad cyflwyno’ch cais a’r dyddiad y bydd y prosiect yn dechrau.
Rydych wedi gwirio gofynion fisa a chyngor cyfredol am deithio
Byddwn yn disgwyl i chi fod wedi ymchwilio a deall unrhyw ofynion fisa a chaniatáu digon o amser i wneud cais pe bai arnoch angen un.
Byddwn hefyd yn disgwyl i chi wirio a gweithredu ar sail cyngor teithio tramor Llywodraeth y DU
-
- Pa gwestiynau fydd angen i mi eu hateb?
-
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais ar-lein drwy borth ar-lein Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae modd lawrlwytho copi o’r ffurflen gais ar waelod y dudalen we yma.
Os cymryd rhan mewn preswyliad rhyngwladol yw eich gweithgaredd, darllenwch y canllawiau ychwanegol yma i’ch helpu i wneud eich cais.
1. Crynodeb o’r Prosiect:
Rydym yn gofyn am grynodeb byr o’ch prosiect. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon mewn unrhyw gyhoeddusrwydd y byddwn yn ei gynhyrchu am eich prosiect [uchafswm o 480 o nodau].2. Manylion y Prosiect (gweler hefyd y ddolen i’r adran dogfennau y bydd angen i chi eu lanlwytho):
Rydym yn gofyn am ragor o fanylion am eich prosiect a’r canlyniadau disgwyliedig. Sylwer bod uchafswm o 3000 o nodau. Rydym yn argymell eich bod yn lanlwytho dogfen ychwanegol, os oes angen, er mwyn rhoi sylw i’r holl bwyntiau sy’n gysylltiedig â’ch prosiect, sy’n cynnwys:Amdanoch chi:
Dywedwch wrthym amdanoch chi a’ch ymarfer creadigol:
- Crynhowch eich ymarfer creadigol presennol yng Nghymru (a thu hwnt fel y bo’n berthnasol) a’ch uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol er mwyn ein helpu i ddeall pwysigrwydd ac effaith bosibl y prosiect rhyngwladol.
- Cyfeiriwch yn fyr at unrhyw gyfleoedd rhyngwladol blaenorol sydd wedi bod o fudd i’ch ymarfer
- Cyfeiriwch yn fyr at unrhyw gyllid perthnasol gan Gyngor Celfyddydau Cymru neu gyllid arall rydych wedi’i dderbyn yn ddiweddar neu rydych yn bwriadu gwneud cais amdano
Am eich partner rhyngwladol:
Dywedwch wrthym am eich partner rhyngwladol (gallai fod yn gydweithredwr yn y broses greadigol neu’n drefnydd rhwydwaith, preswyliad neu ddigwyddiad):
- Nodwch pwy yw eich partner rhyngwladol a darparwch ddolen iddo
- Eglurwch yn fyr gefndir eich cysylltiad â’r partner rhyngwladol
- Beth fydd rôl a chyfraniad y partner rhyngwladol yn y prosiect/gweithgaredd?
Y prosiect rhyngwladol:
Dywedwch wrthym beth y byddwch yn ei wneud a pham:
- Eglurwch beth y byddwch yn ei wneud a ble bydd y gweithgaredd yn digwydd.
- Eglurwch eich rhesymau dros y gweithgaredd hwn. Pam y mae cysylltu â’ch partner(iaid) rhyngwladol neu gymryd rhan yn y rhwydwaith, digwyddiad neu breswyliad hwn yn bwysig i’ch ymarfer ar yr adeg benodol hon?
- Dywedwch wrthym am unrhyw brif gysylltiadau ar wahân i’ch partner rhyngwladol y byddwch yn eu cyfarfod, ac unrhyw rwydweithiau y byddwch yn ymgysylltu â hwy, neu ddigwyddiadau y byddwch yn mynd iddynt.
- Os byddwch yn cefnogi grŵp o ymarferwyr creadigol unigol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, sut y byddwch yn dewis y cyfranogwyr a sut rydych yn bwriadu eu cefnogi?
- Pa ystyriaethau rydych wedi eu gwneud ynghylch:
-
effaith amgylcheddol eich gweithgaredd a sut y mae hyn wedi llywio eich penderfyniadau ynglŷn â datblygiad y gweithgaredd a theithio
-
cyd-destun diwylliannol ble a gyda phwy y byddwch yn gweithio
-
sicrhau bod y berthynas â’ch partner rhyngwladol yn deg a bod y ddau ohonoch yn elwa o’r gweithgaredd
-
gofynion teithio, megis fisas, brechiadau a chanllawiau teithio’r llywodraeth
-
- Dylech gynnwys rhagor o fanylion neu eglurhad ar eich cyllideb neu linell amser os oes angen
Canlyniadau / Gwaddol y Prosiect
Dywedwch wrthym am ganlyniadau arfaethedig a buddion posibl y prosiect:
- Dylech gynnwys tri chanlyniad mesuradwy y byddwch yn ei ddisgwyl gan y prosiect/ymweliad. [Bydd y rhain yn rhan o sut y byddwn yn gofyn i chi werthuso eich prosiect]
- Sut y byddwch yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd / cysylltiadau â’r sector ehangach yng Nghymru? Beth fydd y gwaddol posibl a’r buddion ehangach?
- A fydd y prosiect yn helpu i ddatblygu modelau newydd ar waith rhyngwladol cynaliadwy? Os bydd, sut?
- Preswyliadau Rhyngwladol
-
Gallwch wneud cais i’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol am gymorth i gymryd rhan mewn preswyliad artistig rhyngwladol.
Oherwydd bod cynifer o geisiadau am breswyliadau artistig rhyngwladol ar hyn o bryd, bydd dau ddyddiad cau yn 2024-25 ar gyfer gwneud cais am gymorth i gymryd rhan mewn preswyliad. Mae hyn yn golygu bod y broses yn decach i bob ymgeisydd a chaiff ceisiadau am breswyliadau eu hasesu gyda’i gilydd.
Gallwch gyflwyno uchafswm o un cais am breswyliad mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Beth y gallwn ei gefnogi:
Preswyliadau artistig sydd:
- Wedi’u trefnu gan bartner rhyngwladol ac yn cael eu cynnal y tu allan i Gymru a’r DU
- Yn cynnig cyfle i ganolbwyntio ar arbrofi ac archwilio ymarfer, i gysylltu ag artistiaid eraill ac i sefydlu cysylltiadau â sefydliadau celfyddydol ac artistiaid lleol.
- Â therfynau amser
- Heb fod ar gael yng Nghymru neu yn rhywle arall yn y DU
Beth na allwn ei gefnogi:
- Preswyliadau sy’n cael eu harwain neu eu trefnu gennych chi eich hun
- Cyfnod o ymchwil a datblygu a fwriadwyd er mwyn datblygu gwaith creadigol penodol mewn cydweithrediad â phartner rhyngwladol
- Preswyliadau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar hyfforddiant
- Preswyliadau nad ydynt yn canolbwyntio ar y celfyddydau
Dyddiadau cau:
Bydd gennym ddau ddyddiad cau bob blwyddyn:
30 Medi 2024
10 Chwefror 2025Gwybodaeth ychwanegol i’w darparu:
Yn ogystal â’r hyn nodir o dan ‘Pa gwestiynau fydd angen i mi eu hateb?’ uchod, efallai y byddech yn hoffi cynnwys gwybodaeth am y canlynol:- Eglurwch sut y daethoch o hyd i’r cyfle hwn a beth yw’r broses ddewis. A ydych wedi cael cynnig lle? Os nad ydych, pryd rydych chi’n disgwyl cael gwybod am y penderfyniad? [Sylwer y byddwch yn cyflwyno tystiolaeth o hyn gyda’ch cais; os byddwch yn cael dyfarniad, bydd arnom angen cadarnhad cyn talu’r grant].
- Dywedwch wrthym sut mae’r cyfle ar gyfer preswyliad yn unigryw a heb fod ar gael yng Nghymru nac yn y DU.
- Eglurwch pa mor amserol yw’r cyfle: pam nawr a sut y bydd o fudd i’ch ymarfer presennol, ac yn y dyfodol, ac yn eich helpu i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol newydd.
- Os ydych wedi bod ar breswyliad rhyngwladol yn y gorffennol, dywedwch wrthym yn fyr pa effaith gafodd hyn ar eich ymarfer
- Rhestr wirio dogfennau ategol
-
Bydd arnom angen rhai dogfennau penodol i gefnogi eich cais. Mae’n bosibl na fydd eich cais yn cael ei asesu os yw’r dogfennau hyn ar goll.
- Copi o’ch CV, neu ddolen iddi, ac i waith perthnasol a wnaethpwyd yn ddiweddar ac adolygiadau. Dylech gynnwys hyn ar gyfer pob un o’r artistiaid wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n ymwneud â’r gweithgaredd arfaethedig.
- Llinell amser a/neu gynllun prosiect ar gyfer y gweithgaredd. Gall hyn ein helpu i ddeall penderfyniadau rydych wedi eu gwneud ynghylch hyd yr ymweliad, unrhyw waith paratoi a gwaith ar ôl yr ymweliad y bydd angen i chi ei wneud a sut y caiff y prosiect ei reoli.
- Llythyr gan y partner rhyngwladol sy’n dangos yn glir naill ai:
-ei ymrwymiad i weithio gyda chi a’r buddion iddo ef
neu
- gwahoddiad i chi gymryd rhan mewn digwyddiad neu rwydwaith
neu
- dewis/gwahoddiad i gymryd rhan mewn preswyliad rhyngwladol
AC HEFYD
- cyfraniad ariannol y partner (mewn nwyddau neu arian) tuag at y gweithgaredd. Os nad oes cyfraniad ariannol uniongyrchol gan y partner rhyngwladol, nodwch y rhesymau dros hyn. - CV a/neu ddolenni at wybodaeth am waith neu raglen gyfredol eich partner rhyngwladol
- Cyllideb yn rhoi manylion yr holl wariant ac incwm (arian a chymorth mewn nwyddau) gan ddefnyddio templed y gyllideb gellir ei lawrlwytho ar waelod y dudalen we yma.
- Dogfen barhad yn dweud wrthym am eich prosiect, pe bai arnoch angen mwy o le, i ymdrin â’r pwyntiau dan yr adran ‘Cynnig y Prosiect’.
- Pryd i wneud cais a phryd i ddisgwyl penderfyniad?
-
Gallwn dderbyn cais unrhyw bryd tra mae’r gronfa ar agor i’r ceisiadau sy’n ymwneud â’r gweithgaredd a ganlyn:
- Cydweithredu rhyngwladol a datblygu partneriaeth
- Rhwydweithiau a digwyddiadau rhyngwladol
- Cyflwyno gwaith yn rhyngwladol
Byddwch yn derbyn penderfyniad cyn pen 7 wythnos waith ar ôl gwneud cais.
Cofiwch fod angen i chi ganiatáu o leiaf 8 wythnos waith rhwng dyddiad cyflwyno eich cais a’r dyddiad y bydd eich prosiect yn dechrau.
Ar gyfer ceisiadau yn ymwneud â chymryd rhan mewn preswyliad rhyngwladol, bydd angen i chi gyflwyno eich cais cyn y dyddiadau cau a ganlyn:
30 Medi 2024
10 Chwefror 2025Byddwch yn derbyn penderfyniad cyn pen 7 wythnos waith ar ôl gwneud cais.
- Beth os oes arnaf angen cymorth hygyrchedd?
-
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, braille, sain, fformat Hawdd ei Ddeall ac Iaith Arwyddion Prydain. Byddwn hefyd yn ceisio darparu gwybodaeth mewn ieithoedd ar wahân i Gymraeg neu Saesneg ar gais.
Os oes arnoch angen cymorth hygyrchedd, gallwch ddarganfod mwy ynglŷn â beth y gallwn ei wneud a sut i’w drefnu yma. - Beth os oes gennyf gwestiwn?
-
Gallwch gysylltu â ni +44 29 2044 1300 info@wai.org.uk X | Facebook | Instagram
Mae costau mynediad yn gostau anartistig sydd wedi’u hanelu at ddileu rhwystrau i gyfranogiad i chi’ch hun, rhywun rydych yn gweithio gyda nhw neu’n eu cyflogi, neu ar gyfer cyfranogwyr neu gynulleidfaoedd sy’n ymgysylltu â’ch prosiect neu weithgaredd. Gallwn helpu i dalu costau cymorth mynediad i chi, neu unrhyw un sy'n ymwneud yn uniongyrchol â datblygiad a chyflwyniad creadigol eich prosiect. Gallai’r rhain gynnwys costau dehonglydd iaith arwyddion, costau palanteipydd, gweithwyr cymorth, offer neu feddalwedd arbenigol.
Yn eich cyllideb rhowch ddadansoddiad o'r costau mynediad, er enghraifft: Gweithiwr cymorth: £ y dydd, X diwrnod.
Mae'r cyfanswm hwn ar wahân i'r swm yr ydych yn gwneud cais amdano i gyflawni'r prosiect. Bydd y cyfanswm hwn yn cael ei ychwanegu at gyfanswm y cais am grant.
Dylai costau cyfieithu eraill, er enghraifft o'r Gymraeg i'r Saesneg neu o'r Saesneg i'r Almaeneg, cael eu nodi o fewn prif gostau'r prosiect.
Gallwn dderbyn ceisiadau gan gydweithfeydd a rhwydweithiau artistiaid ffurfiol ac anffurfiol. i'r rhai nad oes ganddynt gyfansoddiad ffurfiol, bydd angen i un artist neu ymarferwr creadigol weithredu fel yr ymgeisydd arweiniol a fydd yn cymryd cyfrifoldeb ariannol ac adrodd.
Mae’n debygol y bydd cystadleuaeth sylweddol am yr arian sydd ar gael ac ni fyddwn yn gallu ariannu’r holl geisiadau cymwys a gawn. Efallai y dyfernir swm is i chi ond byddwn yn ystyried hyfywedd y prosiect mewn unrhyw benderfyniad i ddyfarnu swm is.
Unwaith y byddwch wedi llofnodi a dychwelyd eich Derbyniad Dyfarniad a'n bod wedi gwirio eich manylion ac unrhyw amodau grant, byddwn yn talu'r dyfarniad yn llawn os yw o dan £5000, bydd 10% o grant dros £5000 yn cael ei dalu wedi i'ch adroddiad cwblhau gael ei gymeradwyo. Bydd gofyn i chi gyflwyno adroddiad ar ddiwedd eich prosiect fel amod safonol o’r dyfarniad.
Os nad ydych chi’n gallu derbyn arian Loteri Genedlaethol am unrhyw resymau, dylech chi lanlwytho llythyr gyda’ch cais yn esbonio pam mae hyn yn wir. Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n ceisio ariannu eich prosiect o arian o ffynonellau eraill.
Mewn rhai achosion, rydym yn ‘dirprwyo’ arian y Loteri Genedlaethol i sefydliadau arbenigol sy’n gweithio ar ein rhan i gynnal rhaglenni cyllido sy’n berthnasol i grwpiau penodol.
Ni allwn gefnogi gweithgareddau lle mae'r brif ddisgyblaeth yn ffilm (yn hytrach na artist sy'n defnyddio ffilm neu fideo i wneud neu rannu ei waith).
Os yw’ch prosiect yn canolbwyntio ar ffilm cysylltwch â Ffilm Cymru Wales: www.ffilmcymruwales.com / 029 21 679 369 /enquiries@ffilmcymruwales.com