Mae Ysgol Gynradd Gatholig Bendigaid William Davies, Llandudno yn chwilio am Ymarferydd Creadigol i weithio gyda disgyblion Blwyddyn 3 a 4 (8-9 oed) i ddatblygu sgiliau llythrennedd a chyfathrebu.
Gan weithio gydag Ymarferydd Creadigol arall, dyma gyfle i gydweithio ar ymholiad sy’n archwilio cysyniad ‘Pererindod’. Mae gennym ddiddordeb mewn ymagweddau creadigol at y thema hon ac rydym yn chwilio am rywun llawn dychymyg i weithio yn yr ysgol gynhwysol a deinamig hon.
Rhaid bod yr ymgeisydd llwyddiannus eisoes wedi derbyn Hyfforddiant Ymarferydd Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS manylach neu ddarparu tystiolaeth o DBS diweddar cyn y gall y prosiect ddechrau.
Ffi: £300 y diwrnod gyda disgwyliad o weithio 5 dydd Mercher yn ystod tymor yr Haf, dechrau dydd Mercher 14 Mai 2025.
Anfonwch CV ac amlinelliad byr o sut y byddech chi'n mynd at y prosiect
jane@macfarlan.co.uk (Asiant Creadigol)
Michelle.McManus@bwilliamdavs.conwy.sch.uk
Am fwy o wybodaeth / sgwrs anffurfiol cysylltwch â Jane MacFarlan
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 12 Mawrth 2025
Cyfweliadau: Dydd Mercher 19 Mawrth 2025