Llawn amser 37 awr yr wythnos

Cytundeb parhaol

Gradd E: Cyflog cychwynnol o £56,286

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y rôl 

Mae Pennaeth Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio yn rôl arweinyddiaeth strategol sy'n ymroddedig i hyrwyddo sectorau theatr a chelfyddydau perfformio Cymru. Gan adrodd i Ddirprwy Gyfarwyddwr y Celfyddydau, byddwch yn arwain y gwaith o weithredu argymhellion Adolygiad Theatr Saesneg 2025, gan yrru rhaglennu arloesol, modelau teithio a phartneriaethau. Byddwch yn hyrwyddo talent Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn datblygu fframweithiau cynaliadwy, ac yn ymgorffori blaenoriaethau trawsbynciol gan gynnwys yr iaith Gymraeg, gweithredu ar yr hinsawdd, ac amrywiaeth a chynhwysiant.

Amdanoch chi

Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol ym maes theatr, a chelfyddydau perfformio gyda chefndir cryf mewn cynhyrchu, rhaglennu a datblygu sectorau. Mae gennych allu profedig i adeiladu ecosystemau creadigol gwydn ac amrywiol a llywio partneriaethau cymhleth ar draws lleoliadau a sefydliadau diwylliannol. Yn angerddol dros ddyrchafu celfyddydau perfformio Cymru, rydych yn dod â gweledigaeth strategol, gwybodaeth ddofn am y sector, ac ymrwymiad i gynhwysiant, cynaliadwyedd a rhagoriaeth artistig.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Fodd bynnag, mae ymrwymiad i ddysgu a siarad Cymraeg i safon sy'n galluogi ei defnydd ym musnes y Cyngor yn hanfodol. Ar ôl cael eich penodi byddwn yn darparu mynediad i Wersi Cymraeg, hyfforddiant a chefnogaeth bersonol i'ch helpu i ddatblygu a gwella eich sgiliau iaith ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 

Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion. 

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                   5yh, Dydd Gwener 8fed Awst 2025

Cyfweliadau:                   26ain a 27ain Awst 2025 (Mewn person yn ein Swyddfa yng  Nghaerdydd)                        

Gweithio hyblyg

Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd. 

Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 

Dogfen18.07.2025

Pecyn Swydd: Pennaeth Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio