Cyfradd tâl: £200 y diwrnod
Math o gytundeb: 25 o ddiwrnodau rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr, yn ddelfrydol wedi’u lledaenu dros y cyfnod hwn o amser.
Lefel profiad: 2+ o flynyddoedd mewn swydd marchnata
Lleoliad: Gweithio o bell, hybrid neu ar y safle yn TimeScape Rhaeadr, Unedau 1 + 2 East Street Enterprise Park, Stryd y Dwyrain, Rhaeadr, LD6 5ER
Gwybodaeth am CARAD
Elusen dreftadaeth a chelfyddydau cymunedol cynhwysol yw CARAD (Community Arts Rhayader and District) sy’n gweithio er budd pobl Canolbarth Cymru. ‘Rydym yn darparu canolbwynt creadigol sy’n meithrin ac yn arddangos treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol gyfoethog yr ardal. ‘Rydym yn ceisio creu cymuned ddiwylliannol fywiog a gwydn.
‘Rydym yn cynnal digwyddiadau treftadaeth, lles a chelfyddydol yn aml, sy’n rhoi llwyfan i bobl greadigol leol, ac sy’n cyfrannu at ddarpariaeth ddiwyllianol Canolbarth Cymru a llesiant y trigolion lleol.
‘Rydym hefyd wedi creu a rheoli atyniad ymwelwyr pob tywydd – TimeScape Rhaeadr. Mae TimesScape newydd agor i’r cyhoedd ac yn archwilio hanesion hynod o ddiddorol o’r gorffennol a’r presennol.
Gwybodaeth am y swydd
Mae CARAD wedi derbyn cyllid oddi wrth Gyngor Sir Powys i gyflwyno prosiect i hybu eu gwytnwch fel sefydliad. Fe fydd y swydd hon yn datblygu ac yn cyflwyno strategaeth farchnata i CARAD a’u hatyniad ymwelwyr newydd, TimeScape Rhaeadr.
Cyfrifoldebau
- I adolygu awgrymiadau marchnata sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun busnes a ddatblygwyd gan ymgynghorwyr creadigol Addo ac eraill ac i ddatblygu cynllun marchnata cadarn am 2024-2026, ar gyfer gweithgareddau CARAD a TimeScape Rhaeadr
- Gweithredu’r cynllun marchnata ar draws gwefannau trydydd parti perthnasol, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau a’n gwefannau ni.
- I sicrhau bod agweddau o’r cynllun (e.e. gwybodaeth am ddyddiadau cau gwefan a chyfarwyddiadau) yn gyflawnadwy gan wirfoddolwyr neu staff yn 2025
- I groes-hyrwyddo gweithgareddau gyda sefydliadau celfyddydau lleol eraill, ynghyd â gwyliau rhanbarthol a phenwythnosau celfyddydol
- I ddatblygu adnodd traws-farchnata gyda sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol a chelfyddydol ar hyd yr A44 a’r A470
Cyflawniadau
- Creu a gweithredu cynllun marchnata i CARAD a TimeScape Rhaeadr
- I ddatblygu adnodd traws-farchnata gyda sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol lleol ar y cyd gyda dylunydd graffeg a Swyddog Celfyddydau i godi proffil Rhaeadr a Chanolbarth Cymru yn ehangach
- Gwella ymgysylltiad ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol CARAD
- Creu adroddiad/adroddiadau i’r rheolwr llinell ar eich cynnydd.
Anghenion
- Profiad blaenorol mewn sefydliadau marchnata sy’n cynnig gweithgareddau a digwyddiadau
- Profiad mewn rheoli amryw o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
- Sylw i fanylion rhagorol, gan sicrhau cywirdeb a chysondeb mewn pob cyfathrebiad
- Gallu profedig i weithio’n annibynnol ac addasu i flaenoriaethau sy’n newid yn gyflym
- Profiad o weithio gydag elusennau bach gydag adnoddau cyfyngedig, ac mewn timau bach
- Dangos sgiliau cyfathrebu da tra’n gweithio gydag ystod o bobl
- Profiad o rheoli prosiect, gan gynnwys rheoli terfynau amser, cydlynu tasgau a sicrhau cyfathrebu llyfn
- Profiad o greu deunydd marchnata gyda nifer o rhanddeiliaid.
Sut i ymgeisio
Llenwch a dychwelwch y ffurflen gais a’ch CV erbyn 9yb ar y 3ydd o Orffennaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd hon, cysylltwch â manager@carad.org.uk
Fe fyddwn yn cynnal cyfweliad anffurfiol gyda’r ymgweiswyr ar y rhestr fer yr wythnos yn cychwyn 8fed o Orffennaf.