Cefndir

Mae bod yn rhan o Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn rhan o daith broffesiynol barhaus i athrawon a’u hysgolion. Gan ddefnyddio dull a arweinir gan ymholiad, bydd un neu fwy o athrawon yn gweithio gyda Gweithwyr Creadigol Proffesiynol dros ddau gyfnod, i gyd-greu profiadau dysgu creadigol a dilys sy’n cyd-fynd â Phedwar Diben addysg ac sy’n ymgysylltu ag Arferion Creadigol y Meddwl.

Rhoddir Asiant Creadigol i ysgolion a fydd yn gweithio gydag uwch arweinwyr ac athrawon i nodi heriau o fewn y cynllun datblygu ysgol a allai elwa o ddull dysgu creadigol. Datblygir cwestiwn ymholiad a recriwtir Ymarferwyr Creadigol a fydd yn cydweithio ag athrawon a dysgwyr i ddyfeisio gweithgaredd sy'n archwilio'r cwestiwn ymholiad hwnnw. Er enghraifft, sut y gellir datblygu deilliannau rhifedd trwy ddefnyddio cerflunwaith? neu sut y gellir datblygu sgiliau llythrennedd disgyblion trwy ddefnyddio ffilm?.

Mae ymholiad pob ysgol yn unigryw ac wedi’i gynllunio i gefnogi datblygiad athrawon unigol a mynd i’r afael â heriau penodol a nodir yng nghynllun datblygu’r ysgol. Yn ogystal, ei nod yw meithrin creadigrwydd dysgwyr, codi cyrhaeddiad sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a chefnogi cynllunio’r cwricwlwm ehangach.

Beth allwch ei ddisgwyl o gynnig yr Ysgolion Creadigol Arweiniol?

Byddwch yn ymuno â miloedd o weithwyr proffesiynol o’r un anian sy’n cynnal ymholiad i helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial a chyflawni eu gorau ym mhob maes dysgu a datblygu trwy archwilio’r addysgeg dysgu creadigol trawsnewidiol: Arferion Creadigol y Meddwl a’r Ystafell Ddosbarth Weithredol Uchel.

Bydd dod yn Ysgol Greadigol Arweiniol yn cefnogi eich ysgol i:

  • mynd i'r afael â blaenoriaethau datblygu eich ysgol a blaenoriaethau cenedlaethol
  • cyflwyno dulliau trawsnewidiol o addysgu a dysgu
  • dechrau gwreiddio dulliau creadigol ar draws eich ysgol
  • meithrin creadigrwydd athrawon a dysgwyr
  • gwella canlyniadau i ddysgwyr

Bydd Ysgolion Creadigol Arweiniol llwyddiannus yn cael arian i archwilio:

  • sut y gall creadigrwydd a dulliau creadigol o addysgu a dysgu drawsnewid deilliannau dysgwyr a chefnogi newid yn y diwylliant dysgu mewn ysgolion
  • beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i bobl ifanc fod yn greadigol a sut y maent yn gwybod pryd mae'n digwydd
  • yr hyn y gall athrawon a gweithwyr creadigol proffesiynol eraill ei wneud i annog a datblygu creadigrwydd
  • sut y gall nodweddion Ystafell Ddosbarth Weithredol Uchel gefnogi creadigrwydd ar draws y cwricwlwm cyfan

Yr ymrwymiad rydym yn ei ddisgwyl oddi wrth ysgolion:

  • aelod ymroddedig o’r Uwch Dîm Arwain i fod yn Gydlynydd Ysgol drwy gydol y grant, 10 diwrnod y flwyddyn academaidd
  • costau cyflenwi a dalwch pan fydd y Cydlynydd Ysgol a'r athrawon sy'n cymryd rhan yn mynd i ddigwyddiadau hyfforddi a rhwydweithio. Mae hyn yn debygol o fod yn un diwrnod i gydlynwyr ac athrawon ym Mawrth 2024
  • caniatáu amser i athrawon sy'n cymryd rhan gynllunio, gwerthuso a myfyrio gyda'r holl bartneriaid a'u cefnogi i’n weithredol i arbrofi ac addysgu'n greadigol
  • cynnwys athrawon a dysgwyr fel partneriaid gweithredol a chyd-adeiladwyr wrth gynllunio, cyflwyno a gwerthuso
  • dangos cefnogaeth weithredol i'r Cynllun gan y pennaeth a'r uwch dîm arwain
  • defnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r prosiect i lywio'r Cynllun Datblygu’r Ysgol yn y dyfodol

Cyllid

Mae ysgolion yn gwneud cais i ymuno â'r Cynllun dros ddwy flynedd academaidd, gan dderbyn cyfanswm grant o £10,000. Ar ôl eu blwyddyn gyntaf, bydd yn rhaid i ysgolion ddangos eu bod wedi bodloni gofynion y cynllun a bod ganddynt gynllun clir ar gyfer y cam nesaf.

Bydd cyllid grant yn talu am eich gweithgarwch dros bob blwyddyn academaidd rydych yn y Cynllun. Disgwylir ichi wneud cyfraniad ysgol o 25% o gyfanswm y grant. Gall hyn gael ei dalu gan arian parod o gyllideb eich ysgol a/neu grantiau eraill a gall gynnwys cost amser Cydlynydd eich Ysgol (hyd at 10 diwrnod) sy'n gweithio i gefnogi eich gwaith fel Ysgol Greadigol Arweiniol.

Meini prawf cymhwysedd

* ar gael ar gyfer unrhyw ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru (Cyfnod Sylfaen – CA4) nad yw eto wedi cymryd rhan yng Nghynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol

Sut i wneud cais

Dylai ysgolion lenwi ffurflen gais Ysgolion Creadigol Arweiniol. 5pm ddydd Iau 18 Ionawr 2024 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Mae croeso ichi fynychu un o’n sesiynau briffio ar-lein cyn gwneud cais.

Gweler y sesiynau briffio ar-lein isod:

Byddwn yn anelu i hysbysu ysgolion o'n penderfyniadau ddechrau Chwefror 2024. Bydd diwrnod hyfforddi ar gyfer Cydlynwyr Ysgol ac athrawon cyn y Pasg. Bydd angen cyflwyno eich cynllunio cyn cynnal y cam cyntaf o ‘r ymchwiliad, a fydd yn ddigwydd rhwng Mehefin a Rhagfyr 2024.

Os oes gennych gwestiynau am eich cais i Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gallwch gysylltu â ni: dysgu.creadigol@celf.cymru ond cyn gwneud hynny, fe’ch cynghori i ddarllen y Llawlyfr yn llawn.

Cymorth
Adnoddau Artist22.11.2022

Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Llawlyfr Medi 2022

Cwestiynau mynych

Mae Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yn caniatáu i ysgolion ymuno â rhaglen hirdymor i ddatblygu dulliau newydd o addysgu a dysgu gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol creadigol yn yr ystafell ddosbarth. Mae pob Ysgol Greadigol Arweiniol yn cael cyllid sy’n eu galluogi i gynllunio, gweithredu a gwerthuso rhaglen waith bwrpasol sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â heriau eu hysgol wrth iddynt weithredu a gwreiddio Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r rhaglen yn ymarferol a’i nod yw rhoi cyfle datblygiad proffesiynol cyfoethog yn seiliedig ar ymarfer i athrawon. Mae hefyd yn anelu at wella canlyniadau i ddysgwyr, meithrin eu creadigrwydd, eu cefnogi i gyflawni eu potensial a'u paratoi gyda sgiliau ar gyfer bywyd. Cyn dechrau ar eu gwaith fel Ysgol Greadigol Arweiniol, bydd athrawon sy’n cymryd rhan hefyd yn cymryd rhan mewn diwrnod hyfforddiant datblygiad proffesiynol.

Mae’r cynllun yn cynnig llawer o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ac yn ganolog iddo mae dysgu seiliedig ar ymarfer i athrawon. Dros gyfnod o flwyddyn academaidd bydd athrawon sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i weithio ochr yn ochr â gweithwyr creadigol proffesiynol a’u dysgwyr i gynllunio, gweithredu a gwerthuso prosiect pwrpasol yn y cwricwlwm. Mae’r ffordd hon o weithio yn galluogi athrawon i ganolbwyntio ar eu datblygiad proffesiynol eu hunain ac yn caniatáu iddynt arbrofi â dulliau newydd o addysgu a dysgu.

Bydd athrawon sy'n cymryd rhan a Chydlynydd yr Ysgol hefyd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant undydd ysbrydoledig ac ymarferol i gefnogi eu dealltwriaeth o'r cynllun, o ddysgu creadigol a datblygiad sgiliau creadigol.

Ochr yn ochr â’r cyllid mae ysgolion hefyd yn cael cymorth gan Asiant Creadigol a fydd yn gweithio gyda nhw drwy gydol eu taith fel Ysgol Greadigol Arweiniol. Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n talu am gostau'r Asiant Creadigol.

Mae'r cynllun yn agored i unrhyw ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru (Cyfnod Sylfaen – CA4) nad sydd eto wedi cymryd rhan yng Nghynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.

Cliciwch ar y ddolen ar y dudalen yma.

Mae ceisiadau’n cau am 5yp ddydd Iau 11 Ionawr 2024.

Dylai aelod o Uwch Dîm Rheoli yr ysgol wneud y cais ar ran yr ysgol.

Disgwyliwn y bydd ysgolion yn ran o’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol am ddwy flynedd, gan dderbyn grant o £5,000 y flwyddyn. Ar ôl eu blwyddyn gyntaf, bydd yn rhaid i ysgolion ddangos eu bod wedi bodloni gofynion y cynllun a bod ganddynt gynllun clir ar gyfer cam nesaf cyn iddynt dderbyn eu grant ar gyfer blwyddyn dau.

Gall hyn ddod o gostau cyflenwi er mwyn caniatáu i’ch cydlynydd ysgol a’ch athro fynychu’r sesiwn hyfforddi, amser eich cydlynwyr ysgol (hyd at 10 diwrnod) i helpu i roi’r prosiect ar waith.

Bydd eich grant yn cael ei wario ar amser ymarferwyr creadigol (£250 y dydd) a deunyddiau/adnoddau i gyflawni'r prosiect. Ni ellir defnyddio'r arian i brynu offer (gan gynnwys offer digidol) nac offerynnau cerdd.

Na. Bydd Ysgolion Creadigol Arweiniol yn cychwyn ar eu taith trwy weithio gydag Asiant Creadigol sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig a fydd yn cael ei baru â'r ysgol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gyda’i gilydd bydd cymuned yr ysgol a’r Asiant Creadigol yn gwneud diagnosis ac yn egluro’r materion allweddol a’r blaenoriaethau datblygu a allai fod o fudd ymagwedd greadigol. O’r sgyrsiau hyn, datblygir syniadau ar gyfer gweithgaredd prosiect ac yna bydd y broses o ddewis Ymarferwyr Creadigol yn dechrau.

Ochr yn ochr â’r ymrwymiad ariannol, disgwylir i ysgolion ymrwymo adnoddau, amser a chapasiti i’w gwaith prosiect a’i gynllunio, gweithredu a gwerthuso. Dylent fod yn barod i ddylanwadu ar arfer yn eu hysgol eu hunain a rhannu hyn ag ysgolion eraill.

Gall prosiectau ddigwydd ar draws holl feysydd y cwricwlwm a gallant hefyd gefnogi gweithio’n drawsgwricwlaidd.

Mae Cynllun yr Ysgol Greadigol Arweiniol yn canolbwyntio ar weithio yn y cwricwlwm gyda gweithgareddau’n digwydd yn ystod y diwrnod ysgol. Nid rhaglen ar ôl ysgol yw hwn.

Bydd gofyn i’r Cydlynydd Ysgol (aelod o’r uwch dîm rheoli) ac un athro i fynychu’r hyfforddiant. NODER. mae hyn yn debygol o fod yn 1 diwrnod ym mis Mawrth 2024.

Gall dysgwyr fod o'r dosbarth derbyn hyd at Flwyddyn 11. Yn anffodus, ni allwch ddefnyddio'r grant hwn i weithio gyda dysgwyr meithrin neu ôl-16.

Darllen mwy
Dechrau

Wedi cau 5pm 18 Ionawr 2024.