Cefndir

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru yn falch o wahodd sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol yng Nghymru (orielau, sefydliadau sy’n comisiynu a chyflwyno) i wneud cais i fod yn rhan o'r rhaglen 2 flynedd unigryw yma.

Bydd y cyfle yn cefnogi saith sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol i weithio mewn partneriaeth â saith amgueddfa unigol Amgueddfa Cymru ar draws Cymru.

Bydd grant o £60,000 yn cael ei gynnig i'r sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol a fydd yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd o fis Ebrill 2023 ymlaen.

Pwrpas y gronfa yw:

  • Datblygu straeon a ffyrdd o gydweithio'n greadigol sy'n darparu hanes cytbwys, dilys a datgoloneiddiedig o Gymru ac adlewyrchiad o Gymru heddiw
  • Ymyriadau a phrofiadau creadigol newydd y bydd y cyhoedd yn eu mwynhau ac a fydd yn eu herio
  • Arian a chyfleoedd i weithio a chael profiad ym maes treftadaeth a'r celfyddydau gweledol i weithwyr proffesiynol creadigol o gefndir diwylliannol ac ethnig amrywiol
  • Adlewyrchu a chydnabod safbwyntiau, profiadau a straeon cymunedau diwylliannol ac ethnig amrywiol, ddoe a heddiw
  • Gwneud lle ac amser i newid fel bod artistiaid, sefydliadau a chymunedau yn gallu siarad â'i gilydd a chynnig syniadau a ffyrdd newydd o weithio gyda’i gilydd
  • Dymchwel rhwystrau a newid diwylliannau sydd ar hyn o bryd yn atal:

             -creu gwaith

             -mynediad at weithiau celf, casgliadau a lleoedd arddangos

             -grymuso cymunedau

  • Gwnewch yn siŵr fod y gwersi a ddysgir ynghyd â'r ffyrdd newydd o weithio’n dod yn ymarfer da i sefydliadau weithio'n fwy creadigol gan gydweithio ag unigolion a chymunedau
  • Dywedwch wrth sector ehangach y celfyddydau a threftadaeth am y gwersi a ddysgir fel y gallant hwythau gymryd rhan yn y sgwrs a gweithredu’n ôl y casgliadau
Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid27.02.2023

Canllawiau Safbwynt(iau)

Nodiadau cymorth gyda chyllid27.02.2023

Templed Cyllideb Prosiect: Safbwynt(iau)

Dechrau

Yn agor 1 Mawrth 2023.

Yn cau 5pm 8 Mawrth 2023.