Bydd ein Hadolygiad Buddsoddi a’i benderfyniadau ariannu yn cael eu llywio gan chwe egwyddor sydd wedi’u cynllunio i adlewyrchu agweddau o’r sector sydd angen gweld newid cadarnhaol, gweithredu ac esblygiad. Ond bydd angen i ni hefyd ystyried Cymru gyfan. Mae set o ffactorau cydbwyso y byddwn yn eu hystyried wrth edrych ar bob agwedd ar y ceisiadau.

Y chwe egwyddor

Fe gyrhaeddon ni’r chwe egwyddor yma ar ôl cyfnod o fyfyrio ac ymgynghori. Maen nhw’n dilyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chontract Diwylliannol a Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn agos. Er ein bod yn disgrifio pob un yn unigol, mae croestoriadedd rhwng pob un o’r chwe egwyddor.

Mae'r cwestiynau ymgeisio ac asesiadau’r Adolygiad Buddsoddi wedi canolbwyntio ar y chwe egwyddor hwn. Rydym yn disgwyl i’r holl sefydliadau sy’n cael eu hariannu ymrwymo i’w taith ddatblygu eu hunain ar draws pob maes. Y chwe egwyddor yw: Creadigrwydd; Ehangu Ymgysylltiad; y Gymraeg; Cyfiawnder Hinsawdd; Meithrin Talent; a Thrawsnewid.

Creadigrwydd: mae gan gelf y grym i’n cysylltu â’n gilydd a’n helpu i ddeall ein gilydd a’r byd o’n cwmpas. Mae’n herio ein ffordd o feddwl ac yn sbarduno ein dychymyg. Os yw wedi’i chreu gyda chywirdeb a dyhead, mae’n dod â llawenydd a gobaith i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr.

Mae creadigrwydd wrth wraidd pawb a phopeth rydym ni’n eu cefnogi. Rydym am weld amrywiaeth eang o ffurfiau ac arferion creadigol yn cael eu creu drwy gadw cymunedau a chynulleidfaoedd mewn cof, sy’n annog arloesedd artistig. Celf sy’n golygu rhywbeth i bobl.

Mae sefydliadau’n cael eu hannog i arbrofi ac i fentro’n artistig, ond yn anad dim, i ddatblygu gwaith sy’n berthnasol, yn gynhwysol ac yn cael ei wneud trwy ddulliau moesol.

 

Ehangu ymgysylltiad: cyrraedd y cymunedau hynny yr ydym yn methu ag ymgysylltu â nhw’n gyson. Dylai’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru adlewyrchu bywydau ei holl ddinasyddion ac eto mae llawer o bobl yn dal i wynebu rhwystrau ac anawsterau o ran ymgysylltu â’r celfyddydau.

Dylai ein dull o ehangu ymgysylltiad fod yn un sy’n cydnabod croestoriadedd a’r ffaith bod pawb sy’n wynebu gwahaniaethu ac anfantais yn rhyng-gysylltiedig. Ein hagwedd yw gwrthod goddef unrhyw hiliaeth, ableddiaeth, homoffobia a thrawsffobia. Rydym am sicrhau bod pobl o gymunedau amrywiol yn cael eu cynrychioli’n llawn yn y gweithlu, fel arweinwyr, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, crewyr, ymwelwyr, cyfranogwyr ac aelodau o’r gynulleidfa. Rhaid hefyd parhau i glywed lleisiau’r rhai sy’n wynebu amddifadedd economaidd-gymdeithasol, ac mae’n rhaid gweithredu i ddileu’r llu o rwystrau a heriau sy’n eu hwynebu wrth greu a chael mynediad at y celfyddydau.

Mae ehangu ymgysylltiad hefyd yn ymwneud â Democratiaeth Ddiwylliannol – pobl a chymunedau’n cael eu grymuso i lunio ac i lywio eu profiadau celfyddydol a diwylliannol eu hunain ac i fod yn gyd-gynhyrchwyr a chyd-grewyr mewn celfyddydau a diwylliant sy’n adlewyrchu eu profiadau personol.

 

Y Gymraeg: rhaid iddi fod yn rhan lewyrchus o’n bywyd creadigol. Dylai pobl o bob cefndir allu creu a phrofi’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt yn y Gymraeg. Mae hyn oherwydd ein bod yn credu y dylai pawb gael cyfle cyfartal i fwynhau ac i greu celf a chymryd rhan ynddi a chael mynediad ati drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal ag yn ddwyieithog, yng Nghymru.

Byddwn ni’n defnyddio poblogrwydd, potensial a dylanwad y celfyddydau i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Hoffem i’r holl sefydliadau yr ydym yn eu cefnogi ddatblygu a hyrwyddo ymdeimlad o rannu perchnogaeth ar y Gymraeg a’i rhan unigryw o fewn Cymru ddwyieithog ac amlieithog.

Rydym yn disgwyl gweld sefydliadau yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddysgu, i ddefnyddio ac i rannu iaith a diwylliant Cymru; rydym am iddynt ddathlu stori’r iaith a’i hesblygiad o fewn diwylliannau a chymunedau cyfoes Cymru.

 

Cyfiawnder hinsawdd: drwy weithredu’n gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn foesegol gynaliadwy.

Mae angen i bob un ohonom gymryd perchnogaeth ar yr argyfyngau hinsawdd a natur. Credwn y gall y celfyddydau, a’r sefydliadau rydym yn eu hariannu, chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hyn. Er enghraifft, rydym yn gweithio tuag at dargedau Llywodraeth Cymru i gael sector cyhoeddus sero net erbyn 2030 a sector celfyddydol sero net erbyn 2050 fel rhan o darged Cymru sero net.

Rydym am ariannu sefydliadau a fydd yn ymuno â’r daith ar y cyd o wireddu potensial llawn y celfyddydau i ddychmygu, cysylltu a chyfathrebu’r angen am gyfiawnder hinsawdd a defnyddio grym y celfyddydau i effeithio ar newid drwy werthoedd empathi, undod ac iachau. Ymhob un o’n penderfyniadau, byddwn yn gwneud dewisiadau moesol sy’n ystyried yr effaith ar bobl a’r blaned, yn lleol ac yn fyd-eang.

 

Meithrin talent: ar gyfer dyfodol iach i’r celfyddydau. Mae angen i bob un ohonom sicrhau bod llwybrau sy’n caniatáu i bobl o bob cefndir ddatblygu creadigrwydd, sgiliau ac arweinyddiaeth.

Rydym am i’r sefydliadau a ariannwn gydnabod ehangder a dyfnder yr artistiaid yn y sector ac i ddeall bod ecoleg artistig lwyddiannus a chynhwysol yn gofyn am i bawb gydweithio â’i gilydd. Mae buddsoddi mewn gweithlu amrywiol a Chymraeg yn rhan greiddiol o hyn.

Rydym am i sefydliadau feithrin sgiliau ac i ddatblygu cenedlaethau o arweinwyr diwylliannol ac artistiaid y dyfodol. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth bod sefydliadau’n creu llwybrau a chyfleoedd newydd ar gyfer datblygiadau parhaus, a’u bod yn mynd ati i wrando ar eu cymunedau a’u pobl ifanc. Rydym am weld hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n cydnabod lles yr unigolion hyn, gyda thâl sy’n deg a chyfartal.

 

Trawsnewid: manteisio ar gyfleoedd newydd a mentro, bod yn wydn ac yn ymatebol i newid, wrth barhau’n berthnasol i bobl a chymunedau Cymru.

Rhaid i sefydliadau yr ydym yn eu hariannu ymrwymo i ffordd iach o weithio a diwylliant cadarnhaol ac i sicrhau eu bod yn ymatebol, yn arloesol, yn berthnasol ac yn atebol. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu twf yn nhermau economaidd; byddwn ni’n ystyried sut mae sefydliadau’n gwneud eu penderfyniadau, pa fath o dystiolaeth maen nhw’n ei ddefnyddio, pwy maen nhw’n ei gynnwys a chynwysoldeb y penderfyniadau hynny.

Rydym yn chwilio am sefydliadau sy’n arwain y ffordd yn eu maes – yn cefnogi ac yn gweithio mewn partneriaeth ag artistiaid unigol, gweithwyr llawrydd a chyrff eraill. Mae hefyd yn bwysig bod gan y sefydliadau sy’n cael eu hariannu strwythurau llywodraethu a sefydliadol cadarn a gwydn i gyflawni eu cynlluniau, i gymryd a rheoli peryglon ac i nodi meysydd sydd angen cymorth a chefnogaeth.