Os nad ydyn ni’n cyrraedd y safonau hyn, rydyn ni eisiau gwybod.

I wybod mwy am y mathau o gwynion y gallwn dderbyn a’r mathau o gwynion na allwn dderbyn, ag i wybod mwy am sut i wneud cwyn, darllenwch ein Gweithdrefn Gwyno.

Rydyn ni’n gwybod bod pobl weithiau’n poeni beth allai ddigwydd petaen nhw’n gwneud cwyn. Fe hoffen ni roi ein sicrwydd na fydd gwneud cwyn yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar lefel y gwasanaeth y byddwch yn ei derbyn gennym. Er enghraifft, os yw eich cwyn yn ymwneud â chais am gyllid, ni fydd hyn yn effeithio ar eich siawns o gael grant gennym yn y dyfodol.

Codi testun pryder am rhywbeth neu rhywun rydym o bosib wedi ariannu

Rydych chi’n gallu mynegi pryder am:

  • cais cyfredol am arian
  • prosiect sy'n digwydd
  • rhywun sy’n torri telerau ac amodau ei grant

If you're raising concerns about a decision taken to fund an applicant, we'll take actions to review the information and consider whether it would have affected our decision in the first instance.

Ond:

  • Nid ydym ni’n gallu cynnal trafodaeth gyda chi am eich anghytundeb ag unrhyw benderfyniad ariannu penodol heblaw mai ar sail torri telerau ac amodau grant sydd gyda chi dan sylw.
  • Ni fyddwn ni’n ymhél ag unrhyw anghytundeb personol rhyngoch chi ac unrhyw un sydd wedi cael grant gennym ni; dylech chi drafod yr anghytundeb gyda’r person arall.
  • Rydym ni’n gallu ymchwilio i dorri ein cytundeb ariannu ond nid i dorri’r gyfraith; os yw eich pryder am dorri’r gyfraith, er enghraifft am dwyll, dylech chi ysgrifennu at ein Prif Weithredwr neu Gadeirydd ein Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Perygl.

Mynegi pryder

Os hoffech chi fynegi pryder, cysylltwch â’n tîm grantiau a gwybodaeth.

Os ydych chi’n cael (neu’n ofni cael) unrhyw rwystr i fynegi pryder, neu os oes angen arnoch chi wybodaeth mewn ieithoedd eraill, neu mewn fformat arall, cysylltwch â ni am wybodaeth.

Ymateb i’ch pryder

Byddwn ni’n rhoi gwybod ichi mewn 10 diwrnod gwaith os byddwn ni’n ymchwilio i'ch pryder. Ar ôl ymchwilio i'ch pryder, byddwn ni’n dweud wrthych chi os ydym ni’n mynd i gymryd unrhyw gamau pellach o ganlyniad.

Hawl i gyfrinachedd

Efallai mai rhan o ystyried eich pryder fydd cysylltu â phwy bynnag sydd wedi cael y grant. Os ydym ni’n gwneud hyn, byddwn ni’n parchu eich hawl i aros yn ddienw a pharchu unrhyw geisiadau rydych chi wedi’u gwneud o ran eich cyfrinachedd.

Os ydych chi’n gweithio i'r bobl rydych chi’n mynegi pryder amdanyn nhw, neu os yw’ch enw yn y cais am grant fel cyswllt, ac yr hoffech chi inni gadw eich manylion yn gyfrinachol, rhowch wybod inni ar yr un pryd â mynegi’r pryder. Byddwn ni’n parchu eich dymuniad.

Os byddwn ni’n cael gwybodaeth sy'n awgrymu fod pobl mewn perygl, efallai y bydd raid inni ddweud wrth yr heddlu neu wrth yr awdurdodau. Wedyn bydd eich cyfrinachedd yn unol â gofynion y corff arall sy’n ymchwilio.

Adolygydd cwynion annibynnol

Pan gawn ni gŵyn am ein gwaith, rydym ni’n ei harchwilio yn ôl ein polisi cwynion. Weithiau mae angen i adolygydd cwynion annibynnol archwilio’r gŵyn. I fod yn agored a thryloyw, cyhoeddwn bob adroddiad terfynol gan yr adolygydd annibynnol.

 Mae’r adroddiad yn sôn am gŵyn am weinyddu ein cynllun, Cydweithwyr Celfyddydol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi derbyn yn llawn argymhellion yr adroddiad ac wedi ymddiheuro i’r cwynwr. Rydym ni hefyd wedi gwella ein gweithdrefnau i gael gwared â’r  diffygion a nodwyd yn yr adroddiad.

Ymchwil a gwerthuso07.05.2020

Cydweithwyr Celfyddydol: Gwasanaeth Adolygu Cwynion Annibynnol Fforwm y Loteri