Bwriad y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yw hyrwyddo dynesiad mwy agored a thryloyw led-led y sector gyhoeddus. O dan delerau'r Ddeddf gall unrhyw un wneud cais am fynediad i wybodaeth a gofnodir ac a gedwir gennym. Mae'r dogfennau isod yn rhoi mwy o fanylion am y mathau o wybodaeth a gyhoeddwn a phryd y byddwn yn codi tâl am ddarparu gwybodaeth mewn ymateb i gais.

Sut mae cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth?

Yn y lle cyntaf, dylech gael cip dros y wefan hon er mwyn gweld a yw'r wybodaeth y dymunwch ei gael yno eisoes. Os na fedrwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, anofonwch gais os gwelwch yn dda (gan roi cymaint o fanylion â phosib) at:

Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Chydymffurfiaeth
Cyngor Celfyddydau Cymru
Plas Biwt
Caerdydd
CF10 5AL

Neu e-bostiwch: llywodraethiant@celf.cymru

Polisiau18.07.2019

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 Polisi Codi Tâl

Polisiau18.07.2019

Canllaw i wybodaeth

Adnoddau Artist18.07.2019

Cynllun cyhoeddi enghreifftiol