Mae creu neges ddigidol yn ffordd rymus o farchnata, rhwydweithio a hysbysebu, yn gallu denu cynulleidfaoedd newydd ac ennyn teyrngarwch a chryfhau brand. 

Dyma nifer o syniadau ymarferol. 
 

Cyfryngau Cymdeithasol 

  • Ydy eich proffil ar y gwahanol Gyfryngau Cymdeithasol yn ddwyieithog? Cam cyntaf cyflym yw sicrhau bod y wybodaeth ar eich proffiliau yn ymddangos yn y ddwy iaith. 

  • Os ydych yn gwbl newydd i rannu negeseuon yn Gymraeg, beth am gynllunio eich bod yn cyhoeddi rhai negeseuon yn y ddwy iaith bob wythnos – ac yna adeiladu ar hyn o wythnos i wythnos. 

  • Oes mwy nac un cyfrif gan eich cwmni? Efallai fod gennych un cyfrif sy'n trydar yn Gymraeg ac un arall sy'n trydar yn Saesneg. Pa mor aml fydd y cyfrifon yma'n cael eu defnyddio ac ydy defnydd a chynnwys y negeseuon yn gyson yn y ddwy iaith? Ewch ati i wirio. 

  • Efallai mai’r cam nesaf i chi fydd ystyried sgiliau ieithyddol eich staff a pha help fyddai angen arnynt i ddrafftio rhai negeseuon syml yn y Gymraeg. 

  • Defnyddiwch hashtags i hwyluso eich negeseuon Cymraeg. Mae’r Awr Gymraeg ar Twitter bob nos Fercher rhwng 8 – 9pm ond beth am ddefnyddio hashtag yr Awr Gymraeg bob tro y byddwch yn trydar yn Gymraeg? #yagym. Dyma fideo sy'n sôn am Yr Awr Gymraeg.

  • Cofiwch ddweud eich bod yn hapus i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a bod modd cysylltu â chi drwy gyfrwng yr iaith.  
  • Cysylltu â’r wasg yn Gymraeg: Dyma dudalen gyfeirio syml i chi sy'n rhoi gwybodaeth am brif sefydliadau'r wasg Gymreig
     

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n gyfrifol am y sector dysgu Cymraeg. Mae'r Ganolfan yn cefnogi ac yn annog pawb sydd am ddysgu'r iaith. Mae pob math o opsiynau gwahanol ar gael i gyflogwyr a’u gweithluoedd sydd am ddysgu Cymraeg.

Gallwch gynnwys eich Menter Iaith leol wrth hyrwyddo eich digwyddiadau ar-lein hefyd, er enghraifft @mentercaerdydd. Dewch o hyd i’ch Menter lleol chi yma.  
 

Gwasanaeth prawf ddarllen

Mae cymorth ymarferol ar gael i'ch helpu wrth ddrafftio negeseuon yn Gymraeg hefyd. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig gwasanaeth prawf ddarllen ymarferol am ddim. E-bostiwch eich drafftiau at hybu@comisiynyddygymraeg.cymru a bydd y gwaith yn cael ei wirio a’i anfon yn ôl atoch. 

 


"I rywun sydd ddim yn gweithio yn ddwyieithog mae yn bwysig nodi nad mater o gyfieithu y fersiwn Saesneg i’r Gymraeg yn unig sydd angen ei wneud. Fel ym mhob sector, mae yna ystod eang o gysylltiadau, newyddiadurwyr, sefydliadau Cymraeg ac yn y blaen, y gallwch eu defnyddio i ledaenu eich neges fel rhan o’ch cynllun marchnata. Yn aml iawn, mae’r cysylltiadau yma yn wahanol i’r rhai Saesneg (hyd yn oed o fewn yr un sector gelfyddydol yng Nghymru).... Mae amryw o sefydliadau all helpu efo hyn os nad oes gennych y gyllideb – man da i gychwyn ydy gyda’ch Mentrau Iaith lleol." 

Siân Prydderch Fitzgerald, Swyddog Celfyddydau Cymunedol, Cyngor Sir Ddinbych 

 


Gwefan 

  • Os nad yw eich gwefan yn gwbl ddwyieithog, beth am gynyddu'r tudalennau neu'r testun sydd ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. 
  • Diweddaru tudalennau: Os oes gennych wefan ddwyieithog, ydy'r tudalennau Cymraeg yn cael eu diweddaru ar yr un pryd â'r rhai Saesneg? Gwiriwch beth yw’r drefn o ran diweddaru tudalennau ar draws eich cwmni - yn enwedig os oes mwy nac un person yn ychwanegu testun.  
  • Newid o un iaith i'r llall yn rhwydd: Wrth bori drwy eich safle, oes modd newid o’r Gymraeg i’r Saesneg ar unrhyw adeg wrth ddefnyddio’r botwm dewis iaith? Os nad yw hyn yn bosib ar hyn o bryd, gofynnwch i'ch cwmni dylunio beth sy'n bosib. Efallai y bydd hyn yn ffactor i chi ei ystyried y tro nesaf y byddwch yn cynllunio. 
  • Fideos: Os ydych chi'n creu fideos ar gyfer gwefan neu YouTube - cofiwch eich bod hi'n arfer dda defnyddio is-deitlau. Mae modd defnyddio meddalwedd syml i osod is-deitlau ar fideos.  

 

Camau tymor canol / hir-dymor 

  • Faint o sylw ydych chi'n ei roi i farchnata drwy gyfrwng y Gymraeg yn eich Cynllun Marchnata Digidol ar hyn o bryd? Ydy’r gwaith hwn yn cael ei ystyried ar ddechrau prosiect a/neu yn y broses gynllunio? Mae'n aml yn haws rhoi'r amser a'r sylw teilwng i elfennau gwaith sy'n cael eu hystyried i fod yn rhan ganolog neu greiddiol o brosiect.  

  • Os nad oes modd i chi fanteisio ar sgiliau iaith Gymraeg eich staff, beth am ystyried llunio partneriaeth gyda chwmni lleol arall? Dyna mae Celf ar y Blaen yn Abertyleri wedi ei wneud: 

 


"Yn ddiweddar, rydym wedi llunio cytundeb gyda Menter Iaith Sir Caerffili er mwyn gallu rhannu gwasanaethau eu Swyddog Digidol sydd yn siaradwr Cymraeg rhugl. Mae hyn wedi gwella ein gallu i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.' 

Kate Strudwick, Cyfarwyddwr Celf ar y Blaen, Abertyleri

 

  • Allech chi ymateb drwy gyfrwng y Gymraeg pe bai rhywun yn dymuno cyfathrebu â chi yn yr iaith honno? Pa gamau fyddech chi’n eu cymryd a pha mor gyflym fyddai modd i chi wneud hynny? Beth am sefydlu proses i ddelio gyda’r sefyllfa yma. 

  • Oes angen i chi lunio cynllun mwy hir dymor i fagu hyder eich staff sy'n siarad Cymraeg, annog staff i ddysgu Cymraeg neu ddenu staff sydd â sgiliau Cymraeg? Am syniadau ar sut i ddatblygu eich gweithlu cliciwch yma.


"Cafodd ein gwefan gyfredol ei chreu rhai blynyddoedd yn ôl ac rydym ar fin lansio un newydd fydd yn haws i'w diweddaru ac sydd â llawer mwy o elfennau yn perthyn iddi. Ystyriaeth ganolog wrth ddewis ein platfform newydd oedd y ffaith ei fod yn gallu cynnig gwefan dwyieithog inni. Roedd yn rhaid gwneud yn siŵr bod datblygwyr y wefan yn deall fod hyn yn elfen bwysig iawn o'r gwaith. Nawr rwy'n teimlo'n gyffrous i bawb gael gweld y wefan." 

Kathryn Williams, Cyfarwyddwr, Rubicon Dance  

“Mae cadw gwefan yn gyfredol bob amser yn heriol i sefydliadau bach - beth bynnag fo'r iaith! Nid yw'n llawer mwy o ymdrech i wneud yn siŵr fod creu darpariaeth ddwyieithog yn cael ei gynllunio. Dylech beidio byth â rhoi'r opsiwn i chi eich hun ei wneud mewn unrhyw ffordd heblaw yn ddwyieithog - mae'n ymrwymiad ac nid yn ddewis. Yn ganolog i'r ymrwymiad hwn mae angen sicrhau fod gennych fynediad at wasanaeth cyfieithu dibynadwy a'ch bod yn cofio cynnwys costau cyfieithu yn y gyllideb. Rydyn ni'n ceisio gwneud unrhyw newid i'r wefan yn y ddwy iaith ar yr un pryd.” 

Kate Strudwick, Cyfarwyddwr Celf ar y Blaen, Abertyleri


Adnoddau defnyddiol gan Gomisiynydd y Gymraeg: