Mae rhaglen Dysgu creadigol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd a dulliau creadigol o addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm o fewn ysgolion yng Nghymru.

Un o hanfodion Dysgu creadigol Cymru yw sut y mae’n diffinio creadigrwydd. Gwneir hynny drwy arf y ‘5 Arfer Creadigol y meddwl’. Wedi ei lunio yn wreiddiol o waith Guy Claxton, Bill Lucas ac Ellen Spencer o'r Centre for Real World Learning ym Mhrifysgol Caerwynt (2013), mae’r arf hwn bellach yn cael ei ddefnyddio yn rhyngwladol gan gynnwys yma yng Nghymru. Yn ogystal ag addysg, gellir ei addasu i gael ei ddefnyddio yng nghyd-destun unrhyw faes.

Gall yr olwyn greadigol helpu unigolion creadigol i:

  • Ddefnyddio iaith greadigol i’w helpu i feithrin hyder mewn defnyddio’r iaith Gymraeg
  • Dod yn fwy ymwybodol o’u creadigrwydd wrth feithrin yr iaith
  • Cwestiynu, gwneud cysylltiadau, arloesi, datrys problemau, cyfathrebu a chydweithio
  • Ystyried sut i greu cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau creadigol wrth ddefnyddio’r iaith Gymraeg
  • Yn help i fyfyrio a thyfu

 

Enghreifftiau

Gemau geiriau.

“Cuddiwch wrthrych gydag enw Cymraeg. Gall sawl sialens neu gêm gael eu cynnal o'r weithred. Yr hyn sy’n bwysig yw mai enwau Cymraeg y gwrthrychau gaiff eu defnyddio.”

Pwrpas - Dysgu, cofio ac ail adrodd geirfa newydd

Adnoddau - Dim, gellir gwneud hyn ar lafar. Bydd hwn yn gêm gyda 2 neu fwy o bobol yn cymryd rhan.

Y weithgaredd

Cam 1 - Fel grwp, penderfynnwch ar y gwrthrych hoffech ei guddio. Bydd angen cyfierio at y gwrthrych gyda’i enw Cymraeg yn unig

Cam 2 – Bydd gofyn i un person guddio’r gwrthrych rhag i eraill ei weld. Bydd angen i bawb arall ddod o hyd i’r gwrthrych unwaith mae wedi cael ei guddio

Mynd yn ddyfnach

Beth am ychwanegu geiriau ychwangol i’r gêm. Er enghraifft, os mae’r sawl sy’n ceisio dod o hyd i’r gwrthrych yn agos neu’n bell ohono, beth am roi cliwiau. Hyn ydi, “Oer” a “Poeth” neu “Rwyt ti’n oer” a “Rwyt ti’n boeth”. A allwch ychwanegu mwy o eiriau?

Neu

Ar ôl amser, beth am ychwanegu mwy nag un gwrthrych i’r gêm. Er enghraifft, gellir cuddio mwy nag un gwrthrych ar yr un pryd neu ar wahan er mwyn ymestyn eich geirfa.

Gallai’r gweithgaredd yma ddatblygu eich arfer greadigol…

Chwilfrydig Cydweithiol Llawn Dychymyg Dyfalbarhaus Disgybledig
 
  • Cydweithio yn briodol
  • Rhannu’r cynnyrch
  • Gwneud cysylltiadau
  • Goddef ansicrwydd
  • Aros gydag anhawster
  • Crefftio a gwella
  • Myfyrio yn graff

Sibrwd geiriau / straeon mewn grŵp. Mae'r gêm hon yn seiliedig ar (Chinese Whispers). Gallwch chwarae gyda'r cyfrwng drwy ddefnyddio gwneud geiriau / cyfieithu geiriau am yn ail / defnyddio seiniau

 

Pwrpas - Dysgu, cofio ac ail adrodd geirfa newydd

Adnoddau - Dim, gellir gwneud hyn ar lafar. Bydd hwn yn gêm gyda 3 neu fwy o bobol yn cymryd rhan.

Y weithgaredd

Cam 1 - Mewn cylch, bydd angen i unigolyn sibrwd brawddeg yng nghlust y person i’w chwith. Gall y frawddeg fod mor fyr ac mor hir ag y byddwch yn teimlo'n hyderus fel grŵp iddo fod.

Cam 2 – Bydd y person i’r chwith sy’n derbyn y frawddeg angen sibrwd yr un frawddeg i’r person nesaf i’w chwith, ac yn y blaen.

Cam 3 – Unwaith mae’r frawddeg wedi cael ei swbrwd o gwmpas y cylch, bydd y person ddechreuodd y frawddeg yn adrodd y frawddeg wreiddiol allan yn uchel i weld a ydy’r frawddeg yr un fath.

Mynd yn ddyfnach 

Beth am ychwanegu geiriau cogio am ychydig o hwyl. Efallai fod y gair yn swnio’n debyg i air Cymraeg arall.

Neu

Beth am ddechrau gyda brawddeg Cymraeg. Bob yn ail, bydd angen i’r frawddeg gael ei gyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg, ac yn y blaen.

Gallai’r gweithgaredd yma ddatblygu eich arfer greadigol…

Chwilfrydig Cydweithiol Llawn Dychymyg Dyfalbarhaus Disgybledig
  • Tybio a chwestiynu
  • Cydweithio yn briodol
  • Rhannu’r cynnyrch
  • Chwarae hefo posibiliadau
  • Gwneud cysylltiadau
  • Defnyddio greddf
  • Goddef ansicrwydd
  • Aros gydag anhawster
  • Datblygu technegau
  • Myfyrio yn graff

 

Enghreifftiau

Gemau synau iaith (llythrennau)

Cytseiniaid Cymraeg.

Cynhyrchu cyseiniannau a seiniau o gytsain yr wyddor Gymraeg. Cael hwyl yn eu defnyddio'n greadigol. Ceisiwch gyfansoddi, recordio, delweddu'r synau a chwarae gyda nhw trwy ymarferion symud a chwarae rôl.

Pwrpas - Dysgu, cofio ac ail adrodd cytseiniaid

Adnoddau - Dim. Gellir gwneud hyn ar lafar. Gellir gwneud hyn fel unigolyn neu gydag eraill. Yn dibynu ar eich ymarfer creadigol, efallai hoffech ychwanegu adnoddau i’r gêm

Y weithgaredd

Cam 1 - Dewisiwch 1 cytsain o’r wyddor Cymraeg - "b, c, ch, d, dd, f, ff, g, ng, h, j, l, ll, m, n, p, ph, r, rh, s, t, th"

Cam 2 – Mynegwch y cytsain hwnnw allan yn uchel gan wrando ar beth mae’ch corff eisiau ei wneud. Gallwch ganu’r cytsain, gweiddi’r cytsain allan yn uchel mewn modd theatrig (yn flin, yn hapus, yn gyffrous, yn bryderus), neu fynegi’r cytsain hwnnw drwy symudiad corff.

Cam 3 – Ailadroddwch y cytsain drosodd a throsodd gan ei fynegi’n greadigol glir nes fod y cytsain wedi ei wreiddio.

Mynd yn ddyfnach

Beth am ychwanegu mwy nag un cytsain i’r gêm?

Neu

Beth am greu geiriau wedi eu dyfeisio gan ddefnyddio amrywiaeth o gysteiniaid gwahanol. Byddwch mor greadigol â phosib.

Gallai’r gweithgaredd yma ddatblygu eich arfer greadigol…

Chwilfrydig Cydweithiol Llawn Dychymyg Dyfalbarhaus Disgybledig
  • Archwilio ac ymchwilio
  • Rhoi a derbyn adborth
  • Rhannu’r cynnyrch
  • Chwarae hefo posibiliadau
  • Gwneud cysylltiadau
  • Meiddio a bod yn wahanol
  • Datblygu technegau
  • Myfyrio yn graff

Creu geiriau o'r seiniau.

Cynyddu hyder drwy gyfuno seiniau i greu geiriau newydd.

Pwrpas – Codi hyder ac ail adrodd cytseiniaid

Adnoddau - Dim. Gellir gwneud hyn ar lafar. Gêm bâr

Y weithgaredd

Cam 1 – Gofynnir i unigolyn A greu gair ar-lafar sy’n cynnwys cymaint o gytseiniaid â phosib ("b, c, ch, d, dd, f, ff, g, ng, h, j, l, ll, m, n, p, ph, r, rh, s, t, th"). Gall hwn fod yn air wedi ei ddyfeisio neu air Cymraeg sy’n bodoli yn barod.

Cam 2 – Bydd angen i unigolyn B ail adrodd y gair sydd wedi cael ei glywed.

Cam 3 – Ailadroddwch y weithgaredd, ond gyda unigolyn B yn creu y gair y tro hwn, ac unigolyn A yn ailadrodd y gair.

Mynd yn ddyfnach

Beth am gystadlu am y gair hiraf gyda’r mwyaf o gytseniaid.

Neu

Beth am ddod o hyd i’r gair Cymraeg fwyaf unigryw i chi sy’n cynnwys nifer o gytseiniaid.

Gallai’r gweithgaredd yma ddatblygu eich arfer greadigol…

Chwilfrydig Cydweithiol Llawn Dychymyg Dyfalbarhaus Disgybledig
  • Tybio a chwestiynu
  • Rhoi a derbyn adborth
  • Rhannu’r cynnyrch
  • Chwarae hefo posibiliadau
  • Defnyddio greddf
  • Goddef ansicrwydd
  • Meiddio a bod yn wahanol
  • Datblygu technegau
  • Myfyrio yn graff