Eisiau dysgu Cymraeg? Mae Rhodri Trefor cydlynydd Dysgu Cymraeg Cyngor y Celfyddydau wedi dwyn ynghyd cyfres o gyfleoedd i chi ddysgu Cymraeg, boed yn ddechreuwr, neu dim ond angen cyfle i ymarfer eich Cymraeg neu roi hwb i'ch hyder. Edrychwch ar y dewisiadau isod a cysylltwch gyda Rhodri trwy anfon e-bost ato er mwyn trafod ymhellach.

CYFLEOEDD I WEITHWYR LLAWRYDD

Cwrs Llwybr Carlam

Fyddech chi'n hoffi dysgu Cymraeg o'r dechrau a medru cynnal sgwrs o fewn blwyddyn? Efallai yr hoffech ystyried y cynllun 'llwybr carlam'.

Mae hyn yn dechrau gyda threulio wythnos breswyl yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, Llŷn, gyda chwrs 60 awr o hunan-astudio gyda chymorth tiwtor Cyngor y Celfyddydau, Rhodri Trefor yn dilyn hynny.

Mae'r cwrs am ddim i chi, a byddwn hefyd yn talu am eich amser yn ystod eich cyfnod yn Nant Gwrtheyrn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri.trefor@celf.cymru

CYFLEOEDD I UNIGOLION A SEFYDLIADAU CELFYDDYDOL YNG NGHYMRU

Cyrsiau Hunan-astudio

Eisiau dysgu Cymraeg? Beth am achub ar y cyfle i fynychu'r cwrs Mynediad neu Sylfaen yn rhad ac am ddim. Mae'r rhain yn gyrsiau sy’n eich galluogi i  ddysgu ar eich cyflymder eich hun - heb unrhyw bwysau. Bydd ychydig o aseiniadau i'w cyflawni gyda sesiynau adolygu achlysurol gyda'r tiwtor. Ond gall y tiwtor fod yn hyblyg yn unol â'ch anghenion a bydd wrth law i'ch helpu ar hyd y daith. Cyfle gwych i sefydliadau wella sgiliau yn y gweithle a chynnig sgil amhrisiadwy i weithwyr llawrydd.

  1. Cwrs mynediad: Ar ddiwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu deall patrymau iaith syml gan gynnwys y presennol, y gorffennol, a'r dyfodol, a geiriau ac ymadroddion bob dydd.
  2. Cwrs sylfaen: Ar ddiwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu trafod y presennol, y gorffennol, a'r dyfodol yn hyderus.  Byddwch yn gallu trafod pynciau fel ffrindiau, teulu, gwaith, a diddordebau amser hamdden.
     

Cyfle gwych i ddysgu ar eich cyflymder eich hun, heb unrhyw bwysau, o gysur eich cartref neu swyddfa.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri.trefor@celf.cymru

Cyrsiau Cymraeg

Cyrsiau patrwm dysgu traddodiadol yw'r rhain sy'n cael eu cynnig gan diwtor Cyngor y Celfyddydau - 2 awr yr wythnos yn ystod oriau gwaith arferol (9-5).

Poeni am amser? Gorfod colli ambell sesiwn? Galwadau gwaith yn ei gwneud hi'n anodd ar adegau?  Dim problem.  Wrth gwrs, rydym yn disgwyl ymroddiad a gwaith caled, ond rydyn ni'n deall pa mor anodd mae'n gallu bod weithiau o fod yn gweithio ym maes y celfyddydau. O ganlyniad, byddwn yn eich cefnogi gyda  sesiynau "dal i fyny".
 

Ddim yn siŵr o'ch lefel chi? Gallwn eich asesu a darparu cyngor.

Am wybodaeth bellach cysylltwch Rhodri.trefor@celf.cymru

Magu hyder

Siarad Cymraeg? Wedi colli’r hyder i'w ddefnyddio? Dim cyfle i ymarfer? Neb yn siarad Cymraeg yn y gwaith? Gallwn helpu.

Cysylltwch â ni! Ffordd dda o ennyn diddordeb a chymdeithion eraill ym maes y Celfyddydau.  Rhannwch eich pryderon. Gallwn deilwra a darparu cyrsiau a fydd yn hwyl i chi. Cyfle da i ymarfer a chael hwyl ar yr un pryd. 

Bydd dan arweiniad tiwtor am 2 awr dros 10 sesiwn. Gallwn ni wneud sesiynau sy'n berthnasol i'ch maes e.e. sgriptio, gwaith celf, trafod llenyddiaeth...  Rydyn ni'n barod i ystyried pob awgrym!
 

Am wybodaeth bellach cysylltwch Rhodri.trefor@celf.cymru

Sesiynau i ymarfer Siarad Cymraeg

Hoffech chi ymarfer eich Cymraeg dros baned o goffi? Trefnu amser wythnosol gyda phartner arall i gael sgwrs anffurfiol a rhoi'r byd yn ei le?  Dyma'r cyfle i chi wella eich Cymraeg llafar ac i ddod i adnabod rhywun newydd.

Siaradwyr Cymraeg: Fuasech chi’n hoffi cyfrannu at helpu dysgwyr Cymraeg i ddod yn fwy hyderus a rhugl yn y Gymraeg?  Dyma gyfle gwych i wella ac atgyfnerthu'r celfyddydau yng Nghymru.   Byddem ni -  a'r dysgwyr - yn hynod ddiolchgar o dderbyn eich cefnogaeth a byddwch yn cyfrannu'n uniongyrchol hefyd  at wireddu'r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
 

Am wybodaeth bellach cysylltwch Rhodri.trefor@celf.cymru

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n gyfrifol am y sector dysgu Cymraeg. Mae'r Ganolfan yn cefnogi ac yn annog pawb sydd am ddysgu'r iaith.  

Dyma’r opsiynau sydd ar gael i gyflogwyr a’u gweithluoedd ar hyn o bryd.
 

Cyrsiau Blasu Ar-lein a Chyrsiau Blasu Ar-lein +  

  • 20 awr o gyrsiau blasu cyffredinol a dewis o 8 cwrs penodol 
  • Adroddiadau rheolaidd ar weithgaredd y gweithlu i'r cyflogwr 
  • Adnoddau wedi eu teilwra gyda chynnwys i'w lawrlwytho a chlipiau sain 

Gweminar 

Sesiwn ‘byw’ am hyd at awr wedi ei theilwra.Gall gynnwys: 

  • Gwers Blasu gyda Thiwtor i hyd at 50 o staff 
  • Cyflwyniad ar y Rhaglen Cymraeg Gwaith 
  • Sesiwn ar Y Gymraeg yn y Gweithle: rhaglen cefnogi cyflogwyr Cymraeg Gwaith 

Cyrsiau Ar-lein gyda Chefnogaeth Tiwtor 

  • Mynediad at 60 awr o ddysgu Cymraeg 
  • Cefnogaeth gan Diwtor fydd ar gael i ateb cwestiynau, gosod gwaith cartref ayyb 
  • Pecyn Cefnogi Cyflogwyr sy’n cynnwys cyngor a gwybodaeth ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle 
     

Cofrestrwch eich diddordeb yn y cyrsiau uchod yma a bydd aelod o dîm Cymraeg Gwaith yn cysylltu â chi.   

Mae hefyd nifer o gyrsiau Prif Ffrwd ar gael yn eich cymuned. Mae rhain yn gyrsiau sy'n cael eu cynnal bob tymor ac fel cyrsiau dysgu dwys. Porwch drwy'r holl gyrsiau sydd ar gael yn gymunedol ledled Cymru yma. Mae hefyd dros fil o adnoddau ar-lein ar gael er mwyn cefnogi'r cyrsiau prif ffrwd. Mae'r rhain i gyd ar gael am ddim yma
 

Adnoddau eraill i ddysgwyr

Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg

Dyma declyn sy'n gallu helpu dysgwyr i ddod o hyd i'w lefel wrth wrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg. Mae'n bosib defnyddio'r Gwiriwr eto ar ôl cyfnod o dri mis er mwyn mesur datblygiad.  

Say Something in Welsh (SSIW)

Mae SSIW yn gwrs sy'n helpu pobl i siarad a deall Cymraeg drwy wersi ar ffurf clipiau sain. Mae'r Cwrs Cyflwyno yn cynnwys mwy nac ugain o wersi byrion ac ymarferion sydd ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sy'n cofrestru.  

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg a SSIW wedi ffurfio partneriaeth yn ddiweddar hefyd. O ganlyniad bydd disgownt ar gyrsiau’r ddau sefydliad ar gael i ddysgwyr.  

Duolingo

Mae Duolingo yn rhaglen ar-lein sy'n eich helpu i ddysgu ar ffurf gemau iaith. Mae’r gwersi byrion yma yn berffaith ar gyfer dysgwyr sy'n brin o amser ond sydd am weld cynnydd.  

Cynllun 'Siarad'

Mae ‘Siarad’ yn gynllun gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i helpu dysgwyr gael cyfle i siarad mwy o Gymraeg yn rheolaidd o fewn cyd-destun naturiol. Mae'r cynllun yn paru dysgwyr gyda gwirfoddolwyr sy'n siaradwyr rhugl. 

 

Meddalwedd digidol

Dyma restr o adnoddau defnyddiol i gefnogi staff sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.  

Cysgliad (meddalwedd gwirio iaith)

Mae Cysgliad yn cynnwys dwy brif raglenMae Cysill yn dod o hyd i gamgymeriadau ac yn eu cywiro. Casgliad o eiriaduron yw Cysgeir.

Microsoft yn Gymraeg

Gallwch lawrlwytho pecyn rhyngwyneb Cymraeg Microsoft er mwyn defnyddio eich cyfrifiadur a rhaglenni fel Word drwy gyfrwng y Gymraeg.  

To bach

Mae To Bach yn ei gwneud hi'n hawdd i roi to bach ar lythyren wrth deipio.

 

Apiau eraill

Ap Treiglo

Ap defnyddiol sy’n dweud wrthych chi pa lythyren sy’n newid neu pa dreigladau i’w defnyddio ar ôl y geiriau hynny sy’n achosi treigladau. Mae’n ddefnyddiol er mwyn bod yn fanwl gywir. Lawrlwythwch fersiwn Apple neu Android yma.

Ap Geiriaduron 

Geiriadur sydd hefyd yn cynnig cenedl enw a ffurfiau lluosog geiriau. Lawrlwythwch fersiwn Apple neu Android yma.

LiteratIM (bysellfwrdd ('keyboard') Cymraeg Android)

Dyma fysellfwrdd defnyddiol iawn sy’n awgrymu geiriau ac sy’n gweithio pan fyddwch yn anfon neges neu ebost. Dyma fideo sy’n egluro sut i’w osod ar eich ffôn.

Newid iaith Facebook i’r Gymraeg 

Cliciwch yma i weld fideo sy’n dangos sut i newid iaith.