Rydyn ni’n datblygu perthnasoedd rhyngwladol er mwyn helpu i dyfu marchnadoedd newydd i artistiaid Cymru. Rydyn ni hefyd eisiau hyrwyddo proffil creadigol y celfyddydau yng Nghymru, gan annog pobl i’n deall ni, ymweld â ni, a gweithio gyda ni. 

Mae tair ffordd y mae hyn yn digwydd. 

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Partneriaeth rhyngom ni a’r British Council yw Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae’n gwneud gwaith rhyngwladol yn y celfyddydau yn bosib drwy gyweithiau, prosiectau, rhwydweithiau a chyfathrebu, gan wneud yn siŵr bod celfyddydau a diwylliant Cymru yn cael effaith a chydnabyddiaeth ryngwladol. 

Cymru yn Fenis. Sefydlwyd Biennale Celfyddyd Fenis ym 1895, a dyma’r prif ddigwyddiad rhyngwladol ar gyfer y celfyddydau gweledol. Mae dros 500,000 yn ymweld â’r digwyddiad. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi comisiynu arddangosfeydd gan artistiaid o Gymru ers 2003. Sean Edwards sy'n cynrychioli Cymru yn Fenis 2019.

Presenoldeb Cymru yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Gŵyl Ymylol Caeredin yw’r ŵyl gelfyddydau fwyaf yn y byd. Rydyn ni’n helpu cwmnïau celfyddydau perfformio Cymru i fanteisio’n llawn ar y cyfle enfawr hwn i gyflwyno gwaith i gynulleidfa ryngwladol sylweddol. 

Fe welwch chi storïau am biennales a gwyliau blaenorol isod.