Bob chwe mis arolygwn bob aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru. Casglwn wybodaeth am nifer y digwyddiadau bob blwyddyn a faint o bobl sydd wedi mynd neu gymryd rhan. I ddeall yn well gelfyddydau Cymru, rydym hefyd yn casglu data am:

  • Pobl â nodweddion gwarchodedig yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Ymgysylltu demograffig
  • Cyflogaeth
  • Cyrff llywodraethu
  • Darlledu a ffrydio
  • Gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol
  • Hyfforddiant yn y celfyddydau
  • Perfformiad amgylcheddol

Yn ystod blwyddyn ariannol 2021-2022, fe wnaeth sefydliadau ym Mhortffolio Celfyddydau Cymru gyflawni 4,476 o brosiectau gan arwain at 2,862,837 o fynychwyr gan gymryd rhan mewn 48,449 o ddigwyddiadau a sesiynau gyda 12% o weithgarwch yn Gymraeg

Arolwg o Bortffolio Celfyddydol Cymru 2021/22

Mae arolwg o Bortffolio Celfyddydol Cymru ar gyfer 2022/23 yn ymgorffori nifer fach o ddiwygiadau a diweddariadau. Ond mae'r prif gwestiynau yn aros yr un fath â'r blynyddoedd blaenorol. Rhestrir isod y meysydd pwnc sydd yn yr arolwg:

Arddangosfeydd; Gweithgarwch cyfranogol plant a phobl ifanc; Gweithgarwch cyfranogol cyffredinol; Teithio gwaith; Darllediadau ac ar-lein; Ffilmiau; Gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol; Lleoliadau cyflwyno; Sgyrsiau a sesiynau holi ac ateb; Hyfforddiant, gweithdai neu ddigwyddiadau; Preswylfeydd tenantiaid ac artist; Perfformiad amgylcheddol; Cyflogaeth; Gweithwyr llawrydd; Gwirfoddolwyr; Cyrff llywodraethol

Gallwch weld y set lawn o gwestiynau yn nhempled yr arolwg sydd yn y dogfennau ar waelod y tudalen yma.

Rydym wedi diweddaru nodiadau arweiniol a thempled yr arolwg y gallwch eu defnyddio i lenwi’r arolwg wrth orffen pob prosiect. Mae hyn yn caniatáu i aelodau o Bortffolio Celfyddydol Cymru gofnodi data yn amlach yn hytrach nag aros tan ddiwedd pob chwe mis.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Yn sgil Deddf Cydraddoldeb 2010, mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau y trinnir yn deg unrhyw un sy'n gweithio i sefydliad celfyddydol sy'n derbyn ein harian neu sy’n defnyddio gwasanaeth gan y fath sefydliad. Mae'r nodweddion gwarchodedig yn cynnwys: anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ac oedran (dros 50 oed a phlant a phobl ifanc). Ystyrir a yw’r grwpiau yma yn mynychu'r celfyddydau ac yn gweithio yn sector y celfyddydau. Rydym hefyd yn casglu data am siaradwyr Cymraeg a theuluoedd Cymraeg.

Mae’r arolwg yn y categori o gyhoeddiadau sy’n dod dan ein gofynion Ystadegau Swyddogol.

Ymchwil a gwerthuso12.05.2023

Uchafbwyntiau Arolwg Portffolio Celfyddydol Cymru 2021-2022

Ymchwil a gwerthuso11.03.2022

Canllaw Cyffredinol i Arolwg Portffolio Celfyddydau Cymru

Adnoddau Artist06.10.2022

Templed casglu data Arolwg y Portffolio 2022-2023: Hanner cyntaf

Ymchwil a gwerthuso04.07.2019

Uchafbwyntiau Arolwg Portffolio Celfyddydol Cymru 2018-19