Cynhelir cyfres helaeth o sgyrsiau a thrafodaethau ar draws y ddinas ochr yn ochr ag arddangosfa gelf realiti digidol ymgollol, gwaith ymgysylltu cymunedol a pherfformiadau operatig o Dead Man Walking gan Jake Heggie, The Consul gan Menotti, The Prisoner gan Dallapiccola, Fidelio (Act II) gan Beethoven, a Brundibár gan Krása.

Mae’r tymor wedi’i guradu gan y Cyfarwyddwr Artistig David Pountney, a bydd yn arddangos holl elfennau’r cwmni, o Gorws a Cherddorfa WNO, i Gorws Cymunedol WNO ac Opera Ieuenctid wobrwyol WNO. Ymhellach, bydd cantorion ifanc, yn cynnwys cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr yr Opera Ieuenctid yn Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, yn perfformio rhannau yn nifer o’r cynhyrchion, gan ddangos ymrwymiad parhaus WNO i feithrin talent ifanc. Yn ystod y broses greadigol bydd artistiaid ifanc yn rhannu’r ystafell ymarfer a’r llwyfan gyda chydweithwyr a chanddynt statws rhyngwladol.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cydweithio gyda nifer o bartneriaid i gyflwyno’r digwyddiadau hyn, gan roi trafodaethau ynghylch diwylliant a chymdeithas y byd sydd ohoni ar frig yr agenda ym mhrifddinas Cymru. Mae’r partneriaid ar gyfer y tymor yn cynnwys Amnesty International UK, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Mae’r siaradwyr a fydd yn cymryd rhan yn cynnwys nifer o bobl amlwg iawn sy’n gweithio ar flaen y gad i wella hawliau dynol heddiw. Ymhlith y llu o faterion a grybwyllir ac a drafodir yn y rhaglen, bydd Bela Arora, Athro Llywodraethu Byd-eang ym Mhrifysgol De Cymru ac Is-gadeirydd Prosiect Americanaidd Prydain, yn canolbwyntio ar gaethwasiaeth fodern yn y DU ac ar draws y byd; bydd Hayle Davies, Swyddog Addysg ar gyfer Athrawon ac Ysgolion yn Amnesty International UK, yn Cadeirio Dewr, sef sgwrs a fydd yn rhoi llwyfan i amddiffynwyr ifanc hawliau dynol; a bydd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, yn Cadeirio sgwrs yn sôn am amddiffyn hawliau plant, Llais Plentyn, fel rhan o Wythnos Celfyddydau Ffoaduriaid Cymru. Hefyd, bydd Mona Siddiqui, Athro ym Mhrifysgol Caeredin a’r person cyntaf i gael cadair mewn Astudiaethau Islamaidd a Rhyng-grefyddol; Claire Fox, rhyddewyllyswr o Brydain a Chyfarwyddwr a Sylfaenydd y Sefydliad Syniadau; y bardd a’r dramodydd Eric Ngalle Charles, a ddioddefodd masnachu pobl ei hun; a Dr Veronique Barbelet, Uwch Gymrawd Ymchwil, Grŵp Polisi Dyngarol y Sefydliad Datblygu Tramor, yn cadeirio trafodaethau yn ystod y tymor Rhyddid.

Mae tocynnau ar gyfer y sgyrsiau a’r trafodaethau’n costio £5 yr un a gellir eu harchebu ymlaen llaw o wmc.org.uk

Arddangosfa Celfyddydau Digidol

Mae WNO hefyd wedi cyhoeddi mwy o fanylion am eu gosodwaith digidol Rhyddid 360 a gaiff ei greu ar y cyd â BBC Cymru Wales ac adran Ymchwil a Datblygu’r BBC. Bydd y gosodiad ymgollol hwn yn sôn am rai o straeon gwir a theithiau hynod y ffoaduriaid y mae eu hwynebau a’u straeon yn llenwi penawdau’r cyfryngau. Bydd hwn yn brofiad personol ac emosiynol, ac yn atgoffâd ingol bod 60 miliwn o bobl heddiw wedi’u dadleoli o amgylch y byd, fel y datgelir gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.

Bydd y gosodwaith hwn yn rhan o arddangosfa ddigidol o weithiau celf realiti ymgollol a arddangosir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod y tymor. Ymhellach, mae’r rhaglen o brofiadau ymgollol yn cynnwys Terminal 3, The Last Goodbye a Future Aleppo a arddangosir ochr yn ochr â’r gosodwaith celfyddyd weledol The Girls of Room 28, L 410 Theresienstadt. Hefyd, bydd ffilm fer sydd newydd ei chreu’n cael ei dangos, sef Fluorescence. Cafodd y ffilm ei hysgrifennu gan Kinana Issa, artist o Syria, ac mae’n archwilio themâu rhyddid a chaethiwed. Mae’n dilyn hanes merch arbennig – mae ei thaith fel mewnfudwr wedi dod i ben, ond mae ei dioddefaint yn parhau. Caiff y darn ei greu fel rhan o drioleg o ffilmiau gan Carys Lewis, Gwneuthurwr Ffilmiau Preswyl WNO.

Fel rhan o bartneriaeth pum mlynedd WNO â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, sy’n dechrau eleni, mae darn o theatr gerddorol ddatblygiadol wedi’i greu, o’r enw Beyond the Rainbow. Mae’r tîm creadigol yn cynnwys ffoaduriaid sy’n artistiaid, ac mae’n cynnig datblygiad proffesiynol i artistiaid sy’n ceisio lloches ar hyn o bryd, nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd eu statws. Bydd y gwaith yn chwalu’r mythau a’r camdybiaethau negyddol sy’n aml yn gysylltiedig â chymunedau ffoaduriaid a mudwyr. Ar ben hyn, mae WNO hefyd yn gweithio’n benodol gyda ffoaduriaid benywaidd mewn canolfannau yng Nghaerdydd a Birmingham i greu caneuon yn cynnwys negeseuon o loches a gobaith. Hefyd, fel rhan o’r bartneriaeth, mae WNO yn mynd i Ganolfan Oasis yn Sblot, Caerdydd i gynnal prosiect o’r enw Hope Has Wings sy’n annog ffoaduriaid benywaidd sy’n awduron i ysgrifennu caneuon a gaiff eu hysbrydoli gan negeseuon o loches a gobaith.

Meddai David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig WNO wrth sôn am y rhaglen Rhyddid: “Efallai fod cerddoriaeth a theatr weithiau’n ffyrdd o ddianc rhag byd yn llawn helbulon. Ond maen nhw hefyd, ar yr un pryd, yn lleoedd lle y caiff ein teimladrwydd a’n hemosiynau fel pobl eu deffro. Yn wir, teimladau o dosturi ac empathi, a gaiff eu cyffroi a’u hadnewyddu gan ysbrydoliaeth celfyddyd, yw sylfaen ein deallusrwydd gwleidyddol – rhywbeth yr ydym ei angen yn fwy yn awr nag erioed o’r blaen, yn ôl pob golwg.”

Associated British Ports yw noddwr y Tymor Rhyddid. Dyma gwmni a chanddo gysylltiad hir â WNO. Meddai Matthew Kennerley, Cyfarwyddwr ABP De Cymru:

Mae ABP yn falch o gael noddi Tymor Rhyddid WNO, a fydd yn cyflwyno amrywiaeth o weithiau operatig â hawliau dynol wrth eu craidd i gynulleidfaoedd yng Nghaerdydd, yn ogystal â darparu cyfleoedd i’r gymuned leol ymgysylltu’n uniongyrchol trwy gyfrwng rhaglen o sgyrsiau a thrafodaethau ac arddangosfa ddigidol ymgollol. Mae gan ABP gysylltiad hir â WNO, a hynny i raddau helaeth gan fod y gwaith a gyflwynir o’r radd flaenaf, ond hefyd oherwydd bod gennym werthoedd ac ymrwymiad cyffredin o safbwynt y cymunedau lleol yr ydym yn falch o gael bod yn rhan ohonynt. Mae’r tymor Rhyddid yn adlewyrchu’r effaith enfawr a gaiff gweithio mewn partneriaeth, ac mae wedi arwain at dymor uchelgeisiol o weithgareddau sy’n ymdrin mewn modd beiddgar â materion sy’n berthnasol i bob un ohonom heddiw.

wno.org.uk/freedom