Drama newydd gan Chris Harris yw Gwlad! Gwlad! sy'n dychmygu etifeddiaeth ein hanthem genedlaethol fel straeon episodig. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn cael ei berfformio Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd fis Awst eleni.

Rydym yn estyn ein galwad am berfformwyr sy’n siarad Cymraeg rhwng 18-25 oed i ddod i glyweliad i fod yn rhan o'r cynhyrchiad. Mae’n rhan o raglen ‘Lansiad’ Awen o gyfleoedd perfformio a chefnogaeth artistig i berfformwyr ifanc er mwyn datblygu tuag at yrfa broffesiynol, bydd ffi ar gael i gynnwys yr ymarferion a dau berfformiad ar 4 a 5 Awst 2024.

Am ragor o wybodaeth a phecyn clyweliad, cysylltwch â Pedro Lloyd Gardiner, Cynhyrchydd Creadigol ar 07543 311742 neu e-bostiwch pedro.gardiner@awen-wales.com

Dyddiad cau: 10 Mai 2024

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dyddiad cau: 10/05/2024