Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn falch iawn o fod wedi derbyn gwahoddiad i berfformio dau o'i gynyrchiadau yn y 'Maas International Theatre Festival' yn Lahore, Pacistan, wythnos 7 – 12 o Fai 2024. Y ddau gynhyrchiad yw ‘Pavement / Pasture’ (‘Palmant / Pridd’) a ‘Where The Leaves Blow’ (‘Ble Mae’r Dail yn Hedfan’.

Mae Cyfarwyddwr yr ŵyl, Aamir Nawaz, a Chyfarwyddwr Artistig Arad Goch, Jeremy Turner, wedi bod yn trafod gwahanol ffyrdd o rannu diwylliannau'r ddwy wlad ers iddynt gwrdd sawl blwyddyn yn ôl mewn gŵyl arall yn Ewrop. Ymwelodd Aamir Nawaz â Chymru yn 2019 i fynychu gŵyl ryngwladol Cwmni Theatr Arad Goch, sef ‘Agor Drysau - Opening Doors’, yn Aberystwyth. Fodd bynnag, fe ddaeth Covid-19 a threchu’r cynlluniau, tan hyn. Rydyn ni’n falch iawn bod y cysylltiad wedi parhau a bod y gwahoddiad yn mynd i gael ei wireddu o’r diwedd.

Mae Cwmni Theatr Arad Goch hefyd wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn grant ar gyfer teithio i Bacistan gan gronfa Celfyddydau Rhyngwladol Cymru – ac mae’r cwmni yn ddiolchgar iawn fod WAI wedi gallu sicrhau fod y daith yn gallu digwydd.

Gŵyl theatr i blant ac oedolion yw Gŵyl Theatr Ryngwladol Maas, gyda'r thema "Let's Move Together". Mae’r Maas Foundation yn gwmni theatr flaenllaw sydd wedi bodoli yn Lahore ers 2003. Mae Gŵyl Maas yn rhannu sawl egwyddor gyda Gŵyl Agor Drysau. Mae’n canolbwyntio ar gyfnewid rhyngddiwylliannol rhwng Pacistan a gweddill y byd - o ran rhannu cynyrchiadau, arferion a dulliau gan ymarferwyr theatr. Gwneir hyn drwy berfformiadau, seminarau, gweithdai, trafodaethau panel a chyfleoedd eraill ar gyfer myfyrio, trafod, dysgu a rhannu profiadau.

Nid yw Arad Goch erioed wedi perfformio ym Mhacistan na gweddill îs-gyfandir India o’r blaen. Mynychir Gŵyl Maas gan lawer o gynrychiolwyr gwledydd eraill, felly bydd hon yn ffordd o estyn ein marchnad ryngwladol, ac o dynnu sylw at gyfoeth y celfyddydau yng Nghymru.

Y ddau gynhyrchiad sy’n teithio i’r ŵyl yw:

‘Palmant/Pridd’ - un o allbynnau ein prosiect 6x1, sy’n galluogi a chynorthwyo perfformwyr llawrydd i greu gwaith unigol newydd. Osian Meilir yw’r perfformiwr a greodd y gwaith hwn yn wreiddiol yn 2018. Mae’n berfformiad dawns sydd yn trafod y tyndra personol a brofa dyn ifanc hoyw rhwng ei gynefin yng nghefn gwlad Cymru a’i fywyd yn y ddinas. Ar lefel ehangach, mae’n trafod hunaniaeth person ifanc, a’r pwysau i gydymffurfio â disgwyliadau. Does dim iaith yn y perfformiad.

‘Where The Leaves Blow’ - un o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus Arad Goch i blant bach. Fe’i crëwyd fel rhan o brosiect ymchwil ymarferol i ddatblygu prosesau creadigol amgen. Mae’n digwydd mewn gofodau allanol a mewnol, gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a gesglir drwy ymweld â ffermydd a seiri coed yn ardaloedd penodol y perfformiadau, gan greu dolen â’r gymuned leol yn ogystal â dolen broffesiynol. Mae’r cynhyrchiad wedi cael dros 300 perfformiad yng Nghymru, ac wedi cael ei chyfieithu i sawl iaith a’i berfformio mewn sawl gwlad dramor.

Bydd y cynyrchiadau yn codi ymwybyddiaeth Pacistan am Gymru, ac am fodolaeth yr iaith Gymraeg o fewn ein diwylliant. Bydd aelodau'r cwmni yn mynychu'r seminarau a digwyddiadau eraill gan gael cyfle i drafod celfyddydau Cymru a'i rôl o fewn sefyllfa diwylliant amlieithog - sefyllfa nad yw'n estron i bobl Pacistan.

Am ragor o fanylion – cysylltwch a post@aradgoch.org