Ydych chi'n ymarferwr creadigol sy'n angerddol am brosiectau dysgu creadigol ar thema coginio? Os felly, byddai Ffederasiwn Carwe, Gwynfryn a Ponthenri wrth eu bodd yn clywed gennych. Ym mis Medi, bydd dysgwyr CC2 o’r tair ysgol yn y ffederasiwn yn cychwyn ar daith dysgu greadigol wedi’i hysbrydoli gan gynnyrch o erddi’r ysgol, ac maent yn chwilio am ddau ymarferwr Cymraeg eu hiaith i fynd â’u syniadau i’r lefel nesaf.

Nod y prosiect yw datblygu llafaredd a chefnogi datblygiad sgiliau cydweithredol a thechnegau creadigol, ac mae’r dysgwyr yn fwrlwm o syniadau cychwynnol: o greu pryd wedi’i ysbrydoli gan gynnyrch yn y gerddi i weithio gyda chegin gymunedol i weini’r pryd i bobl leol. Gallai’r prosiect gynnwys elfen cyfryngau neu farchnata digidol: megis creu sioe goginio, gweithio gyda chwmni teledu i arddangos y rysáit o fewn slot coginio, neu gydweithio ag elusen i greu ymgyrch cynaliadwyedd bwyd. Fel ym mhob prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol, bydd ‘cwestiwn ymholi’ seiliedig ar sgiliau yn arwain y prosiect. Y cwestiwn yw:

Sut fydd prosiect celfyddydau aml-ddisgyblaethol sydd wedi ei ysbydoli gan gynnyrch o ardd yr ysgol, yn meithrin sgiliau llafaredd a hyder ymhlith dysgwyr CC2, tra hefyd yn meithrin gallu'r dysgwyr i gydweithio'n greadigol a datblygu technegau?   

Ffi: £300 y dydd 

Dyddiau cau: 20.5.24 

AM FWY O WYBODAETH AM SUT I WNEUD CAIS GWELER Y DDOLEN ISOD, NEU CYSYLLTWCH A'R ASIANT CREADIGOL SIAN HUGHES DRWY EBOSTIO sianeh@gmail.com  

 

 

Dyddiad cau: 20/05/2024