Mae tocynnau ar werth ar gyfer cyngherddau Gŵyl Gerdd Abergwaun eleni. Bydd pymtheg o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal dros dair wythnos mewn lleoliadau amrywiol ar draws Sir Benfro rhwng 18 Awst a 3 Medi. Cynhelir cyngerdd lansio gan Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nghadeirlan Tyddewi ddydd Gwener 4ydd Awst o dan arweiniad Carlo Rizzi.

Ymhlith yr artistiaid sy’n perfformio yn yr ŵyl eleni mae’r pianydd Iwan Llywelyn Jones a Kosmos, triawd sy’n cymysgu cerddoriaeth glasurol a byd-eang yn eu rhaglen. Rhoddir perfformiadau cerddoriaeth siambr gan Enigma Duo, Dudok String Quartet Amsterdam a cherddorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Croesawir yn ol Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, a bydd y Gonzaga Band Consort yn perfformio cerddoriaeth gan Monteverdi a'i gyfoeswyr. Bydd y grŵp gwerin Pedair yn dychwelyd ar ôl eu cyngerdd yn Theatr Gwaun y llynedd pan werthwyd y tocynnau i gyd.  Triawd Amanda Whiting sydd yn cloi’r Ŵyl ar ddydd Sadwrn 3ydd Medi 10fed gyda chyfuniad o delyn jazz, bas dwbl a drymiau.

Gellir archebu tocynnau trwy wefan yr Ŵyl yn www.fishguardmusicfestival.com

Dywedodd Gillian Green MBE, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Abergwaun:

“Mae Gŵyl Abergwaun wedi bod yn blatfform i gerddoriaeth o safon fyd-eang yng Ngorllewin Cymru ers dros hanner can mlynedd a bydd eleni yn cynnig arlwy wych eto.  Bydd yna rai wynebau cyfarwydd i Sir Benfro yn dychwelyd i berfformio a byddwn yn cynnal cyngherddau a digwyddiadau cyffrous yn cynnwys pobl ifanc ac aelodau o'r gymuned yn croesawu unawdwyr rhyngwladol blaenllaw. Mae disgwyl i docynnau werthu’n gyflym.”