Yn dilyn hanner-canmlwyddiant llwyddiannus – o ran adolygiadau ac yn y swyddfa docynnau – mae Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yn dechrau 2024 mewn steil, gydag enwebiad am wobr mawr a sawl clod beirniadol am ei gwaith yn y gorffennol, ei harweinyddiaeth a’i rhaglen sydd i ddod.

Mae’r Sherman ar restr fer Gwobr Theatr y Flwyddyn yng Ngwobrau The Stage 2024, ynghyd â Theatr Almeida, Llundain; Birmingham Rep; Theatr Lyric Hammersmith, Llundain; National Theatre, Llundain a Theatr Watermill, Newbury. Wrth gyhoeddi’r rhestr fer, disgrifiodd The Stage y Sherman fel “a theatre making work that is both firmly rooted in its local community but of a genuinely world-class standard”. Bydd enillydd hwn, un o wobrau mwyaf mawreddog sîn theatr y DU, yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni wobrwyo ddydd Llun 29 Ionawr yn Theatre Royal Drury Lane, Llundain.

Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd o arweinyddiaeth y cwmni; mae The Stage wedi enwi Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman Joe Murphy a’r Prif Weithredwr Julia Barry yn eu rhestr Stage 100 2024. Cyhoeddir y rhestr o’r bobl fwyaf dylanwadol yn y sector celfyddydau perfformio creadigol yn flynyddol, ac eleni roedd yn cynnwys uwch staff yn Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd. Enwodd hefyd Rosie Sheehy, a serennodd yng nghynhyrchiad Theatr y Sherman a'r National Theatre, Romeo and Julie y llynedd, fel Seren Newydd.

Mae Romeo a Julie hefyd wedi’i chynnwys yn The Stage’s Top 50 Shows of 2023, yn ogystal â Housemates, cyd-gynhyrchiad clodwiw’r Sherman gyda Hijinx.

Wrth edrych ymlaen at raglen 2024 y cwmni, mae un cynhyrchiad yn arbennig yn gwneud argraff yn barod. Mae The Guardian wedi enwi The Women of Llanrhymni gan Azuka Oforka (16 Mai-1 Mehefin 2024) yn un o’r The best theatre, dance and comedy tickets to book in 2024 ac mae WhatsOnStage wedi’i gynnwys yn ei Top Plays to See in 2024.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy: “Rydym yn falch iawn o ddechrau eleni gyda chymaint o gydnabyddiaeth proffil uchel o’n cyflawniadau diweddar a’n huchelgeisiau sydd i ddod. Gan weithio gyda rhai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru, mae rhaglen eleni yn cyflwyno gweledigaeth o dde Cymru a fydd yn atseinio ymhell.”

Dywedodd y Prif Weithredwr Julia Barry: “Mae’r holl ardystiadau hyn yn glod i’n tîm; y staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned lawrydd sy’n dod â thalent, ymrwymiad ac egni anhygoel i’r theatr hon yn ddyddiol. Dyna ddechrau gwych i 2024."

Mae gwybodaeth am bob un o’r saith cynhyrchiad yn nhymor 2024 Theatr y Sherman, gan gynnwys pum drama newydd sbon, ar gael ar ei gwefan: www.shermantheatre.co.uk/?lang=cy.