SGYRSIAU YN Y CAPEL – Y FENNI - Y FARWNES DOREEN LAWRENCE – DYDD IAU 20 GORFFENNAF – 7.30 - £12.00

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, cafodd ei mab Stephen ei lofruddio mewn ymosodiad hiliol.  

Ers hynny, mae'r Farwnes Lawrence wedi parhau i weithio i bawb sy'n wynebu anghyfiawnder hiliol a llygredd yr heddlu.  Am ddwy flynedd ar hugain bu'n gyfarwyddwr ac yn llywydd Sefydliad Elusennol Stephen Lawrence.  Ac ym mis Medi 2013 daeth yn arglwydd oes yn eistedd ar y meinciau Llafur yn Nhŷ'r Arglwyddi.          

Mae'n ysgrifennu: "Rwy'n parhau i ddarparu 'gwaddol gobaith' i bobl ifanc, yn enwedig bechgyn o liw a chymunedau difreintiedig gyda chyfleoedd addysgol, cydlyniant cymunedol, a datblygiad gyrfa.  "

Dewch i'r Capel i glywed y Farwnes Lawrence yn siarad am ei bywyd a'i gwaith.

Mae'r holl elw o'r noson hon yn mynd i Sefydliad Dydd Stephen Lawrence.

AM DOCYNNAU  - events@artshopandchapel.co.uk - 01873 852690/736430.