Ymunwch â’r sesiwn hon i gael eich tywys drwy broses syml ar gyfer creu cynllun datblygu cynulleidfaoedd y gallwch ei roi ar waith ar unwaith i’ch helpu i gadw cynulleidfaoedd a chyrraedd rhai newydd.

Mae’r broses o greu cynllun da ar gyfer datblygu cynulleidfaoedd yn rhan annatod o ddenu a chadw cynulleidfaoedd yn llwyddiannus. Bydd y sesiwn hon yn eich arwain gam wrth gam drwy gynllun datblygu cynulleidfaoedd gan ddefnyddio fframwaith hawdd y gellir ei addasu ar gyfer eich sefydliad.

Bydd y sesiwn yn eich helpu i ddefnyddio gwybodaeth am eich cynulleidfaoedd, eich cymunedau a’r amgylchedd ehangach er mwyn canfod cyfleoedd a blaenoriaethau, yn ogystal â sicrhau bod cynulleidfaoedd a’u hanghenion yn ganolog yn y broses gynllunio. Bydd yn ymdrin â gosod nodau ac amcanion ar gyfer datblygu cynulleidfa, datblygu strategaethau a chynlluniau gweithredu a mesur llwyddiant. Bydd y sesiwn hefyd yn eich helpu i ddiogelu eich cynllun at y dyfodol a bydd yn cynnwys awgrymiadau ynghylch sut i sicrhau bod eich sefydliad cyfan yn rhan o’r cynllun datblygu cynulleidfaoedd. Byddwn hefyd yn eich cyfeirio at amrywiaeth o adnoddau i gefnogi’r broses gynllunio.

Dyddiad: Dydd Iau 14 Rhagfyr 1:30 PM – 3:00 PM

Archebwch eich lle: https://www.tickettailor.com/events/theaudienceagency/985583

Pwy:

Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am lunio cynlluniau datblygu cynulleidfaoedd, neu'n ymwneud â hynny, yn ei sefydliad. Yn benodol, gall fod yn ddefnyddiol i’r rheini a fyddai’n hoffi cael fframwaith i fynd i’r afael â’r broses gynllunio, neu gael eu hatgoffa o’r camau y dylid eu hystyried wrth greu cynllun.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Sut i ddefnyddio fframwaith i gynllunio cynllun datblygu cynulleidfa.
  • Sut i ddefnyddio gwybodaeth i lywio’r gwaith cynllunio a sicrhau bod anghenion cynulleidfaoedd yn ganolog yn y broses.
  • Sut i osod nodau ac amcanion ar gyfer datblygu cynulleidfaoedd, datblygu strategaethau a chynlluniau gweithredu.
  • Sut i fesur llwyddiant.
  • Sut mae cynnwys eich tîm cyfan yn y gwaith o greu cynllun datblygu cynulleidfa.
  • Adnoddau i gefnogi’r broses gynllunio.

Hwylusydd:

Jacqui Fortnum, Uwch Ymgynghorydd

Fformat:

Mae’r sesiwn hon yn weminar 90 munud ar ffurf gweithdy, gyda'r cyfle i ofyn cwestiynau.

Cost: Am ddim