TEA Break: Ymddygiad gwael? - Pa fath o ymddygiad sydd orau gan bobl mewn digwyddiadau diwylliannol?

Yn ddiweddar, mae llawer o drafodaethau wedi bod yn y sector am ymddygiad cynulleidfaoedd: gan gynnwys pryd mae’n iawn canu, bwyta neu siarad. Ond mae pobl eisiau pethau gwahanol. Rydyn ni wedi holi sampl gynrychioladol o’r boblogaeth beth sydd orau ganddyn nhw wrth wylio celfyddydau perfformio neu ymweld ag amgueddfeydd, orielau neu atyniadau i ymwelwyr. Pa bethau fydden nhw’n hoffi i bobl allu eu gwneud? Pa bethau maen nhw’n eu gwrthwynebu?

Nod y sesiwn hon yw rhoi ffeithiau am yr hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei ffafrio wrth drafod y pwnc dadleuol hwn...

Dyddiad: Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2023, 2:15pm-3:00pm

Archebu lle: Archebwch eich lle am ddim – Sesiwn TEA: Ymddygiad gwael? - Pa fath o ymddygiad sydd orau gan bobl mewn digwyddiadau diwylliannol? – Zoom, dydd Mercher 19 Gorffennaf 2023 2:15 PM - 3:00 PM (tickettailor.com)

Gwybodaeth am Sesiynau TEA:

Mae’r Sesiynau TEA (Trafod Tystiolaeth a Chynulleidfaoedd) yn rhoi cyflwyniad rheolaidd i ymchwil, prosiectau a gwybodaeth ddiweddaraf am y sector gan The Audience Agency - dewch i fwynhau paned a sgwrs. Drwy’r sesiynau briffio misol byr hyn, mae ein tîm yn rhannu gwybodaeth gyfredol am y sector diwylliannol.

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar bwnc allweddol, wedi’i bennu gan y dadansoddiad diddorol a’r ymchwil sy’n digwydd ar y pryd o bob rhan o’n tîm. Mae hon yn ffordd hawdd o gadw llygad ar ganfyddiadau data diweddaraf y gynulleidfa a thrafod eich syniadau gyda phobl o’r un anian o bob rhan o’r sector.

Fformat:

Sesiynau briffio 45 munud ar-lein yw Sesiynau TEA.

Mae’r 30 munud cyntaf ym mhob sesiwn yn cynnwys sawl crynodeb byr o’r canfyddiadau, y prosiectau a’r dystiolaeth ddiweddaraf sy’n seiliedig ar ddata y mae The Audience Agency wedi bod yn gweithio arno. Byddwn wedyn yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a thrafod gyda phobl eraill, yn ogystal â’n tîm ni.

Pwy all ymuno?

Mae'r sesiwn hon ar agor i bawb.

Gall fod o ddiddordeb arbennig i uwch arweinwyr a’r rheini sydd angen trosolwg o dueddiadau’r sector – gan gynnwys uwch farchnadwyr, rhaglenwyr, pobl sy’n codi arian – ynghyd ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn data cynulleidfa cyfredol.

Cost:

Mae holl sesiynau TEA yn rhad ac am ddim. Maen nhw’n gyfle i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth rydyn ni’n ei chael o’n hymchwil ar gael yn rhwydd ac yn amserol i bawb sy’n gweithio yn y sector celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a thu hwnt.