Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yw’r ymgyrch flynyddol i chwilio am hoff bobl a sefydliadau’r DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac maent yn dathlu’r unigolion a’r grwpiau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel o fewn eu cymuned, yn enwedig yn ystod yr amseroedd heriol hyn.

Yn 2020, gwnaed bron i 5000 o enwebiadau ac unwaith eto, mae’r Loteri Genedlaethol yn edrych i glywed am y sawl sy’n mynd y filltir ychwanegol, gan wneud pethau anhygoel, ac ysbrydoli eraill. Mae unrhyw un sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol yn gymwys am enwebiad.

Bydd enillwyr ym mhob categori yn erbyn gwobr ariannol o £3,000 ar gyfer eu sefydliad a thlws mawreddog Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.

Yn chwifio’r faner i Gymru y llynedd oedd Wasem Said, dyn drws ac ymladdwr celfyddydau ymladd cymysg 29 mlwydd oed o Dre-biwt, Caerdydd, a enwyd fel enillydd Prydain gyfan o fewn y Categori Chwaraeon yn y Gwobrau am ei waith ysbrydoledig yn helpu pobl ifanc a’i gymuned yn ystod y pandemig. Cafodd Clwb Bocsio Amaturaidd Bae Teigr yn Nhre-biwt ei agor gan Wasem gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol ddwy flynedd yn ôl. Yn ystod y pandemig, roedd wedi arwain tîm o wirfoddolwyr ifanc oedd wedi bod yn dosbarthu hyd at 120 o flychau bwyd yr wythnos i deuluoedd sy’n agored i niwed ac yn gwarchod eu hunain.

Yn 2018, roedd Shirley Ballas wedi rhoi sypreis i enillwyr y categori Prosiect Iechyd gyda’u Gwobr Loteri Genedlaethol. Mae BECCA, yr ap cefnogi Gofal Canser y Fron, yn helpu pobl i symud ymlaen wedi canser y fron, a chyflwynodd Shirley y tlws i grŵp o ferched yn Glasgow, sy’n defnyddio’r ap. Roedd y prosiect yn agos at galon Shirley wedi iddi fynd trwy gyfnod pryderus ac ofnus o ran canser ei hunan tua’r un amser.

Dywedodd Shirley: “Yn 2018, roeddwn yn ddigon ffodus i gael ymweld â phrosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a gweld o lygad y ffynon lle mae’r arian yn mynd a pha mor werthfawr ydyw i’r rheini o fewn y gymuned. Mae’r diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod £30 miliwn yn cael ei godi ar gyfer achosion da pob wythnos. 

“Mae’r 14 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i ni oll. Ond fel y byddwn yn gobeithio am ddyddiau gwell o’n blaenau, rydym yn cael ein rhyfeddu’n gyson gan y ffordd mae pobl a phrosiectau wedi ymateb i adfyd a thrallod, gyda gweithredoedd syml ond eto arwrol o gariad, caredigrwydd a diffyg hunanoldeb fydd yn cael eu cofio am hir.

“Rwyf wedi bod ffodus i fod yn dyst i waith diwyd yr arwyr lleol hyn a pha mor haeddiannol ydynt o’r gwobrau a’r acolâdau hyn. Dylid eu dathlu a dim ond os byddwch chi’n cyflwyno eu henwau y bydd hyn yn digwydd – felly ewch ati i enwebu!”

Gan gwmpasu holl agweddau arian achosion da’r Loteri Genedlaethol, mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2021 yn ceisio cydnabod unigolion neilltuol o fewn y sectorau canlynol:


• Diwylliant, Y Celfyddydau a Ffilm
• Treftadaeth
• Chwaraeon
• Cymunedol/Elusennol


Fe fydd Gwobr Arwr/Arwres Ifanc arbennig i rywun sydd dan 18 mlwydd oed ac wedi mynd y filltir ychwanegol honno o fewn eu sefydliad. Rhaid i’r holl enwebai weithio neu weithredu ar ran sefydliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol neu fod wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol.

Bydd enillwyr y categorïau hynny yn cael eu dewis gan banel beirniadu sy’n cynnwys aelodau o deulu a phartneriaid y Loteri Genedlaethol.

Yn ychwanegol at hyn, mae prosiectau o unrhyw sector sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol yn gymwys i ymgeisio o fewn categori Prosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn. Bydd un ar bymtheg o gystadleuwyr terfynol sydd ar y rhestr fer yn cystadlu am y bleidlais gyhoeddus led led y DU i hawlio’r teitl hwn ym mis Medi. 

I wneud enwebiad am Wobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, trydarwch @LottoGoodCauses gyda’ch awgrymiadau neu lenwi ffurflen ymgeisio trwy ein gwefan www.lotterygoodcauses.org.uk/cy/awards . Rhaid derbyn enwebiadau erbyn canol nos ar 7 Mehefin 2021.