Mae mynediad at gefnogaeth hanfodol oddi wrth ddosbarthwyr y Loteri Genedlaethol yn cael ei gynnig i elusennau a sefydliadau Cymreig sy’n cefnogi cymunedau yn wynebu anawsterau dyrys yn sgil pwysau costau byw – fel y mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos fod pobl ar draws y wlad yn rhagweld trafferthion cynyddol i wasanaethau lleol oherwydd effaith y pwysau economaidd presennol. 
 
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o brosiectau led led y DU yn cael eu cefnogi er mwyn parhau i gynnal cyfleusterau a gwasanaethau lleol hanfodol y gaeaf hwn, gyda’r arian yn helpu rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed a effeithir gan y pwysau costau byw yn ein cymunedau. 
 
Gwobrwywyd dros £1 biliwn o bunnoedd i ddosbarthwyr arian y Loteri Genedlaethol (sy’n cwmpasu chwaraeon, y celfydddydau, treftadaeth a chymunedau) er mwyn cefnogi cymunedau led led y DU yn ystod y pandemig Coronafeirws, er mwyn eu helpu i ymdopi ac adfer. Nawr mae’r £30 miliwn a godir pob wythnos gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da yn cael ei osod ar y rheng flaen i gefnogi cymunedau sydd ei angen fwyaf yn ystod y pwysau costau byw. 
 
Dengys ffigyrau newydd a ryddhawyd yr wythnos hon trwy’r Mynegai Ymchwil Cymunedol ** sef ymchwil cwsmer diweddaraf Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod dros hanner o bobl yng Nghymru (54%) yn credu mai cefnogi pobl gyda’r cynnydd mewn costau byw yw’r pwysicaf ar gyfer lles eu cymuned, gyda hanner yng Nghymru (50%) yn bwriadu gwirfoddoli yn 2023 a phobl ifanc (18 hyd 24) yn arwain y ffordd (74%).  
 
Mae sefydliadau led led Cymru sy’n wynebu cynnydd mewn galw, heriau, a chaledi o ganlyniad uniongyrchol i’r argyfwng yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd amrywiol, wrth i ariannwyr y Loteri Genedlaethol ymateb gyda blaenoriaethau newydd i helpu cymunedau gyda dull sy’n canolbwyntio ar hyblygrwydd a chefnogaeth. 
 
Mae rhaglenni ariannu presennol wedi cael eu haddasu neu eu teilwra gan ariannwyr y Loteri Genedlaethol i flaenoriaethau cefnogaeth costau byw. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei hunan yn sicrhau fod £75 miliwn ar gael ar draws y DU gyfan, i helpu’r sawl sydd yn yr angen mwyaf – gan ddarparu mwy o sicrwydd ar yr adeg hanfodol hon. Bydd yr holl nawdd yn cael ei gadw’n agored ac ar gael, gan fod yn barod i addasu, fel rhan o’i ymrwymiad Rydym Ni Yma i Chi.  
 
Boed os yw’n arian i wella effeithiolrwydd thermol safleoedd treftadaeth, darparu llifoleuadau ynni effeithiol ar gyfer clybiau chwaraeon cymunedol sy’n wynebu’r baich o gynnydd mewn costau, darparu miloedd o brydau poeth a pharseli bwyd am ddim, mannau cynnes i’r gymuned ddod ynghyd yn ystod misoedd y gaeaf, neu gefnogaeth gyda mentrau iechyd meddwl a rheoli arian – mae’r Loteri Genedlaethol yn gwneud bywyd ychydig bach yn haws trwy gynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth ar draws y sectorau chwaraeon, y celfyddydau,. cymunedau ac elusennau, treftadaeth, addysg a’r amgylchedd yn ystod yr amseroedd heriol hyn. 
 
Un prosiect o’r fath sy’n derbyn cefnogaeth fawr ei hangen yw Foothold Cymru a leolir yn Llanelli, sef elusen cyfiawnder cymdeithasol sy’n gweithio i greu cymunedau cryfion lle y gall unigolion ffynnu ac nid goroesi’n unig. Mae Foothold wedi bod yn gweithio gyda theuluoedd i ddod o hyd i ffyrdd o gael dau ben llinyn ynghyd ers peth amser, a bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi adroddiad yn ddiweddarach yr wythnos hon yn manylu ar rai o’r gweithgareddau sydd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i’r teuluoedd. 
 
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn parhau i alluogi teuluoedd sy’n cael anawsterau i dalu eu biliau i gael mynediad at fwyd cost isel, ynghyd â sicrhau fod pobl yn cael mynediad at gyfleusterau ymarferol megis ceginau, golchdai ac offer, dillad a gwisgoedd ysgol cynnes, cyngor ar yrfaoedd a phrofiad a hyfforddiant wedi’i ardystio mewn amrywiaeth o bynciau ffordd o fyw megis garddio a choginio.  
 
Yn Sir Gaerfyrddin, lle mae Foothold yn gweithredu, mae bron 38 y cant o gartrefi mewn tlodi, gyda phlant yn cyfrif am 31 y cant o’r rheini mewn tlodi a thlodi mewn gwaith yn tyfu’n gynt na’r hyn y gall yr elusen ymdopi ag ef. 
 
Dywedodd un defnyddiwr gwasanaeth anhysbys: “Maen nhw’n dda i mi, ac yn fendith go iawn. 
 
“Ni allwn ymdopi hebddynt. Rwyf yn aml yn aros [wedi siopa] a chael sgwrs a phaned o de. Rwy’n hoffi’r cwmni a gweld pawb.”

Yn Wrecsam, Gogledd Cymru, derbyniodd grŵp We Are Plas Madoc £43,725 o arian y Loteri Genedlaethol i ddatblygu eu cynllun trafnidiaeth gymunedol cerbydau trydan ymhellach. Maent yn darparu opsiwn trafnidiaeth fforddiadwy ac ecogyfeillgar i drigolion yn ardal Plas Madoc a'r cyffiniau - cymuned anghysbell - fel y gallant gael mynediad at wasanaethau hanfodol, bwyd a gweithgareddau hamdden. O ganlyniad i’r cyllid, byddant hefyd yn ehangu eu darpariaeth yn eu hadeiladau i ddatblygu eu clwb brecwast a chinio Clwb Tegell ymhellach i gefnogi eu cymuned yn ystod y pwysau costau byw trwy ddarparu gofod cynnes a diogel, a mynediad i ystod o wasanaethau lleol.
 
A phrosiect arall a fydd yn elwa yw Ti a Fi Llanbister a leolir ym Mhowys, a fydd yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i brynu teganau, deunyddiau crefft, a chyfarpar newydd ar gyfer eu grŵp chwarae gan greu llyfrgell deganau i deuluoedd sydd wedi’u hynysu’n wledig neu wedi’u heffeithio gan y pwysau costau byw. 
 
Dywedodd Lilly Thomas, Cadeirydd Ti a Fi Llanbister: “Rydym yn eithriadol o ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y grant hwn tuag at ein grŵp chwarae yn Llanbister. 
 
“Fe fydd yn cefnogi datblygiad ein plant trwy amrywiaeth eang o deganau ynghyd â theuluoedd yn yr ardaloedd cyfagos a fydd yn cael mynediad atynt, na fyddent o bosibl yn ei gael fel arall.  
 
“Fe fydd yn cynorthwyo rhieni trwy wasanaethau cefnogi y byddwn yn eu cyflwyno i mewn i’r grŵp.
 
Gan amlygu pwysigrwydd y gefnogaeth oddi wrth y Loteri Genedlaethol, dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yma i gefnogi cymunedau trwy amseroedd da a gwael. Mae’r arian maen nhw’n ei godi yn darparu nawdd mawr ei angen i sefydliadau anhygoel sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae hyn nawr yn cynnwys helpu pobl mewn amrywiaeth o ffyrdd wrth iddynt ddelio ag effaith y cynnydd mewn costau byw.  
 
“Yn yr amseroedd heriol hyn, mae mwy o arwyddocâd eto i arian y Loteri Genedlaethol a’n neges i gymunedau, grwpiau a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino led led y DU yw ein bod ni yma i chi, ac y byddwn yn parhau i wrando a bod yn hyblyg ac yn ymatebol i’r heriau a'r pwysau rydych chi yn eu hwynebu.”  

 
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw’r ariannwr mwyaf ar gyfer gweithgaredd cymunedol yn y DU ac mae’n cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu. 
 
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi mwy na £30 miliwn yr wythnos ar gyfer prosiectau celfyddydol, addysg, yr amgylchedd, iechyd, treftadaeth, chwaraeon, a gwirfoddoli ar draws y DU; edrychwch i weld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud yn agos atoch chi  www.lotterygoodcauses.org.uk 
 
** NODER: Cynhaliwyd yr ymchwil ar ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gan  Savanta ComRes rhwng 2 a 28 Tachwedd 2022, ymysg 8,968 o oedolion yn y DU, gan gynnwys 1,285 yng Nghymru, wedi’u pwysoli i gynrychioli oedolion y DU yn ôl rhyw, oedran, rhanbarth, graddfa gymdeithasol ac ethnigrwydd. Cafodd 8,059 o oedolion yn y DU eu harolygu’n flaenorol rhwng 7 a 22 Medi 2021 a chafodd 7,009 o oedolion yn y DU eu cyfweld rhwng 17 Tachwedd a 8 Rhagfyr 2020.