Heddiw, mae ein rhaglen ag arian y Loteri Genedlaethol ym maes y Celfyddydau, Iechyd a Lles wedi ailagor ar gyfer ceisiadau. Mae’n cefnogi prosiectau creadigol o safon i ddarparu manteision iechyd a lles i bobl Cymru. Mae’n agored i geisiadau partneriaeth oddi wrth bawb ym meysydd y celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector. Hoffem ariannu prosiectau creadigol sy'n diwallu’r blaenoriaethau canlynol:

  • iechyd meddwl (gan gynnwys unigrwydd, ynysu cymdeithasol, rhagnodi cymdeithasol i feithrin gwytnwch ac ym maes iechyd meddwl)
  • anghydraddoldeb iechyd – prosiectau i ddod â manteision iechyd a lles drwy'r celfyddydau i bobl o gefndiroedd amrywiol
  • iechyd a lles corfforol – prosiectau i hyrwyddo gwell iechyd corfforol a chadw pobl yn gorfforol weithgar drwy'r celfyddydau yn ystod/ar ôl y pandemig
  • lles y staff ym maes gofal iechyd a/neu’r celfyddydau

Gweler y canllawiau llawn am ragor o wybodaeth.

5pm ar 7 Mehefin 2023 yw’r dyddiad cau.

Llun: 

Wedi ei gymryd o brosiect ' Ffoaduriaid Wcrain' yn y Barri, wedi'i hwyluso gan Breathe Creative. Gwaith celf gan gyfranogwyr.

Wedi’i ariannu gan gronfa Celfyddydau, Iechyd a Llesiant 2022.