Ar hyn o bryd, Dafydd yw Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Dechreuodd ei yrfa gyda HTV Cymru yn yr 1980au yn gweithio ar allbwn plant ac adloniant ysgafn a rhwng 1991 a1998 roedd yn Olygydd Comisiynu ac yna'n Gyfarwyddwr Darlledu S4C. Yn 2000, sefydlodd Dafydd ei gwmni cynhyrchu annibynnol ei hun, Pop 1, fel rhan o grŵp Tinopolis. Bu'n Gyfarwyddwr Cynnwys ar S4C am bum mlynedd o fis Mawrth 2012. Mae hefyd yn Gadeirydd AM Cymru - gwefan, gwasanaeth ffrydio apiau a cherddoriaeth a sefydlwyd gan PYST, ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru - ac mae wedi bod yn Ymddiriedolwr i Gyngor Celfyddydau Cymru ers 2017.

Dwi mor falch mai Dafydd Rhys fydd ein Prif Weithredwr newydd. Er gwaetha nifer helaeth o ymgeiswyr cryf, gwnaeth Dafydd argraff ar y panel penodi o ganlyniad i eglurder ei weledigaeth ar gyfer gwneud y celfyddydau'n ganolog yn y gymdeithas yng Nghymru. Felly hefyd ei ymrwymiad i rymuso ein staff talentog i wireddu'r weledigaeth honno law-yn-llaw â'n sector celfyddydau fywiog.

Yn siaradwr Cymraeg o fyd diwydiannol Sir Gaerfyrddin, mae Dafydd yn angerddol ynghylch cyrraedd cymunedau amrywiol Cymru lle mae anfantais economaidd yn aml wedi cyfyngu ar allu pobl i gael mynediad at rym trawsnewidiol y celfyddydau. Mae'n benderfynol o ehangu cyfranogiad ac ymgysylltu â'r celfyddydau ar sail parch at greadigrwydd lleol.

Dyma'r union beth y mae ef a'i gydweithwyr wedi bod yn ei gyflawni yng Nghanolfan Gelfyddydau prysur Aberystwyth lle bu'n Gyfarwyddwr dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mae'r Ganolfan yn cyflwyno rhaglen gyfoethog o berfformio a chelfyddydau gweledol ond mae hefyd yn ymwneud yn fawr â datblygiad gweithgarwch celfyddydol yng nghymunedau Ceredigion.
 

Mae Dafydd wedi cael gyrfa nodedig ym myd darlledu a yrrwyd gan y weledigaeth o ddarparu 'y gorau ar gyfer y nifer fwyaf'. Fel Cyfarwyddwr Cynnwys S4C ac fel ffigwr llwyddiannus a dylanwadol yn sector cwmnïau cynhyrchu annibynnol, aeth ati i feithrin uchelgais greadigol ac adeiladu perthnasoedd cydweithredol cryf. Nawr bydd yn dod â'r profiad hwnnw a'i ymrwymiad praff i gynhwysiant i'r dasg gyffrous o arwain Cyngor Celfyddydau Cymru. Fe fydd e'n gwneud gwahaniaeth.

Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

Rwy'n credu'n angerddol yng ngwerth y celfyddydau a'u gallu i wneud gwahaniaeth i fywyd a lles ein cenedl. Er ein bod yn wynebu llawer o broblemau sylweddol yn y celfyddydau yng Nghymru – nid lleiaf effaith pandemig COVID-19, yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng costau byw - rwy'n argyhoeddedig o’r effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael ar bob agwedd o'n bywyd cenedlaethol.

O fod wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol ar hyd fy ngyrfa a chael profiad ymarferol fel Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ers 2018, rwyf wedi gweld ar lawr gwlad yr effaith gall y celfyddydau ei chael ar fywydau pobl hen ac ifanc ac o bob cefndir cymdeithasol. Rwy'n hynod ddiolchgar i Michael Elliott am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud fel Prif Weithredwr dros dro ers mis Mawrth, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at arwain Cyngor Celfyddydau Cymru, ac adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd gan fy rhagflaenwyr, wrth i ni barhau â'n cenhadaeth i sicrhau bod y celfyddydau yng Nghymru er lles pawb.

Dafydd Rhys.

Mae penodiad Dafydd fel Prif Weithredwr yn cynnwys rôl Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r agwedd honno o’i rôl newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o'r broses recriwtio ar hyd y daith.

Bydd Dafydd Rhys yn dechrau yn ei swydd fel Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru yn yr hydref.

Bydd Dafydd yn olynu Nick Capaldi a roddodd y gorau i'w swydd yr haf diwethaf ar ôl 13 mlynedd, a'r Prif Weithredwr dros dro, Michael Elliott, sydd wedi bod yn y swydd ers dechrau mis Mawrth 2022 yn dilyn penderfyniad y darpar Brif Weithredwr, Sian Tomos, i gamu o swydd y Prif Weithredwr ar sail salwch ym mis Medi 2021.