Monitor Cyfranogiad Diwylliannol | Canfyddiadau Diweddaraf ar Agwedd ac Ymddygiad Cynulleidfaoedd

Canfyddiadau newydd ar ymddygiad mewn lleoliadau, dewisiadau ar gyfer ymgysylltu digidol/wyneb yn wyneb ar draws ffurfiau celfyddydol a sut mae gwerthoedd unigol yn dylanwadu ar bresenoldeb.

Ymunwch â ni wrth i ni edrych ar sut mae agwedd y cyhoedd at ymddygiad mewn lleoliadau yn newid a dysgu a yw ein gwerthoedd yn gwneud gwahaniaeth i’r lleoliadau rydyn ni’n dewis eu mynychu. A yw cynulleidfaoedd eisiau i sefydliadau wneud safiad ar faterion cymdeithasol ac amgylcheddol? Pwy sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan gostau byw? Pwy sy’n dal i boeni am Covid? Hefyd, cewch ragor o wybodaeth am sut mae dangos digwyddiadau’n fyw yn erbyn eu dangos ar-lein yn apelio at y cyhoedd.

Mae’r digwyddiad hwn yn defnyddio’r ymatebion diweddaraf yng Ngham 9 arolwg y Monitor Cyfranogiad Diwylliannol (Mehefin). Mae’r arolwg yn rhoi cipolwg ar ymddygiad mewn lleoliadau, gwerthoedd a ffrydio digidol (mewn partneriaeth â Chymdeithas y Prif Atyniadau i Ymwelwyr [ALVA], Centre for Cultural Value a Stagetext).

Y Monitor Cyfranogiad Diwylliannol yw arolwg panel hydredol (parhaus) cenedlaethol yr Asiantaeth Gynulleidfaoedd ynghylch cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a diwylliannol. Drwy gymharu data sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd am bron i dair blynedd, rydyn ni’n gallu gweld newidiadau yn agwedd ac yn ymgysylltiad cynulleidfaoedd a phenderfynu sut gall sefydliadau diwylliannol ymateb.

Dyddiad: Dydd Mercher 26 Gorffennaf 2023, 1:30pm - 3:00pm

Archebu lle: Archebwch eich lle am ddim – Monitor Cyfranogiad Diwylliannol | Canfyddiadau Diweddaraf ar Agwedd ac Ymddygiad Cynulleidfaoedd – Zoom, dydd Mercher 26 Gorffennaf 2023 1:30 PM - 3:00 PM (tickettailor.com)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:

  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am bwy sy’n debygol o ymuno â digwyddiadau diwylliannol.
  • Sut mae agweddau tuag at Covid a chostau byw yn effeithio ar hynny.
  • A yw cynulleidfaoedd yn disgwyl i sefydliadau wneud safiad ar faterion cymdeithasol ac amgylcheddol.
  • Cipolwg ar farn cynulleidfaoedd am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn ymddygiad annerbyniol mewn lleoliadau.

Pwy:

Bydd y sesiwn hon o ddiddordeb arbennig i uwch arweinwyr a’r rheini sydd angen trosolwg o dueddiadau’r sector – gan gynnwys uwch farchnadwyr, rhaglenwyr, pobl sy’n codi arian – ynghyd ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn sut mae cynulleidfaoedd diwylliannol yn ymddwyn, a pham.

Hwyluswyr:

Oliver Mantell, Cyfarwyddwr Tystiolaeth a Dealltwriaeth

Ella Brown, Ymchwilydd Tystiolaeth

Mae’r tîm Tystiolaeth a Dealltwriaeth yn rhannu canfyddiadau o ddata ac ymchwil The Audience Agency i gefnogi’r sector.

Fformat:

Mae’r sesiwn hon ar ffurf gweminar 60 munud, gan gynnwys y cyfle i ofyn cwestiynau.

Cost: Am ddim