Ym mhedwar ban byd, mae ysgolion yn ceisio datblygu gallu disgyblion i feddwl yn greadigol. Ond, gyda phwysau yn dod o bob tu, mae hyn yn creu sawl her i arweinwyr ysgolion. Mae’r canllaw ymarferol a rhyngweithiol hwn, sy’n seiliedig ar waith ymchwil rhyngwladol, yn cynnig popeth sydd ei angen ar arweinwyr a’u cydweithwyr ar gyfer datblygiad proffesiynol ac addysgu, er mwyn rhoi creadigrwydd wrth galon pob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Mae’r awduron rhyngwladol yn cynnwys arweinwyr ar syniadau yn y maes, yn ymchwilwyr ac yn hwyluswyr, ac mae wedi’i ysbrydoli gan raglenni megis Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau, sef rhaglen Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd ac ar gyflwyno syniadau creadigol i ddysgu ac addysgu ar draws y cwricwlwm.

Cyflwyna Creative Thinking in Schools: A Leadership Playbook wybodaeth am arwain mewn ysgolion, profiad o feithrin creadigrwydd ym mhob agwedd ar fywyd ysgol, ac hyrwyddo arferion creadigol yn y ‘sdafell ddosbarth. Bydd y llyfr yn cael ei gyfieithu i'r Gymraeg yn hwyrach eleni. 

Wedi’i gefnogi gan wefan arbennig sy’n cynnwys adnoddau ac astudiaethau, bydd y canllaw yn fodd i arweinwyr ac athrawon gysylltu a rhannu eu profiadau lle bynnag y bônt er mwyn datblygu, lledaenu a gwerthuso arferion creadigol mewn ysgolion.

Bydd Creative Thinking in Schools yn cefnogi cymuned broffesiynol sy’n gweld y meddylfryd creadigol yn greiddiol i addysg a sydd â diddordeb mewn ei wneud yn flaenoriaeth yn eu hysgol nhw.  Bydd yn annog dysgwyr i ddatblygu eu creadigrwydd a blodeuo mewn byd sy’n fwyfwy gymhleth.

Cefnogwyd Creative Thinking in Schools: A Leadership Playbook gan: The Mercers Company, ‘Creativity, Culture and Education’ a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Cliciwch ym am ragor o wybodaeth: www.leadingforcreativethinking.org  

Gair am yr awduron.

Yr Athro Bill Lucas yw athro dysg a chyfarwyddwr Canolfan Dysgu ar gyfer ‘Y Byd go-iawn’ ym Mhrifysgol Caerwynt. Yn ymchwilydd toreithiog, awdur a meddyliwr addysg, Bill yw cyd-sylfaenydd ‘Rethinking Assessment’ a chadeirydd cyngor y ‘Global Institute of Creative Thinking’. Roedd Bill yn gyd-gadeirydd Prawf Meddwl Creadigol PISA 2022. Roedd yn gyd-awdur Adroddiad Comisiwn Durham ar Greadigrwydd ac Addysg ac yn guradur ar Gyfnewidfa Greadigol Cyngor Celfyddydau Lloegr.  Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar y cyd ag Ellen Spencer a Louise Stoll.

Mae Dr Ellen Spencer yn Uwch-Ymchwilydd yng Nghanolfan Dysgu ar gyfer ‘Y Byd go-iawn’ ym Mhrifysgol Caerwynt, ac mae yno ers dros ddegawd yn gwneud ymchwil ar greadigrwydd ac arwain creadigol. Cyfuna ei gwaith ymchwil empirig a datblygu cysyniadol gyda phwyslais ymarferol ar ddatblygu ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Mae’n gyd-awdur sawl llyfr ac adroddiad gyda Bill.

Yr Athro Louise Stoll yw Athro Dysgu Proffesiynol Canolfan Arweinyddiaeth Addysg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac mae'n ymgynghorydd rhyngwladol. Mae ei gwaith ymchwil yn edrych ar gyfleon dysgu, gan gynnwys cynlluniau arwain creadigol. Mae hi’n gweithio’n aml i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Mae Louise yn mwynhau datblygu deunyddiau dysgu proffesiynol yn seiliedig ar ymchwil. Mae’n Gydymaith gyda’r Ganolfan Dysgu ar gyfer ‘Y Byd go-iawn’ ac hefyd gyda Creativity, Culture and Education (CCE) yn gweithio fel cydweithiwr academaidd, hwylusydd dysgu a chyfaill beirniadol.

Di Fisher-Naylor yw cyfarwyddwr Creativity, Culture and Education (CCE) sef sefydliad rhyngwladol ar gyfer dysgu creadigol. Mae’n arbenigo mewn dylunio rhaglenni, gweithredu a sicrhau safon, ac mewn addysgu proffesiynol ar gyfer arweinwyr ysgolion. Cefnogodd Di raglenni dysgu creadigol mewn sawl rhan o’r byd. Gadawodd Di yr Ysgol yn gynnar ac mae’n angerddol am gynnig profiadau dysgu creadigol safonol i gymunedau difreintiedig.

Ers 2015, mae Nia Richards yn cefnogi dysgu creadigol proffesiynol. Roedd yn Arweinydd Rhanbarthol i raglen dysgu creadigol yng Nghymru ac mae ‘nawr yn Reolwr gyda Creativity, Culture and Education. Roedd yn athrawes uwchradd ac addysg bellach am 13 mlynedd ac mae ganddi MA mewn Ymchwil i Ymarferwyr.

Sian James yw rheolwr cynllun Dysgu creadigol drwy’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru a chefnogodd dros 700 o ysgolion a’u hathrawon wrth iddynt archwilio addysgeg greadigol a pharatoi ar gyfer cwricwlwm newydd i Gymru. Wedi derbyn gradd Feistr yn Ngholeg y Drindod, gweithiodd Sian fel ymchwilydd teledu ac yna treuliodd dros ddegawd yn y maes Cyfathrebu yn y sector Celf a Diwylliant. Mae’n angerddol am y Celfyddydau a’i ymgysylltiad positif gydag ysgolion.

Gofynnwyd i Katy Milne, yn uniongyrchol gan enillydd gwobr TED, Yr Athro  Sugata Mitra i greu a datblygu un o’r labordai “School in the Cloud” ble bu’n gweithio â 14,000 a mwy o addysgwyr drwy’r byd. Cyn hynny, roedd Katy yn gyfarwyddwr Celf a Chreadigrwydd am 16 mlynedd gyda Greenfield Arts sef sefydliad a chanolfan gelf ble y bu’n creu cyfleon creadigol i addysgwyr a’r gymuned yng ngogledd-orllewin Lloegr.