Bydd yr ymchwil yn arwain at argymhellion ar ddulliau i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ymhlith ymarferwyr creadigol.

Gweler isod ddolen at arolwg ar gyfer ymarferwyr creadigol ac eraill sy’n gweithio yn y celfyddydau i gasglu barn ar y defnydd presennol o’r Gymraeg a’r gefnogaeth sydd ar gael ar draws y sectorau celfyddydol.

Rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn yr arolwg, lle bynnag mae unigolion ar y continwwm iaith Gymraeg. Beth bynnag fo'ch defnydd presennol o'r iaith neu sgiliau iaith Gymraeg, bydd eich barn a'ch cyfraniad yn bwysig i'r astudiaeth. 

CLICIWCH YMA I AGOR YR AROLWG

Dywed Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg y Cyngor, “Mae cwmni Arad yn cynnal arolwg holl bwysig ar ein rhan. Er mwyn tyfu argaeledd y celfyddydau lawr gwlad, rhaid tyfu hyder, gallu  a llwybrau datblygu gyrfa i ddarpar weithwyr creadigol yn y Gymraeg. Er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol yn y ffordd orau posib, rhaid casglu profiadau, barn a syniadau felly rwy’n erfyn ar gymaint o bobl ag sy’n bosib gyfrannu at yr arolwg hwn.”

Os hoffech gopi o'r holiadur mewn fformat arall, neu os, am ba bynnag rheswm, byddai’n well gennych drefnu i gynnal yr arolwg dros y ffôn/drwy gyfweliad rhithiol, cysylltwch â morgan@arad.cymru

Mae cwmni Arad yn cynnal arolwg holl bwysig ar ein rhan. Er mwyn tyfu argaeledd y celfyddydau lawr gwlad, rhaid tyfu hyder, gallu  a llwybrau datblygu gyrfa i ddarpar weithwyr creadigol yn y Gymraeg. Er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol yn y ffordd orau posib, rhaid casglu profiadau, barn a syniadau felly rwy’n erfyn ar gymaint o bobl ag sy’n bosib gyfrannu at yr arolwg hwn.

Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg y Cyngor